Araith ragarweiniol Phil Okwedy - National Theatre Wales

Araith ragarweiniol Phil Okwedy

Cyflwyniad y storïwr a’r gwneuthurwr chwedlau, Phil Okwedy i TEAM a thaith Go Tell the Bees:

TEAM NTW yw dull unigryw’r cwmni o ymgysylltu.  Mae’n rhwydwaith byd-eang o ffrindiau sy’n cydweithio gyda’r cwmni, yn curadu digwyddiadau yn eu cymunedau, yn rhoi adborth ar waith NTW ac yn ein cefnogi wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o’r sefydliad.

Yn 2018 dechreuodd TEAM ar ei brosiect mwyaf hyd yma – un sy’n parhau i gynnwys cymunedau Sir Benfro a Wrecsam mewn rhaglen bwrpasol o rymuso, arweinyddiaeth, gweithgarwch creadigol ac ymgysylltu tymor hir dwys, gan arwain at gynhyrchiad NTW lawn yn y ddau leoliad.

Mae’r prosiect hwn, a ariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn yn ymwneud â gwrthdroi’r cydbwysedd pŵer rhwng sefydliad celfyddydol a’r cymunedau y mae’n gweithio gyda nhw – gan ymgorffori dull o’r gwaelod i fyny yn hytrach nag o’r brig i lawr sy’n gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i gyd-greu pob agwedd o’r gwaith. 

Fe wnaethom lansio gyntaf gyda sesiwn rhannu syniadau yn Ninbych-y-Pysgod, yn cynnwys Louise Wallwein, Ali Goolyad a Molara Awen a dilynwyd hwn gyda Pharti Perfformio yn HaverHub – roedd hwn yn ddigwyddiad theatr fforwm a gyfarwyddwyd gan Catherine Paskell lle bu pobl yn rhannu eu syniadau am yr hyn y gallai’r sioe neu’r digwyddiad hwn fod, a’r canlyniad oedd eu bod eisiau gweld digwyddiadau ym Mhenfro a Maenorbŷr ac y dylai thema beth bynnag a grëwyd gennym ymwneud â’r cysylltiad rhwng pobl ym mhob un o’r cymunedau amrywiol ledled Sir Benfro yn ogystal â dathliad o harddwch a breuder ein hamgylchedd naturiol.  Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf cynhaliom amryw ddigwyddiadau casglu syniadau, nosweithiau meic agored, partïon, gweithdai a sesiynau ysgolion i helpu i gynhyrchu syniadau ymhellach ac adeiladu rhwydwaith o bobl oedd yn gweithio ar draws sawl ffurf ar gelf, y byddem yn eu hystyried i gyd yn gyd-grewyr Go Tell the Bees.  Dros fisoedd lawer fe wnaethom ddatblygu cysyniad ar gyfer gŵyl i ddathlu ein cysylltiad â’n gilydd ac â’n hamgylchedd, y byddai stori’n rhedeg drwyddi – darn hir yn para am ddau ddiwrnod ac wedi’i osod ar draws dau safle, ym Mhenfro a Maenorbŷr, ac yn cynnwys cynifer o bobl o bob rhan o Sir Benfro â phosibl, gyda chwaer-weithgareddau yn digwydd mewn trefi a phentrefi ledled y sir – roedd yr uchelgais yn enfawr ond roeddem yn llawn cyffro am y posibiliadau – roedd yn teimlo fel gwir ddathliad o gyd-greu – fe wnaethom hyd yn oed fuddsoddi yn ein cwch gwenyn a haid TEAM ein hunain, gyda Rhys Hughes o Mel o’r Môr yn ddigon caredig i edrych ar eu hôl i ni.  Ac yna… tarodd Covid.

Ar ddechrau’r pandemig roedd gobaith o hyd y byddai hyn yn argyfwng tymor byr ac y byddai bywyd, gan gynnwys bywyd y celfyddydau perfformio, yn dychwelyd ar ôl haf 2020, efallai mewn ffurfiau wedi’u newid. Felly, ni wnaethom ganslo’r uchelgais wreiddiol ar gyfer y cynhyrchiad ar unwaith. Daeth yn amlwg yn fuan fod hyn yn hynod optimistaidd ac y byddai angen i ni feddwl mewn ffordd newydd am yr holl broses. 

