Dal i fyny ag un o’n hymddiriedolwyr mwyaf newydd, y gwneuthurwr theatr dwyieithog Steffan Donnelly.
Mae Steffan yn wneuthurwr theatr, awdur ac actor dwyieithog o ogledd Cymru. Mae’n Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Invertigo, ac yn aelod o Dasglu Llawrydd Cymru, Freelancers Make Theatre Work a Chyngor Creadigol Globe Shakespeare. Mae hefyd yn ymddiriedolwr Cyswllt Celf ac yn Gydymaith Celfyddydau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.
- Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn ymddiriedolwr?
Rwyf am ddod â phersbectif actor a gwneuthurwr theatr llawrydd i lywodraethiant, er mwyn helpu i lunio prosesau a phrosiectau. Yn fy ngwaith ar Dasglu Llawrydd Cymru, dadleuais dros gael rhagor o weithwyr llawrydd ar fyrddau, felly roeddwn i’n meddwl y dylwn gefnogi fy ngeiriau trwy weithredu!
- Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am weithio gyda NTW?
Ystod a maint gwaith NTW, ac archwilio sut y gall amrywiaeth eang o bobl o bob rhan o Gymru ymgysylltu ag ef a dylanwadu arno. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddod i adnabod y tîm a chefnogi eu cynlluniau!
- Pa wahaniaeth ydych chi’n gobeithio ei wneud yn NTW?
Rwy’n credu y gall diwylliant chwarae rhan fawr yn ein hadferiad o’r pandemig Covid-19, ac rwy’n angerddol am botensial prosiectau creadigol i sbarduno trafodaethau a grymuso pobl. Fe wnaeth y pandemig daro gweithwyr llawrydd yn galed, a datgelu cwestiynau brys ynglŷn â sut mae’r sector theatr yng Nghymru yn cael ei drefnu, yn enwedig o ran cydraddoldeb a hygyrchedd. Rwy’n gobeithio blaenoriaethu’r materion hyn yn ogystal â chefnogi’r tîm i ddatblygu ffyrdd o wasanaethu cymunedau ledled Cymru.
- Beth ddylen ni ei wybod amdanoch chi?
Rwy’n actor / cyfarwyddwr / awdur o Lanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch ac rwy’n credu ym mhotensial theatr yng Nghymru a’r dalent greadigol a thechnegol anhygoel sydd yma. Hoffwn i theatr fod ag ystyr i bawb yng Nghymru, fel dihangfa neu i archwilio gwahanol syniadau.
- Beth yw eich profiad theatrig mwyaf cofiadwy?
Mynd ymlaen yn rhy gynnar mewn perfformiad drama amatur o ‘We Will Rock You’ yn Theatr Gwynedd (lle mae Pontio bellach yn sefyll) – a thorri ar draws golygfa rhywun arall yn ofnadwy. Gwnaed y cylch yn gyflawn flynyddoedd yn ddiweddarach pan gefais ran fach yn ‘Bohemian Rhapsody’ a’r tro hwn fy olygfa i gafodd ei thorri.
- Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Llanddwyn. Ar gyfer y nofio, tirweddau epig, a’r ciw hufen iâ hir.