Amrywiaeth a chynhwysiant

Rydyn ni eisiau i'r straeon rydyn ni'n eu rhannu a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud deimlo ei fod yn perthyn i bawb - oherwydd mae’n rhywbeth sydd yn perthyn i bawb. Ddylai neb deimlo nad yw’r theatr ar eu cyfer nhw.

Does dim ots pwy wyt ti nac o ble rwyt ti’n dod, ers pa mor hir rwyt ti wedi bod yma na sut rwyt ti’n siarad. Rydyn ni’n perthyn i ti.

Mae Cymru'n cwiar, mae'n draws, mae'n Fyddar, mae'n anabl, mae'n niwrowahanol, mae'n ddosbarth gweithiol, mae'n Fwyafrif Byd-eang. Cymru yw pob un ohonon ni.

Rydyn ni’n gwybod bod ein diwydiant ni’n gallu codi braw. Mae sefydliadau’n aml yn bethau bygythiol, heb unrhyw ffordd hawdd o siarad yn uniongyrchol â nhw. Dydyn ni ddim eisiau bod felly.

Bod yn barod i gwrdd â phobl newydd a gwneud cysylltiadau newydd yw’r rheswm pam ein bod ni yma: i ddefnyddio theatr fel ffordd o gysylltu â’n gilydd, ar hyd a lled ein cenedl.