Dechreuon ni raglen o ymgysylltu digidol, a’i nodau oedd parhau i adael i bobl wybod bod Go Tell the Bees yn dal yn fyw iawn, i barhau i ddod o hyd i ffyrdd i bobl gyfrannu’n greadigol at ei ddatblygiad, er mwyn rhoi cyfle i bobl dod at ei gilydd mewn undod a dathliad – eiliad o gyfranogi torfol (er gwaethaf cael ein cadw ar wahân oherwydd y cyfnod clo), ac i barhau â’r broses Ymchwil a Datblygu (R&D) sydd ei hangen i yrru’r stori yn ei blaen, llunio gweledigaeth y naratif, creu llais a golwg y sioe, beth bynnag y bydd yn y pen draw.

Cenhadaeth un oedd creu blodau haul i ddyluniad a grëwyd gan Di Ford gyda fideo cyfarwyddiadol a grëwyd gan Gemma Green-Hope gyda cherddoriaeth gan Ben Mason. Gyda phawb wedi’u cyfyngu i’w cartrefi, roeddem am ddarparu cyfle i greu a gobeithio, yn seiliedig ar themâu’r sioe. Yn awyddus i wneud y broses yn agored i bawb gwnaethom wahodd pobl i ofyn am becynnau celf am ddim – roedd hyn yn darparu cyfleoedd cyflogaeth i ddau ymarferydd a ddosbarthodd y pecynnau.  Gwnaethom weithio mewn partneriaeth â chymdeithas tyfwyr lleol a roddodd gannoedd o hadau a ddosbarthwyd gyda’r pecynnau celf, gyda phobl yn cael eu hannog i blannu a rhannu delweddau o’r blodau a dyfwyd ganddynt. Gwnaethom hefyd ofyn i bobl rannu delweddau o’u creadigaethau a’u cadw’n ddiogel ar gyfer digwyddiad arbennig. 

Er mwyn diwallu’r angen i ddarparu eiliadau o gyfranogiad torfol a chyrhaeddiad mor eang â phosibl fe wnaethom ddatblygu gorymdaith ddigidol i efelychu’r orymdaith gorfforol yr oeddem wedi gobeithio y byddai wedi bod yn rhan o’r sioe go iawn. Rhoddodd hyn gyfle gwych i R&D y naratif, a ddatblygwyd gennym gyda’r actorion Ioan Hefin a Carys Eleri.  Roedd hefyd yn darparu cyfleoedd i actorion a grwpiau cymunedol fod yn gyfranogwyr â thâl, gan gynnwys Bella Voce & Samba Doc. Fe wnaethom ddarparu cyfleoedd i aelodau’r gymuned gymryd rhan trwy ddysgu dawns, gan Sean Griffiths o Unison Dance Group yn Aberdaugleddau a chyfansoddodd Carys Eleri & Branwen Munn gân, Go Tell the Bees/Dod Nôl yn Fy Nghoed, a ryddhawyd i godi arian i’n partner elusennol, Maint Cymru. Daeth hyn i gyd i ben gyda pherfformiad byw o’r orymdaith, lle anogwyd cynulleidfa Zoom i chwifio’u blodau haul ar bwyntiau allweddol yn y sioe.

Gan weithio gyda Counterpoints Arts & Phanel TEAM fe wnaethom wedyn greu ein rhaglen Gweithreoedd Syml, wedi’i hysbrydoli gan waith Counterpoints Arts yn ogystal â geiriau Dewi Sant ei hun, “Gwnewch y  Pethau Bychain” –  mae’r rhain yn saith Gweithred Syml sy’n ein helpu i gysylltu’n well â’n hamgylchedd ac â’n gilydd.  O hyn, gweithiodd Julia Thomas a minnau gyda chwe ymarferydd creadigol a phum athro ymgynghorol wrth ddatblygu yr Ystorfa Ddysgu, sef banc o adnoddau ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3 sy’n ategu Cwricwlwm Cenedlaethol newydd Cymru, sy’n cynnwys Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ac a oedd yn darparu adnodd nid yn unig ar gyfer athrawon ond hefyd y rhai a oedd yn addysgu gartref yn ystod y cyfnod clo. 

