Ein polisïau

Cwmni theatr ydyn ni. Rydyn ni hefyd yn elusen, yn fusnes, yn gyflogwr ac yn sefydliad. Rydyn ni’n lletya pobl ac yn gofalu am bethau. Yn wir, rydyn ni’n llawer o bethau i lawer o bobl.

Rydyn ni’n bodoli i gymryd risgiau artistig, ond rydyn ni’n gwneud popeth mewn ffordd gyfrifol. Mae’n bwysig i ni ein bod ni’n agored, yn dryloyw ac yn atebol, a’n bod ni hefyd yn rhoi sylw i gyfiawnder a lles pawb sy’n gweithio gyda ni, ynghyd â lles y blaned rydyn ni’n rhan ohoni. Mae polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau ein cwmni yn trin a thrafod y pethau hyn yn fanwl.

Mae gennyn ni beth wmbreth ohonyn nhw. Ac rydyn ni’n falch iawn i’w rhannu nhw â phawb sydd â diddordeb mewn gwybod sut rydyn ni’n bwrw ati yn hyn o beth, neu sydd am eu defnyddio yn sail i’w gwaith eu hunain. Y rhai sydd wedi’u rhestru isod yw’r rhai pwysicaf, a rhaid i’r rhain fod ar gael i’r cyhoedd eu gweld drwy’r amser. O ran y gweddill, rho wybod inni ac fe fyddwn ni’n fwy na pharod i’w rhannu.

Rydyn ni’n dilyn10 egwyddor UK Theatre ar gyfer gweithleoedd diogelym mhob rhan o’n gwaith. Mae’r egwyddorion hyn yn ceisio cael gwared yn llwyr ar fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu o’n diwydiant, gan gynnig gweledigaeth gyffredin ar gyfer creu gweithle mwy diogel a chynhwysol.