BOD YN GYFARWYDDWR SY’N DOD I’R AMLWG AR ON BEAR RIDGE
Izzy Rabey, Cyfarwyddwr sy’n dod i’r Amlwg ar ‘On Bear Ridge’, a derbynnydd Bwrsari Cyfarwyddwyr sy’n Dod i’r Amlwg Ymddiriedolaeth Carne.
Rwy’n dal i fod ychydig yn hunanymwybodol am ddisgrifio fy hun fel ‘Cyfarwyddwr sy’n Dod i’r Amlwg ‘- mae’n gwneud i mi deimlo ychydig fel diplodocws bach, yn sgrechian wrth ddeor o wy. Efallai bod hynny’n dweud llawer am fy hunanganfyddiad fy hun, ond rwyf yn gwella o ran ei ddefnyddio fel term, rwy’n addo.
Ar ôl gweithio yn y byd theatr ymylol yng Nghymru dros y saith mlynedd diwethaf yn gwneud a hunan-gynhyrchu fy ngwaith fy hun gyda fy nghwmni theatr Run Amok ac fel Ymarferydd Drama Gymhwysol a cherddor, On Bear Ridge oedd y swydd gyfarwyddo gyntaf ar gynhyrchiad llawn gyda chwmni blaenllaw i mi ei chael yn fy ngyrfa. Neilltuais fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol i gyfarwyddo gwaith Ed Thomas, gan lwyfannu House of America mewn tŷ oedd yn dadfeilio ar gampws y brifysgol, lle na allem gael ond saith aelod yn y gynulleidfa ar unrhyw un adeg. Nid y cysyniad mwyaf dilys yn fasnachol nac yn economaidd mae’n wir, ond cefais lawer o hwyl yn ei wneud a chael myfyrwyr eraill o Gymru i gyfrannu pice ar y maen ffres ar gyfer pob perfformiad (fel menter i gadw’r gynulleidfa yno: mis Rhagfyr oedd hi a doedd dim gwres!). Sbardunodd hyn fy nghariad at ysgrifennu Ed Thomas; roeddwn i wrth fy modd â’r ffaith ei fod mor anarchaidd o abswrd, a’i ddrama ‘Flowers of the Dead Red Sea’ oedd y daith gyntaf iawn i gael ei hariannu i fy nghwmni theatr yn 2014. Rhoddodd fy obsesiwn gyda Sarah Kane, Debbie Tucker Green a dramodwyr eraill o’r Royal Court gariad dwfn i mi at theatr testun yn gynnar iawn yn fy ngyrfa.
Felly pan welais i’r cyfle am swydd yn dod i fyny ar gyfer Cyfarwyddwr sy’n dod i’r Amlwg ar gyfer On Bear Ridge, cydweithrediad rhwng NTW a The Royal Court, wedi’i gyd-gyfarwyddo gan Vicky Featherstone (Cyfarwyddwr Artistig The Royal Court) ac Ed Thomas, roedd perffeithrwydd llwyr y peth yn golygu fy mod i wedi gwneud cais gyda hyd braich emosiynol hynod wrthrychol nad oedd erioed wedi digwydd i mi o’r blaen. Roedd yn crisialu’n berffaith yr holl resymau pan yr wyf yn gyfarwyddwr theatr yn y lle cyntaf – doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu dychmygu bod y peth yn bodoli go iawn.
