Telerau ac Amodau

Gwybodaeth am y cwmni

Mae National Theatre Wales yn gofrestredig yng Nghymru a Lloegr Rhif 6693227 Y swyddfa gofrestredig yw 30 Arcêd y Castell, Caerdydd CF10 1BW Mae National Theatre Wales yn elusen gofrestredig, Rhif 1127952 Ffôn: + 44(0)29 2035 3070 / info@nationaltheatrewales.org

Cymuned ar-lein National Theatre Wales

O ran rhwydweithio cymdeithasol ar-lein ar wefan cymuned National Theatre Wales, community.nationaltheatrewales.org, mae’r cyfraniadau a’r farn a fynegir yn farn y cyfranwyr unigol ac nid yn farn National Theatre Wales sy’n cadw’r hawl i ddileu yn ôl-weithredol unrhyw gyfraniadau a gyflwynir. Cyfrennir cynnwys y gymuned ar-lein yn unol â thrwydded Creative Commons: creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/3.0

Mae amodau gwasanaeth ynglŷn â’r gymuned ar-lein (pob tudalen yn dechrau gyda http://community.nationaltheatrewales.org) ar gael yn: https://community.nationalthea...

Mae’r polisi preifatrwydd ynglŷn â’r gymuned ar-lein (pob tudalen yn dechrau gyda http://community.nationaltheatrewales.org) ar gael yn: http://community.nationaltheat...
(Nodir os gwelwch yn dda nid yw’r Gymuned yn ddwyiaethog)

Gwefan National Theatre Wales

National Theatre Wales sy’n berchen ar wefan National Theatre Wales ac yn ei rheoli. Mae National Theatre Wales yn ymroddedig i’r safon a’r ansawdd uchaf. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth gywir wrth ei chyhoeddi, nid yw National Theatre Wales yn gwarantu cywirdeb yr wybodaeth ar y wefan hon nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd ar gyfer unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra a achosir o ganlyniad i ddibyniaeth ar y fath wybodaeth.

Er bod National Theatre Wales yn cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar ei chyfer gan drydydd partïon yn gywir ac nid yn ddifrïol nac yn sarhaus, ni all reoli’r cynnwys na chymryd cyfrifoldeb am dudalennau a gynhelir gan ddarparwyr allanol, na thudalennau cysylltiedig.

Mae gan y defnyddiwr gyfrifoldeb llawn am ddiogelu ei system gyfrifiadurol ei hun, gan gynnwys caledwedd a meddalwedd gyfrifiadurol a data wedi’i storio ar ei gyfrifiadur gan gynnwys caledwedd, meddalwedd a data wedi’i storio gan drydydd partïon a all gael mynediad i system gyfrifiadurol y defnyddiwr neu gysylltu â hi mewn ffordd arall.

Bydd gan y defnyddiwr gyfrifoldeb llawn am sicrhau nad yw rhaglenni neu ddata arall a lawrlwythir na dderbynnir mewn ffordd arall o’r wefan hon yn cynnwys firysau, mwydod, ceffylau Caerdroea neu eitemau niweidiol eraill.

Bydd National Theatre Wales yn cymryd camau rhesymol i sicrhau na chaiff trydydd partïon gael mynediad heb ganiatâd i’r data a drosglwyddir yn electronig i National Theatre Wales ac a gaiff ei storio gan National Theatre Wales trwy’r wefan neu mewn ffordd arall yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 1998 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018.

Bydd y defnyddiwr yn derbyn y risg y gall trydydd partïon, heb ganiatâd National Theatre Wales, ryng-gipio neu gael mynediad i’r data a drosglwyddir yn electronig i National Theatre Wales trwy’r wefan hon neu mewn ffordd arall a’i ddefnyddio’n anghyfreithlon gan y fath drydydd partïon heb ganiatâd.

Ni fydd National Theatre Wales yn rhoi rhybuddion ynglŷn â diogelwch, ansawdd na gwedduster unrhyw wefan y gellir cael mynediad iddi trwy’r wefan hon ac ni fydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am y cynnwys nac am unrhyw golled neu ddifrod a achosir neu yr honnir iddo gael ei achosi gan ddefnyddio neu ddibynnu ar yr wybodaeth a geir ar y fath wefannau neu ar nwyddau neu wasanaethau a brynir o’r rhain. Mae gwefannau cysylltiedig y gellir cael mynediad iddynt trwy’r wefan hon yn wefannau annibynnol nad oes gan National Theatre Wales unrhyw reolaeth arnynt, boed hynny’n rheolaeth ariannol, olygyddol neu o unrhyw fath arall, ac nid yw National Theatre Wales yn eu cymeradwyo mewn unrhyw ffordd.

Diogelu data

Mae National Theatre Wales wedi ymrwymo i sicrhau diogelu'r holl wybodaeth bersonol sydd dan ein gofal, ac i ddarparu a diogelu data o'r fath. Mae National Theatre Wales yn gofrestredig yn unol ag amodau Deddf Diogelu Data 1998 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018.

Caiff yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi ar ein ffurflen gofrestru ar-lein ei chadw’n ddiogel ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall ar wahân i ni gysylltu â chi trwy e-bost am ddigwyddiadau a hyrwyddiadau National Theatre Wales oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni anfon gwybodaeth atoch gan sefydliadau eraill.

Dolenni i wefannau allanol

Bydd dolenni ar y wefan hon yn arwain i wefannau eraill nad oes gennym reolaeth arnynt. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan gysylltiedig. Ni ddylid ystyried bod rhestru a darparu dolen i wefan yn cymeradwyo’r wefan honno mewn unrhyw ffordd ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am y cynnwys. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth ar argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Diogelu yn erbyn firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn beth call i chi redeg rhaglen wrth-firws ar yr holl ddeunydd a lawrlwythir oddi ar y rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, difrod nac ymyrraeth â’ch data nac eich system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a geir o’r wefan hon.

Cwcis

Pecynnau gwybodaeth yw cwcis sy’n cael eu hanfon gan weinyddion gwe i borwyr gwe a’u storio gan y porwyr gwe. Yna caiff yr wybodaeth ei hanfon yn ôl i’r gweinydd bob tro mae’r porwr yn gofyn am dudalen gan y gweinydd. Mae hyn yn galluogi gweinydd gwe i nodi ac olrhain porwyr gwe. Os nad ydych yn gwybod beth yw cwcis, neu sut i’w rheoli neu eu dileu, gallwch fynd i www.aboutcookies.org am arweiniad manwl. Cewch ragor o wybodaeth ynghylch ein Polisi Cwcis fan hyn.

Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau Gwerthu (yr "Amodau")

1. Diffiniad o'r termau

1.1 Ystyr “Contract” yw’r contract rhyngom ni a chi a ffurfiwyd yn unol ag Amod 2.2

1.2 Ystyr “ni” ac “ein” yw National Theatre Wales, cwmni cyfyngedig drwy warant, sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 6693227 a rhif elusen 1127952, y mae ei gyfeiriad cofrestredig yn 30 Arcêd y Castell, Caerdydd, CF10 1BW;

1.3 Ystyr “Tocyn” yw tocyn a gynigir i’w werthu gennym ni ar gyfer perfformiad o unrhyw fath, a dehonglir “Tocynnau” yn unol â hynny;

1.4 Ystyr “Ffioedd” yw’r ffioedd hynny y manylir arnynt isod, sy’n briodol i’ch archeb am Docynnau;

1.5 Ystyr “chi” ac “eich” yw’r unigolyn y cawn yr archeb am Docynnau ganddo.

2. Ffurfio'r contract rhyngom ni â chi

2.1 Gwerthir pob Tocyn yn unol â’r Amodau hyn ac nid unrhyw delerau ac amodau eraill. Darllenwch yr Amodau yn ofalus cyn archebu Tocynnau.