Wrth i’r misoedd symud ymlaen gwnaethom sylweddoli ein bod yn agosáu at 25ain Pen-blwydd trychineb y Sea Empress – rhywbeth a oedd wedi ymddangos yn helaeth yn ein meddwl o amgylch y sioe, gan ei fod yn foment allweddol mewn amser pan ddaeth pob un o’r gwahanol gymunedau yn Sir Benfro at ei gilydd er mwyn helpu i alaru am yr anhrefn esthetig a ysbeiliodd yr arfordir a’i drwsio.  Gwnaed y penderfyniad R&D nesaf i greu’r rhaglen ddogfen rydych chi newydd ei gweld, wedi’i chyfarwyddo gan Gavin Porter ac yn gweithio gyda Wayne Boucher & Rowan Chitania o Postcards & Podcasts Penfro.  Wedi’i adrodd gennyf i, gyda dyluniad gan Di Ford, mae’r rhaglen ddogfen yn adrodd hanes atgofion 25 o bobl o ddigwyddiadau’r cyfnod.  Cynhaliodd Naomi gyfres o gyfweliadau a helpodd wedyn i fwydo i mewn i’r sgript. 

Pan wnaeth y tîm creadigol ailymgynnull am y tro cyntaf ar ôl y cyfnod clo, roeddem yn dal i obeithio y byddem yn gallu creu perfformiad byw, gyda phrofiadau a gosodweithiau ledled Penfro a Maenorbŷr i gynulleidfaoedd eu mwynhau.  Roeddem am archwilio’r llinyn cyffredin sy’n bodoli trwy phob peth byw – cerddoriaeth y planhigion, cerddoriaeth y sêr, cerddoriaeth y cerrig, y cyfathrebu rhwng cymunedau coed a’r ffaith bod gwenyn eu hunain mor ddibynnol ar gerddoroldeb, yn perfformio dawnsfeydd siglo a dull o gyfathrebu a suo i C ganol er mwyn rhyddhau’r paill gorau o flodau.  Roeddem yn gobeithio darparu profiadau fel ystafell wedi’i llenwi â phlanhigion yn canu, ystafell wedi’i llenwi â thafluniadau serennog i gyd ynghyd ag elfennau wedi’u sgriptio a ddatblygwyd mewn sgwrs â’r bobl yr oeddem wedi bod yn gweithio gyda hwy ers amser maith. Wrth i ni archwilio llinell stori yn ymwneud â hyn ac yn gysylltiedig â’r holl weithgarwch yr oeddem wedi’i gynhyrchu yn ystod y cyfnod clo, roeddem yn gobeithio na fyddai realiti sioe fyw yn rhy uchelgeisiol. Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn fuan y byddai beth bynnag yr oeddem yn gallu ei greu ar gyfer cynulleidfa gyfyngedig iawn, gyda chast bach iawn ac nid oedd y nod gwreiddiol o ddatblygu rhywbeth gyda, gan ac ar gyfer cymuned fawr o bobl yn mynd i fod yn bosibl yn y ffordd hon. 

Gwnaed y penderfyniad felly, i greu Go Tell the Bees fel ffilm yn lle cynhyrchiad ar lwyfan. Caniataodd hyn inni weithio’n ddiogel o fewn rheoliadau Covid ond rhoddodd gyfle inni hefyd gynnwys cynifer o bobl a lleoedd yn unol â’n huchelgais wreiddiol, yn ogystal â chreu darn o waith i’w rannu mewn digwyddiadau (pan fo hynny’n bosibl) a chyda chynulleidfa ehangach ar-lein.  Fe wnaethon ni ddewis saethu’r ffilm mewn tair haen, er mwyn cipio cynifer o bobl a lleoedd â phosib ac felly mae’n ffilm wedi’i rhannu’n dair – yn gyntaf, eiliadau wedi’u sgriptio a’u cyfarwyddo’n theatrig, ac yn ail, haen o ffilm wedi’u saethu gydag aelodau’r gymuned sydd wedi bod yn rhan o’r siwrnai hon o’r dechrau, gan gynnwys cyfweliadau gair am air a gynhaliwyd gyda syrffwyr, pysgotwyr a nofwyr môr.  Roedd yr haen olaf yn ffilm a gyflwynwyd gan bobl ledled Sir Benfro a thu hwnt, a ffilmiodd eu hunain ar eu ffonau, yn perfformio ein Gweithredoedd Syml a chymryd rhan mewn gwylnos yng ngolau cannwyll a ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau go iawn trychineb y Sea Empress, stori sy’n ymddangos yn helaeth yn y rhaglen ddogfen.  Felly nawr, mae gennym ni ffilm wedi’i chreu gyda dros 400 o bobl o bob rhan o Sir Benfro a thu hwnt, gyda dros 30 o wahanol leoliadau yn ymddangos sy’n wirioneddol gyda, gan ac ar gyfer pobl y sir hon.

Cymerwch gip ar ein ap, lle gallwch archwilio themâu’r ffilm yn fwy manwl.

Cliciwch yma i fynd yn ôl i dudalen y ffilm.

Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast