Cadair Goch Bywyd Gwyllt
Ynglŷn â'r adnodd

Mae’r adnodd hwn yn cynnwys 10 ffeil ffeithiau anifeiliaid ar gyfer 10 math gwahanol o fywyd gwyllt cyffredin Prydain. Y gweithgaredd a awgrymir yw i ddisgyblion rannu’n grwpiau a’u defnyddio ar gyfer ymarfer cadair goch.
Gellir rhannu disgyblion naill ai’n grwpiau o 2 neu 3 – os yn grwpiau o 2, gall disgyblion MAT ymchwilio i anifeiliaid o’r dechrau yn lle defnyddio ffeil ffeithiau fel canllaw. Awgrymir argymhellion ar gyfer 5 anifail cyffredin arall yn y nodiadau i athrawon ar gyfer y grwpiau eraill hyn.
Ar ôl i ddisgyblion ymchwilio i’w hanifail mewn meysydd penodol, gellir cynnal ymarfer cadair goch lle y disgyblion ‘yw’r’ anifail ac maent yn ateb cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi’i ddarganfod.
Cliciwch yma i ddychwelyd i’r Ystorfa Addysg Go Tell The Bees.
Adnoddau a lincs
Lawrlwythiadau
Cliciwch ar deitl y ddogfen uchod i lawrlwytho’r adnodd.
Mae’r pdfs hyn yn gydnaws â darllenwyr sgrin a nodweddion mynediad eraill yn Adobe Reader. Am ragor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y nodweddion hyn, cliciwch yma.
Adnoddau sydd eu hangen
- Ffeiliau Ffeithiau Anifeiliaid wedi’i hargraffu. (Neu gellir eu gweld ar iPad neu ddyfais debyg).
Gweithred Syml
- Dysgu Un Peth Newydd am Natur
Maes Dysgu a Phrofiad
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Wedi'u creu gan
Treuliodd Eilidh Brailey y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn ei theatr ieuenctid leol, yn gyntaf fel cyfranogwr ac yn ddiweddarach yn arwain gweithdai i bobl iau. Aeth ymlaen i ddyfeisio a pherfformio sioeau yng ngŵyl Ymylol Caeredin, gan helpu i atgyfnerthu ei barn am bwysigrwydd y celfyddydau i bobl ifanc. Ar ôl cwblhau ei gradd, symudodd Eilidh i Gymru i gwblhau ei TAR, gan hyfforddi i fod yn athrawes ysgol gynradd. Yn ddiweddar, cwblhaodd yr hyfforddiant hwn a’i nod yw gweithredu creadigrwydd a dysgu creadigol wrth gyflwyno gwersi i ysgogi dychymyg ei disgyblion a helpu i ddatblygu eu sgiliau creadigol ynghyd â hyrwyddo hunanhyder.
Lluniau ar tud. 4-7, 9, 11-13 gan Lawrie Brailey.