2.2 Ffurfir contract ar gyfer gwerthu Tocynnau gennym ni i chi yn unol â’r amodau hyn ac yn ddarostyngedig iddynt ar ôl i ni dderbyn eich archeb, pa un a chaiff yr archeb honno ei gwneud (a) ar-lein (drwy gwblhau cyfres o dudalennau ar gyfer archebu Tocynnau ar ein gwefan), (b) yn bersonol yn ein swyddfa docynnau (y “Swyddfa Docynnau”) neu (c) drwy alwad ffôn â’r Swyddfa Docynnau. Nid ystyrir bod eich archeb wedi’i dderbyn hyd nes y cawn daliad yn unol ag Amod 4.5.

2.3 Cadwn yr hawl i osod cyfyngiadau ar nifer y Tocynnau a archebir.

3. Prisiau

3.1 Caiff prisiau Tocynnau ac argaeledd Tocynnau eu hysbysebu drwy nifer o ffynonellau ac fe’u darperir gennym ni ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i ni.

Nid oes rheidrwydd arnom i gwblhau unrhyw Gontract ar sail y prisiau a hysbysebwyd a chadwn yr hawl i gyflwyno neu ganslo gostyngiadau ac i wneud newidiadau eraill i brisiau yn ddirybudd. Yn benodol, gall gostyngiadau a chynigion arbennig fod yn gyfyngedig neu’n amodol ar argaeledd. Yn unol â hynny, pris Tocynnau ar gyfer y perfformiad fydd y pris a nodir ar ein gwefan neu’r pris y cewch eich hysbysu amdano (os byddwch yn archebu dros y ffôn neu yn bersonol) pan fyddwch yn gwneud eich archeb.

3.2 Rhaid i chi nodi unrhyw ostyngiad y credwch fod gennych hawl iddo pan fyddwch yn archebu eich Tocynnau, gan na ellir cymhwyso gostyngiadau yn ôl-weithredol. Mae cyfraddau gostyngol yn amrywio yn ôl y perfformiad, felly gofynnwch i’r Swyddfa Docynnau wrth archebu os bydd gennych unrhyw ymholiadau. Gellir gofyn am brawf adnabod a/neu brawf o’ch hawl i gael cyfraddau gostyngol: (a) pan fyddwch yn gwneud eich archeb; a/neu (b) pan fyddwch yn casglu eich Tocynnau; a/neu (c) yn y perfformiad ei hun.

4. Talu

4.1 Byddwch yn talu pris y Tocynnau a archebwyd i ni ynghyd ag unrhyw Ffioedd Archebu cymwys mewn perthynas â’ch archeb.

4.2 Yn ddarostyngedig i Amod 4.3, rhaid i chi dalu’r holl Ffioedd Tocynnau ac Archebu pan fyddwch yn gwneud eich archeb ac ni ellir cadw Tocynnau heb daliad.

4.3 Gellir gwneud taliadau drwy’r ffyrdd canlynol: (a) mewn arian parod yn y Swyddfa Docynnau, neu (b) gan ddefnyddio’r cardiau credyd a debyd canlynol: Visa, MasterCard, MasterCard Debit, Visa Delta, Maestro ac Electron.

4.4 Nid ystyrir bod Taliad o dan yr Amod 4 hwn wedi’i wneud hyd nes y byddwn wedi cael y swm perthnasol yn llawn ac mewn arian wedi’i glirio.

5. Dosbarthu a chasglu tocynnau

5.1 Rydym yn annog pob cwsmer i ddefnyddio’r swyddogaeth ‘argraffu gartref’ er mwyn lleihau costau i chi, lleihau’r risg y caiff tocynnau eu colli yn y post a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. Rhaid i chi ddarparu prawf adnabod a’ch tocyn wedi’i argraffu er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad.