… Ond dyma ni! Agorodd On Bear Ridge yn y Royal Court yr wythnos diwethaf, ac rwy’n ôl yng Nghaerdydd yn mynd i’r afael eto gyda gwahanol brosiectau cerddoriaeth a Theatr Gymhwysol yr wyf wedi gorfod eu rhoi o’r neilltu wrth gymryd rhan yn y broses o ddod â’r sioe hon yn fyw. Yr hyn a fu’n wych am y broses gyfan oedd pa mor werthfawr yr oeddwn yn teimlo oedd fy llais fel Cyfarwyddwr sy’n Dod i’r Amlwg/Cynorthwyol yn y gofod. Mae Vicky Featherstone yn gweithio mewn ffordd gynhwysol iawn gyda’i chwmni, gan greu cyfle parhaus i ni leisio ein meddyliau a’n syniadau creadigol. Law yn llaw â’i hymarfer roedd agwedd ymarferol Ed ynghylch ei destun ei hun; gwnaethom dorri, golygu, ychwanegu a chyfnewid rhannau o’r ddrama yn barhaus mewn ffordd rydd nad oeddwn erioed wedi ei phrofi o’r blaen fel rhan o broses ymarfer. Roedd rhai dyddiau’n ymarfer lle roeddwn i’n teimlo fy mod i’n rhan o ddarn wedi’i dyfeisio, a oedd yn hynod gyffrous a chwareus; yn creu proses a oedd bob amser yn ddeinamig ac yn llawn deialog. O ran fy nghyfraniad i, cefais fy synnu sut y daeth fy ngwaith theatr gymhwysol a cherddoriaeth yn flaenllaw yn ystod y broses (rwy’n aml yn cadw’r tri pheth ar wahân) – gan gyflwyno’r cwmni i gerddoriaeth Bragod (a ddaeth yn themâu cerddorol canolog y ddrama – wedi’u trefnu’n hyfryd gan John Hardy a Tic Ashfield) a recordiad o Oasis World Choir yn cael ei gynnwys mewn rhan yn y ddrama lle’r oedd Vicky ac Ed yn awyddus i gael sŵn ‘cymuned o leisiau’ yn canu. Mae Oasis World Choir (a sefydlwyd ac a gynhelir gan fy nghydweithwyr Laura Bradshaw a Tracy Pallant o Valley and Vale Community Arts) yn gôr wythnosol sy’n cyfarfod yng Nghanolfan Ffoaduriaid Oasis ar Heol Sblot yng Nghaerdydd. Mae’r côr yn cynnwys aelodau o’r gymuned leol a ffoaduriaid o wledydd sy’n amrywio o’r Congo, Iran, Honduras, Tanzania a rhagor. Mewn drama sy’n ymdrin â cholli plant, hunaniaeth ddiwylliannol, rhyfel ac iaith, i mi roedd yn gwneud synnwyr llwyr i gynnwys yr Oasis World Choir yn y prosiect (roeddent hefyd wedi gallu dod i weld y cynhyrchiad yn ystod ei gyfnod yn Theatr y Sherman ym mis Medi).
Roedd gweithio nid yn unig gyda grymoedd creadigol enfawr Featherstone a Thomas ond gyda chwmni o actorion oedd i gyd mor hael a chwareus gyda’i gilydd, yn ysbrydoliaeth i’w wylio yn yr ystafell ymarfer. Mae gwaith Thomas yn arbenigo mewn ystwythder abswrdiaeth barddonol, fel Spiderman yn swingio a llamu rhwng adeiladau; roedd yn wych gwylio ymwybyddiaeth ac ymatebolrwydd yr actorion i’w gilydd a’r testun wrth iddynt ei feithrin. Roeddem yn hynod ffodus i gael ensemble gwych o actorion a oedd yn gwneud pob diwrnod o ymarfer yn ddoniol, yn dorcalonnus ac yn syfrdanol. Roedd y diffyg ego llwyr yn yr ystafell ymarfer, ynghyd â’r llawenydd a rannwyd rhwng unigolion o ddylunio i reoli llwyfan i gyfarwyddwyr i actorion a oedd yn angerddol dros eu gwaith a’r prosiect, yn ei wneud yn broses hynod o werthfawr i fod yn rhan ohoni.
Rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn barhau i adeiladu partneriaethau rhwng theatrau ledled y DU a’n Theatr Genedlaethol, diolch i haelioni anhygoel pobl fel Bwrsari Ymddiriedolaeth Carne i Gyfarwyddwyr sy’n Dod i’r Amlwg; er mwyn i gyfarwyddwyr ifanc fel fi, nad ydynt efallai wedi dilyn llwybr confensiynol o bosibl o ran dilyniant gyrfa, yn cael y cyfle i weithio gyda mudiadau creadigol a hanesyddol mawr eu parch fel The Royal Court. Roedd yn swydd wnaeth newid fy mywyd i mi, un a ddysgodd gymaint i mi am gyfarwyddo, golygu testun a chydweithredu, ond hefyd gwnaeth i mi deimlo bod fy llais yn bwysig yn ystafell ymarfer prosiect ar raddfa fawr. Ar adeg pan fo lleisiau Cymreig mewn perygl o gael eu hymyleiddio ymhellach o ganlyniad i doriadau mewn cyllidebau, gall partneriaethau fel hyn fod yn ffordd wych i wrthwynebu’r sefyllfa, gan ail-danio balchder dros y llais abswrdaidd barddonol sy’n bodoli ym mhob un ohonom ynom.