Dal i fyny ag un o’n hymddiriedolwyr mwyaf newydd, Anna Arrieta.
Mae Anna Arrieta yn gerddor a chydlynydd gwaith ieuenctid sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n arbenigo mewn prosiectau celfyddydau creadigol, gan gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial trwy gyfryngau creadigol.
- Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn ymddiriedolwr?
Rwy’n credu mai’r hyn a wnaeth fy ysbrydoli i ddod yn ymddiriedolwr oedd y cyfle i sicrhau bod fy safbwynt a’m llais am rywbeth rwy’n angerddol iawn amdano yn cael eu clywed, ac i allu cael sedd wrth y bwrdd gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Rwy’n credu, fel person ifanc sy’n byw yng Nghymru, fod hynny’n brofiad gwerthfawr iawn.
- Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am weithio gyda NTW?
Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw’r chwilfrydedd sydd gen i wrth ddechrau ar y rôl. Rwy’n llawn cyffro i ddysgu mwy am yr holl gyfleoedd a phrosiectau anhygoel sydd gan NTW i’w cynnig, ac i deimlo cyswllt unwaith eto â rhywbeth rydw i’n ei garu, sef y theatr. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gwrdd â rhai pobl anhygoel yr wyf yn siŵr y byddaf yn gallu dysgu cymaint ganddynt.
- Pa wahaniaeth ydych chi’n gobeithio ei wneud yn NTW?
Rwy’n gobeithio rhannu persbectif newydd gyda’r tîm yn NTW, a helpu i arddangos yr holl waith gwych rydyn ni’n ei wneud. Rwyf hefyd yn gobeithio y gallaf gyfrannu at brosiectau newydd sydd ar ddod a helpu i wneud cyfleoedd yn hygyrch i bawb waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa.
- Beth hoffech chi i’n cynulleidfaoedd ei wybod amdanoch chi?
Rwy’n gerddor, ac rydw i’n hoff iawn o fwyd! Rwyf hefyd wrth fy modd yn perfformio, rwyf wrth fy modd â’r theatr, ac rwy’n mwynhau casglu darnau celf – yn arbennig gan artistiaid lleol o Gymru.
- Beth yw eich profiad theatrig mwyaf cofiadwy?
Byddai’n rhaid i mi ddweud fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol, pan chwaraeais i Audrey 2 (y planhigyn), yn y sioe ‘Little Shop of Horrors’. Cefais gyfle i ail-greu y cymeriad yn llwyr a rhoi fy naws fy hun i’r peth. Roedd yn gymaint o hwyl! Mae’n dod ag atgofion gwych yn ôl o’m holl ffrindiau, fy athrawon, a hefyd un o fy hoff leoliadau yng Nghymru, Y Pafiliwn Mawr, Porthcawl.
- Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Caerdydd. Rwyf wedi symud yma yn ddiweddar, ac rwyf wrth fy modd â’r holl ddiwylliant ac amrywiaeth sydd yma. Mae pob rhan o Gaerdydd fel ei fyd bach ei hun, ni allech fyth ddiflasu! Lle arall sy’n dod i’r meddwl yw Llandudno. Dim ond cwpl o weithiau dwi wedi bod yno ond dwi’n cofio’r golygfeydd ar y daith ar y trên ac roedden nhw mor llonydd a hardd, fe wnaeth i mi sylweddoli cymaint mwy sydd i Gymru.