5.2 Os bydd y cwsmer yn gofyn i ni anfon tocynnau ato drwy’r post, ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw Docynnau i chi hyd nes y byddwn wedi cael taliad yn unol ag Amod 4.4.

5.2 Yn unol ag Amod 5.5, os bydd y perfformiad ddeg (10) diwrnod neu fwy ar ôl y dyddiad y byddwch yn talu am eich Tocynnau, byddwn yn anfon eich Tocynnau atoch drwy’r post, os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Byddwn yn defnyddio gwasanaeth post ail ddosbarth safonol i wneud hyn, oni fyddwch yn nodi eich bod am i ni anfon y Tocynnau drwy wasanaeth post dosbarth cyntaf neu wasanaeth dosbarthu cofnodedig ac wedi talu’r Ffioedd priodol.

5.3 Os bydd y perfformiad o fewn naw (9) diwrnod i’r dyddiad y byddwch yn talu am eich Tocynnau, caiff eich Tocynnau eu cadw yn y Swyddfa Docynnau a rhaid i chi eu casglu. Rhaid i chi gyflwyno’r cerdyn debyd/credyd a ddefnyddiwyd i dalu am eich Tocynnau a/neu brawf adnabod priodol.

5.4 Pan fyddwn yn anfon Tocynnau atoch drwy’r post, byddwn yn anfon y cyfryw Docynnau yn unol â’r manylion cyfeiriad a roddwyd gennych at ddibenion o’r fath. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am Docynnau neu ddogfennau eraill a anfonir atoch a gaiff eu colli yn y system bost. Os caiff Tocyn ei golli, yna byddwn yn ailgyhoeddi’r un Tocyn, ond caiff ei gadw yn ein Swyddfa Docynnau a rhaid i chi ei gasglu yn unol ag Amod 5.3.

5.5 Cadwn yr hawl i oedi cyn postio Tocynnau neu ofyn i chi gasglu Tocynnau o’r Swyddfa Docynnau:

(a) o ran perfformiadau penodol lle yr ystyriwn yn rhesymol bod y cyfryw berfformiadau yn peri mwy o risg y caiff Tocynnau eu hailwerthu am elw neu fudd masnachol; a

(b) os byddwch yn archebu Tocynnau ar gyfradd ostyngol i fyfyrwyr. Gellir gofyn am brawf adnabod a/neu brawf o’ch hawl i gael cyfraddau gostyngol yn unol ag Amod 3.2.

6. Ad-daliadau, cyfnewid tocynnau a'u hailwerthu

6.1 Ni fyddwn yn cynnig ad-daliadau oni chaiff perfformiad ei ganslo. Bydd yn ofynnol i chi gyflwyno eich Tocynnau ar gyfer y perfformiad a ganslwyd cyn i ad-daliad gael ei gynnig. Os cynigir ad-daliad, fe’i cyfyngir i werth enwol y Tocyn yn unig ac ni fydd yn cynnwys unrhyw Ffioedd a allai fod wedi’u codi eisoes.

6.2 Yn amodol ar argaeledd, gallwn ganiatáu i chi gyfnewid Tocynnau a brynwyd hyd at 24 awr cyn dechrau’r perfformiad y prynwyd y cyfryw Docynnau ar ei gyfer am seddi ar gyfer perfformiad arall o’r un cynhyrchiad. Pan gaiff Tocynnau eu cyfnewid am seddi drutach, rhaid i chi dalu’r balans sy’n weddill. Byddwn yn codi ffi drafod o £1 am bob Tocyn a gaiff ei gyfnewid a bydd yn rhaid i chi gyflwyno’r holl Docynnau gwreiddiol i ni cyn y byddwn yn eu cyfnewid. Byddwn hefyd yn cadw unrhyw Ffioedd a godwyd mewn perthynas â’r Tocynnau a brynwyd gennych yn wreiddiol.

