5 munud gyda... Melys Edwards - National Theatre Wales

5 munud gyda… Melys Edwards

Ebrill 13, 2021

Dal i fyny ag aelod newydd o Banel TEAM, Melys Edwards.

Mae Melys yn awdur, bardd a hyfforddwr ioga a myfyrdod sy’n Gymraes ddwyieithog ac yn byw yn Wrecsam. Ar hyn o bryd yn astudio Diwylliant, Beirniadaeth a Churadu yn Central Saint Martins UAL, mae ganddi ddiddordeb mewn sut y gellir defnyddio’r celfyddydau i ryddhau a grymuso’r hunan a’r grŵp.

Helo bawb!

Felly, beth wnaeth fy ysbrydoli i ymuno â Phanel TEAM National Theatre Wales?

Chi’n gwybod, gwelais ei fod wedi’i bostio yn rhywle ac mewn gwirionedd doeddwn i ddim wedi clywed am TEAM o’r blaen, ond roeddwn wedi gweithio ar gyfnod preswyl i artistiaid gyda National Theatre Wales a meddyliais “Ie, oce. Dw i’n mynd i wneud cais. Dw i am weld ynglŷn â beth mae hyn.” Ac rydw i wir yn llawn cyffro am weithio gyda National Theatre Wales ar lefel fwy personol oherwydd yn y gorffennol roeddwn i bob amser yn eu gweld fel peth eithaf pell oddi wrtha’ i fel person creadigol, ac erbyn hyn mae’n wirioneddol gyffrous i wybod bod fy llais yn cael ei glywed. Er mwyn gallu cael mewnbwn, chi’n gwybod. Rwy’n wirioneddol gyffrous am hynny. Ac rydw i wir yn gobeithio dod â lefel wirioneddol ddofn o ddilysrwydd a thryloywder. Chi’n gwybod, mae’r pethau hyn yn bethau rwy’n eu gwerthfawrogi ac rydw i wir yn sicrhau fy mod yn atebol am fod mor real â phosib a gonest ar bob lefel o gyfathrebu ac yn fy ngwaith creadigol, gan ei gadw mor onest ag y galla i a siarad am drawma, siarad am bositifrwydd, siarad am les. Siarad am ddiwylliant. Cael y math yna o sgyrsiau, herio’r status quo, chi’n gwybod. Does byth unrhyw bwynt mewn bod yn oddefol ac mae’r theatr yn lle perffaith i ddweud eich barn a mynegi eich hun, mewn ffordd greadigol serch hynny, nid mewn ffordd ymosodol, ond mewn ffordd greadigol, i bortreadu materion yr ydych am eu dangos i gynulleidfa ehangach, o’r gymuned, i’r gymuned. Ac i ddathlu Cymru, chi’n gwybod. Am gyfnod rhy hir mae pobl wedi bod â chywilydd o fod yn Gymry a siarad yr iaith Gymraeg. A dweud y gwir, mae’n hen bryd i ni deimlo’r fath falchder, chi’n gwybod.

Ychydig o bethau yr hoffwn i chi wybod amdanaf yw … Pan oeddwn yn 21, heb fod ymhell ar ôl i mi droi’n 21. Pa mor hir ar ôl hynny oedd hi? A dweud y gwir ddim yn hir, wythnos neu rywbeth. teithiais i LA ac … ie, mi wnes i deithio yno. Doedd gen i ddim bwriad, dim cynllun, doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un yno, dim byd. Teithiais i yno a dim ond 100, 200 o ddoleri oedd gen i a dyna ni, dyna ni ac roeddwn i’n meddwl, ie, fe af i a gweld beth sy’n digwydd. Ac roeddwn i’n profi fy hun – gadewch i ni weld a allaf ei wneud e. Ac mi wnes i, mewn gwirionedd. Roedd gen i rywle i fyw. Roedd gen i swydd, roedd gen i ychydig o swyddi. Roeddwn i’n iawn yno. Fe wnes i adeiladu bywyd i mi fy hun allan yna. Felly dyna un peth.

Peth arall – dwi’n siaradwr Cymraeg rhugl. Dw i’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Ydw, dw i’n caru’r iaith Gymraeg. Ond, chi’n gwybod, rwy’n cyfaddef yr oedd yn rhaid i mi deithio ac yna dod yn ôl adref i Gymru i ddod yn ôl adref ataf fy hun mewn ffordd, a’m gwreiddiau Cymreig.

Peth arall – dwi’n fardd. Dw i’n hyfforddwr ioga. Dw i’n fyfyriwr yn Central St Martin’s. Rwy’n caru ffiseg. Ac rydw i’n caru natur, chi’n gwybod, ac rwy’n gwerthfawrogi cefn gwlad Cymru yn fawr iawn. Rwy’n aml yn mynd allan i bigo llawer o flodau oherwydd maen nhw’n cael eu defnyddio mewn aromatherapi. Rwy’n deall manteision iachau yr holl flodau ac yn eu sychu hefyd. Ie, dant y llew. Mae dant y llew yn dda iawn, iawn i chi.

Rhaid mai fy mhrofiad theatrig mwyaf cofiadwy oedd pan aethon ni i Theatr Clwyd yn yr ysgol gynradd a gwylio rhywbeth o’r Mabinogi. Waw, roedd mor ddwys. Roedd yn ymwneud â Llywelyn a’r chwaer a, waw, ie. Roedd golygfa o lofruddiaeth ynddo a dwi’n ei gofio, gydag un o’r dynion yn trywanu llwyth o fagiau a phethau, ac roedd yn wirioneddol ddwys. Yn sicr fe arhosodd hynny gyda mi. Ie, a hwnnw oedd fy nghyflwyniad cyntaf i’r Mabinogi hefyd. Cŵl iawn.

Fy hoff le yng Nghymru yw fy nghartref. Fy nghartref, fy nghartref, fy nghartref. Mynydd Minera. Pen Mynydd Minera. Dyna fy hoff le yng Nghymru oherwydd, chi’n gwybod, dyna lle rydw i wedi cael fy magu ac mae’n eithaf unigryw byw ar ben y mynydd, yng nghanol caeau, ond… waw … mae’r golygfeydd mwyaf anhygoel i fyny yno. Felly mae’n lle eithaf arbennig i mi, chi’n gwybod. Mae’r machlud yn wych. Dwi wrth fy modd yno!

Blogiau

  • Mehefin 17, 2022
    Revisiting Dylan Thomas Day 2022
  • Mehefin 10, 2022
    Yen Robinson yn trafod ei gwaith fel Doula Marwolaeth
  • Mehefin 10, 2022
    Maureen Blades yn trafod ei gwaith fel trefnydd angladdau
  • Mai 25, 2022
    Gadewch i ni siarad am farwolaeth
  • Tachwedd 12, 2021
    Sgons hanner nos
  • Hydref 22, 2021
    “A blank canvas for you to play with”
  • Medi 2, 2021
    Ail-ddychmygu prosiect cymunedol yn ystod cyfnod o ynysu
  • Medi 2, 2021
    Stori helyntus Go Tell the Bees
  • Medi 2, 2021
    Mae’r Awdur a’r Cyd-Grëwr Naomi Chiffi yn dweud mwy wrthym am y sgript ar gyfer Go Tell The Bees
  • Awst 26, 2021
    Springboard: Cyflwyno Idrissa Camara
Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast