News Story

"Sea shanties, storytelling, comedy, surfing, music and more…"

Mae ein Rheolwr Cydweithredu, Naomi Chiffi yn rhannu sut y dathlodd TEAM Ddiwrnod Dylan Thomas 2022.

Eleni, bu TEAM NTW, mewn cydweithrediad â Mamgu’s Welshcakes, yn dathlu mewn steil ym mhentref harbwr hardd Solfach yn Sir Benfro. Solfach hefyd yw lleoliad yr ail-gread o Dan y Wenallt yn 2015; cawsom ein hamgylchynu gan delynegiaeth Dylan ei hun.

Fel rhan o’r digwyddiad, lansiwyd cyfres o gystadlaethau wedi’u hysbrydoli gan fyd a geiriau Dylan Thomas.

Fe wnaethom wahodd ysgolion cynradd i dynnu ar ddarluniau hyfryd Peter Blake ar gyfer Dan y Wenallt. Ynghyd â gwaith ysblennydd Di Ford, sydd wedi cydweithio gyda TEAM ers amser hir, gwahoddwyd disgyblion i greu collage mewn ymateb i benillion agoriadol hypnotig drama Dylan Thomas ar gyfer lleisiau. Wedi’i beirniadu’n garedig gan Di Ford, a roddodd ei phrintiau fel gwobrau hefyd, yr enillydd oedd Josie o Ysgol Hafan y Môr, Dinbych-y-pysgod gyda’r ail safle yn mynd i Ysgol Gynradd Gymunedol Aberllydan.

The world is never the same once a good poem has been added to it.

Dylan Thomas

Lansiwyd cystadleuaeth farddoniaeth ar y thema ‘Dŵr’.

Cawsom ein syfrdanu gan y nifer o ymatebion ac rydym yn ddiolchgar iawn i Fardd Plant Cymru, Connor Allen a Phennaeth Cynhyrchu NTW, David Evans am feirniadu’r cystadlaethau i ni.

Enillydd y categori 11-16 oedd Ava o Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod. Ysgrifennodd mewn trosiadau hardd ar gyfer ein glannau ac mae’n mynd â ni i fan lle gallwch arogli aer hallt y môr. Yn ail, ysgrifennodd Lily o Ysgol Gyfun Gartholwg alwad obeithiol i weithredu wrth drin ein moroedd a ffynonellau dŵr gyda chariad a pharch.

Gyda gwobrau gan The Edge Festival a gwaith celf gan Cara Gaskell, enillydd y gystadleuaeth agored oedd Katherine Levell, gydag Ifor Thomas yn ail. Nesaf oedd Gareth Davies a Nicky Whitfield a enillodd dalebau a roddwyd gan Mamgus Welshcakes.

Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd gynnig arni ac i’r holl artistiaid a gymerodd ran yn y digwyddiad anhygoel hwn.

Naomi