7. Newid i'r cast, y rhaglen a'r trefniadau a hysbysebwyd

Gwerthir Tocynnau yn ddarostyngedig i’n hawl i newid neu amrywio’r cast, y rhaglen a’r trefniadau a hysbysebwyd. Er mwyn osgoi ansicrwydd, ni chynigir ad-daliad os digwydd y cyfryw newid neu amrywiad.

8. Eich cyfrifoldebau

8.1 Rhaid i chi roi manylion cywir i ni amdanoch chi eich hun a’ch archeb pan fyddwch yn gwneud eich archeb, pa un a wneir y cyfryw archeb ar-lein, dros y ffôn neu yn bersonol. Dylech fwrw golwg manwl dros eich Tocynnau gan na ellir bob amser gywiro camgymeriadau ac ni wneir ad-daliadau ac eithrio yn unol â’r Amodau hyn.

8.2 Rydym yn ceisio sicrhau bod ein lleoliadau yn amgylchedd diogel a hapus i’n cwsmeriaid fwynhau perfformiadau ac i’n staff weithio. Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, tra byddwch yn ein lleoliad, byddwch yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir gan ein staff.

8.3 Byddwch yn gwneud y canlynol: (a) peidio â cheisio prynu unrhyw Docynnau ar gyfradd ostyngol oni fydd gennych hawl ddilys i fanteisio ar y gyfradd berthnasol; (b) peidio â recordio na darlledu drwy unrhyw fodd unrhyw luniau, fideos na synau sy’n rhan o berfformiad; (c) peidio â phrynu Tocynnau at ddibenion ailwerthu’r Tocynnau hynny am elw neu fudd masnachol; (ch) peidio â mynd â gwydr, camerâu a/neu unrhyw offer recordio i mewn i berfformiad; (d) diffodd pob ffôn symudol a/neu alwr a/neu ddyfeisiau cyfathrebu electronig eraill yn ystod y perfformiad; a (dd) peidio ag ysmygu yn ystod ein perfformiadau.

8.4 Os byddwch wedi prynu Tocynnau ar ran pobl eraill, eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi gwybod i’r cyfryw bobl am y telerau ac amodau hyn ac am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â hwy.

9. Ein hawliau

9.1 Cadwn yr hawl i wneud y canlynol:

(a) cynnal chwiliadau diogelwch er mwyn sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff;

(b) gwrthod mynediad i chi a/neu eich tywys allan o’n lleoliad neu unrhyw berfformiad o dan yr amgylchiadau canlynol: (i) os byddwch chi neu unrhyw un o’ch parti yn ymddwyn mewn ffordd a fydd neu a all effeithio’n andwyol ar fwynhad pobl eraill yn ein lleoliad neu unrhyw berfformiad; (ii) os byddwch, yn ein barn ni, yn ymddwyn yn afresymol boed o ganlyniad i fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau neu fel arall; (iii) os byddwch yn methu â chydymffurfio â chwiliad diogelwch; (iv) am resymau iechyd a diogelwch; (v) os na fyddwch yn cyflwyno Tocyn dilys ar gyfer perfformiad ar gais; neu (vi) os byddwch yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r Amodau hyn, neu’n torri unrhyw un ohonynt;

(c) gwrthod gwerthu Tocynnau i unrhyw un y credwn ei fod yn eu prynu at ddibenion ailwerthu. Oni roddwyd ein caniatâd, ni ddylid ailwerthu na throsglwyddo Tocynnau am elw na budd masnachol. Os byddwch yn gwneud hynny, byddwn yn dirymu’r Tocynnau perthnasol a gellir gwrthod mynediad i ddeiliad y Tocynnau.

10. Ein hatebolrwydd

10.1 Yn ddarostyngedig bob amser i Amodau 10.2 a 10.3, os byddwn yn methu â chydymffurfio â’r Amodau hyn, dim ond am bris y Tocynnau ac unrhyw golledion uniongyrchol y byddwch yn eu dioddef o ganlyniad i’n methiant i gydymffurfio, (boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustra), tordyletswydd statudol neu fel arall) sydd hefyd yn ganlyniad rhagweladwy o’r cyfryw fethiant, y byddwn yn atebol i chi. Caiff ein holl atebolrwyddau eraill, o unrhyw fath o gwbl, eu heithrio i’r graddau eithaf a ganiateir yn ôl y gyfraith.

10.2 Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw gostau teithio na chostau llety yr eir iddynt o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys os caiff perfformiad ei ganslo.

10.3 Ni fydd unrhyw beth yn yr Amodau hyn yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am y canlynol:
(a) marwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan ein hesgeulustra;
(b) twyll neu gamliwio twyllodrus;
(c) unrhyw achos o dorri’r rhwymedigaethau a nodir yn adran 12 o Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979 neu adran 2 o Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982;
(ch) unrhyw fater arall y byddai’n anghyfreithlon i ni eithrio neu geisio eithrio ein hatebolrwydd amdano.

11. Mynediad a phobl sy'n hwyr

11.1 Rhaid i bawb feddu ar Docyn dilys a phrawf adnabod er mwyn cael mynediad i’r perfformiad perthnasol.

11.2 Byddwn yn ymdrechu i roi sedd i bobl sy’n hwyr pan fydd saib yn y perfformiad sy’n addas ym marn ein staff. Fodd bynnag, dylech nodi efallai na fydd hyn tan ar ôl yr egwyl gyntaf. O dan amgylchiadau eithriadol ac yn dibynnu ar y perfformiad, efallai na allwn roi mynediad i bobl sy’n hwyr. Felly gwnewch bob ymdrech i gyrraedd perfformiadau mewn da bryd.

11.3 Oherwydd natur safle nifer o gynyrchiadau National Theatre Wales , ni allwn ganiatáu mynediad i gŵn nac unrhyw anifeiliaid eraill i safle’r perfformiad, ac eithrio’r rheini a all fod yn rhan o’r cynhyrchiad.

12. Plant

12.1 Gwerthir Tocynnau y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan blant dan 16 oed yn ddarostyngedig i’r “Polisi Mynediad i Fabanod a Phlant” canlynol.

Mae angen tocyn dilys ar bawb dan 16 oed i weld digwyddiadau National Theatre Wales a rhaid iddynt fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Mae plant rhwng 2 a 15 oed yn gymwys i gael tocynnau am bris gostyngol os ydynt ar gael; mae angen tocyn baban ar fabanod dan 2 oed. Ceidw National Theatre Wales yr hawl i wrthod mynediad i fabanod/plant bach os oes angen. Dylech gadarnhau i ba oedran y mae digwyddiad yn addas wrth archebu tocynnau (naill ai dros y ffôn neu ar y dudalen we berthnasol), gan nad yw pob digwyddiad yn addas i bob grŵp oedran.

12.2 Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn (18+), rhiant neu warcheidwad a rhaid bod gan bob un ohonynt Docyn dilys.

12.3 Ni ddylai’r gymhareb rhwng plant ac oedolion mewn unrhyw barti fod yn fwy na 10:1. Er budd ein holl gwsmeriaid, gall ein staff ofyn i’r oedolyn cyfrifol dywys plant sy’n swnllyd neu’n aflonydd allan.

12.4 Fe’ch cynghorir i gadarnhau i ba oedran y mae perfformiad yn addas cyn archebu Tocynnau gan nad yw pob perfformiad yn addas i blant.

13. Recordio ymwelwyr â'n lleoliad

Gallwn ni, neu drydydd partïon a awdurdodir gennym, recordio ffilm a/neu sain yn ystod, cyn neu ar ôl perfformiad a/neu yn ein lleoliad o bryd i’w gilydd. Drwy brynu Tocynnau gennym rydych yn caniatáu i ni eich cynnwys chi ac unrhyw bobl (gan gynnwys plant) a all fod yn eich cwmni, yn y cyfryw recordiadau ac i’r cyfryw recordiadau gael eu defnyddio gennym yn ddiweddarach at unrhyw ddibenion masnachol rhesymol, gan gynnwys, heb gyfyngiad, at ddibenion marchnata a hyrwyddo. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw daliad i chi mewn perthynas â’ch cynnwys yn y cyfryw recordiadau.

14. Digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth

14.1 Yn ddarostyngedig i Amod 6.1, ni fyddwn yn atebol i chi os na allwn gyflawni unrhyw un o’n rhwymedigaethau o dan y Contract oherwydd unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, gan gynnwys, heb gyfyngiad, gweithredoedd gan Dduw (gan gynnwys tân, llifogydd, daeargryn, storm wynt neu drychineb naturiol arall); rhyfel neu fygythiad ohono neu waith paratoi ar gyfer rhyfel, gwrthdaro arfog, gosod sancsiynau, embargo, torri cydberthnasau diplomyddol neu weithredoedd tebyg, cydymffurfiaeth wirfoddol neu orfodol ag unrhyw gyfraith, gorchymyn, rheol, rheoliad neu gyfarwyddyd llywodraethol, tân, ffrwydrad neu ddifrod maleisus neu ddamweiniol, ymosodiad terfysgol, rhyfel sifil, anghydfod sifil neu derfysgoedd, amodau tywydd garw, halogiad niwclear, cemegol neu fiolegol neu daran sonig, dymchwel strwythurau adeiladau, methiant cyfrifiaduron neu gyfarpar; unrhyw anghydfod llafur, gan gynnwys streiciau, gweithredu diwydiannol neu gloi allan, neu ymyriad neu fethiant unrhyw wasanaeth cyfleustod, gan gynnwys pŵer trydan, nwy neu ddŵr.

15. Y contract cyflawn

15.1 Mae’r Amodau hyn ac unrhyw ddogfen y cyfeirir ati’n benodol ynddynt yn cynrychioli’r cytundeb cyflawn rhyngom o ran testun unrhyw Gontract ac yn disodli unrhyw drefniant, dealltwriaeth neu gytundeb blaenorol rhyngom, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar.

15.2 Mae’r ddau ohonom yn cydnabod, drwy ymrwymo i’r Contract, nad yw’r naill na’r llall ohonom wedi dibynnu ar unrhyw gynrychiolaeth, ymgymeriad nac addewid a roddwyd gan y llall neu a awgrymwyd gan unrhyw beth a ddywedwyd neu a ysgrifennwyd mewn negodiadau rhyngom cyn y cyfryw Gontract ac eithrio’r hyn a nodir yn benodol yn yr Amodau hyn.

16. Yr hawl i amrywio'r Telerau ac Amodau hyn

16.1 Mae gennym yr hawl i ddiwygio a newid yr Amodau hyn o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau yn amodau’r farchnad sy’n effeithio ar ein busnes, newidiadau o ran technoleg, newidiadau i ddulliau talu, newidiadau i gyfreithiau perthnasol a gofynion rheoleiddio a newidiadau i gapasiti ein system.

17. Hawliau trydydd partïon

Nid yw’n fwriad gennym ni na chi y dylai unrhyw un o’r Amodau hyn fod yn orfodadwy, yn rhinwedd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 neu fel arall, gan unrhyw berson nad yw’n barti yn y Contract.

18. Cyfraith reoli ac awdurdodaeth

Caiff yr Amodau hyn a’r Contract eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

19. Toradwyedd

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn barnu bod unrhyw un o’r Amodau hyn (neu ran ohonynt) yn annilys, yn ddi-rym neu’n anorfodadwy, caiff ei ddileu a bydd yr amodau sy’n weddill yn parhau mewn grym llawn ac yn gwbl weithredol a chânt eu diwygio os bydd angen cyn belled ag y bo’n ofynnol er mwyn gweithredu’r amodau hyn.