Polisi Preifatrwydd

1. Ymrwymiad preifatrwydd

Mae National Theatre Wales (NTW) wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi yn unol â’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003, Deddf Diogelu Data 1998 (DPA) ac unrhyw ddeddfau newydd, ac, o Fai 2018, y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Pwy ydym ni

Mae National Theatre Wales (NTW) yn sefydliad celfyddydau cenedlaethol ac yn elusen gofrestredig sy’n cyflwyno gwaith theatrig yn bennaf yn Saesneg. Rydym yn derbyn 60% o’n harian gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC), gyda gweddill yr incwm yn gymysgedd o werthiant tocynnau, partneriaethau masnachol, nawdd, ymddiriedolaethau a sefydliadau, cyrff dyfarnu grantiau a rhoddion unigol.

Mae National Theatre Wales yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, rhif 1127952 ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, rhif 6693227.

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn i ddeall sut y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin. Gallai’r polisi hwn newid o bryd i’w gilydd felly cofiwch ei wirio o dro i dro. Mae’r diweddariad hwn yn gyfredol ym mis Mai 2018.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y polisi hwn, cysylltwch â ni, ein manylion cyswllt yw:

Cyfeiriad: National Theatre Wales, 30 Arcêd y Castell, Caerdydd, CF10 1BW

E-bost: preifatrwydd@nationaltheatrewales.org

Ffôn: + 44(0)29 2035 3070

Gwefan: nationaltheatrewales.org

Swyddog Diogelu Data: Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwylio, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

2. Gwybodaeth bersonol

Ar draws ein gweithrediadau gall y wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu gynnwys:

  • Enwau, teitl, dyddiad geni a rhyw
  • Gwybodaeth am hil, ethnigrwydd, a chyfeiriadedd rhywiol (mae gennych yr hawl i wrthod darparu’r wybodaeth hon i ni)
  • Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad post, e-bost, rhifau ffôn a lincs i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol
  • Hanes trafodion (ni fyddwn byth yn storio rhif llawn eich cerdyn, er y gallwn gadw nodyn o’r pedwar digid olaf i’n helpu i nodi trafodion)
  • Gofynion mynediad (er enghraifft os oes angen arnoch fynediad i gadair olwyn, sain-ddisgrifiad, dehongli iaith arwyddion Prydain, neu unrhyw ofynion mynediad eraill) ac a oes gennych anabledd a ddiffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • Dewisiadau iaith Gymraeg
  • Manylion ymweliadau â’n gwefan gan gynnwys data traffig, data lleoliad, system weithredu, defnyddio porwr, a’r adnoddau yr ydych yn eu defnyddio
  • Delwedd a llun (fel y cipiwyd mewn lluniau a fideos a ddefnyddiwn at ddibenion hyrwyddo (sylwer: gallem ofyn am ganiatâd penodol ar gyfer defnyddiau amlwg neu ddylanwadol, ond fel arfer nid ar gyfer lluniau grŵp, cynnwys cefndir neu ddefnydd mewnol))
  • Gwybodaeth gefndir bersonol arall a ddarparwch i ni (er enghraifft wrth wneud cais am swydd, dweud eich stori wrthym, roi rheswm am wneud rhodd neu ohebu â ni)

Efallai y byddwn hefyd yn prosesu eich data personol (gan gynnwys data personol sensitif) lle:

  • Mae’n angenrheidiol at ddibenion meddygol (er enghraifft, mewn argyfwng meddygol)
  • Mae’n angenrheidiol er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol chi neu berson arall
  • Mae gennym eich caniatâd i wneud hynny (er enghraifft, i fonitro amrywiaeth cynulleidfaoedd a chyfranogwyr y NTW)
  • Byddwn hefyd yn gofyn am eich caniatâd i ddarparu gwybodaeth i chi am gynhyrchion a gwasanaethau a gweithgareddau codi arian a allai fod o ddiddordeb i chi (ar wahân i lle y mae’n briodol i ni ddibynnu ar ein buddiannau gwirioneddol i wneud hynny).

Gallai’r manylion a ddarperir gennych amdanoch chi’ch hun ac unrhyw wybodaeth sy’n eich adnabod (fel y nodir uchod) gael eu cadw gennym os ydych yn rhoi’r wybodaeth hon pan fyddwch yn ymgysylltu’n uniongyrchol â NTW, megis pan ydych yn prynu tocyn, cofrestru ar gyfer un o’n digwyddiadau, tanysgrifio i restr e-bostio, diweddaru eich dewisiadau ar ein gwefan, postio neges ar dudalennau Cymuned, rhoi rhodd, gwneud cais am swydd neu’n gohebu â ni. Rydym hefyd yn cadw eich manylion drwy ddefnyddio cwcis ar ein gwefan.

Cedwir gwybodaeth bersonol ar ein system a’i defnyddio at ddibenion gweithredol megis prosesu neilltuo tocynnau ac archebion mewn cysylltiad â’n gwasanaethau tocynnau ar-lein ac ar gyfer tanysgrifiadau rhestr bostio. Rydym yn cadw cofnod o’r negeseuon e-bost yr ydym yn eu hanfon atoch, ac efallai y byddwn yn olrhain p’un a ydych yn eu derbyn neu eu hagor er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn anfon y wybodaeth fwyaf perthnasol atoch. Efallai y byddwn wedyn yn olrhain unrhyw weithredu dilynol ar-lein, megis prynu tocyn.

Er mwyn prosesu trafodiad, gellir trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol a manylion eich cerdyn i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti. Defnyddir manylion eich cerdyn at ddibenion ymdrin â thrafodiad unigol yn unig. Defnyddir y wybodaeth bersonol a roddwch i ni pan ydych chi’n dewis derbyn gohebiaeth farchnata gan NTW i roi’r newyddion diweddaraf i chi am ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnir, a newyddion a gwybodaeth gan NTW a’i gyd-gynhyrchwyr, sefydliadau celfyddydau eraill a’n noddwyr.

Mae pob e-bost y byddwn yn ei anfon atoch yn cynnig cyfle i chi ddileu’ch tanysgrifiad i’r dewisiadau hyn, neu gallwch ofyn i ni wneud hyn drwy e-bostio boxoffice@nationaltheatrewales.org

3. Rhoi rheolaeth i chi

Efallai y byddwn yn dweud wrthych am ddigwyddiadau, cynyrchiadau, blaenoriaeth archebu a gwybodaeth am safleoedd perfformiadau ac weithiau gallwn gynnwys gwybodaeth yn yr ohebiaeth hon gan sefydliadau partner neu sefydliadau sy’n ein cefnogi. Rydym yn ei gwneud yn hawdd i chi ddweud wrthym sut yr hoffech glywed gennym (gan ddefnyddi “Mewngofnodi” ar ein gwefan a diweddaru eich dewisiadau yn yr adran “Eich Cyfrif”) neu drwy ddweud wrth ein tîm Swyddfa Docynnau dros y ffôn neu yn bersonol. Gallwch chi ddewis peidio â derbyn yr ohebiaeth hon ar unrhyw adeg – bydd pob e-bost a anfonir atoch yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Os ydych wedi dewis peidio â derbyn yr ohebiaeth hon, efallai y byddwn yn cysylltu â chi o hyd. Er enghraifft, gallem anfon e-bost atoch i roi gwybodaeth bwysig am y digwyddiadau yr ydych chi wedi neilltuo lle ar eu cyfer neu i ddweud wrthych am unrhyw newidiadau.

Mae gennych hawl i gael copi electronig neu bapur gennym ni o’r holl Wybodaeth Bersonol ynghylch chi eich hun, neu i siarad â chynrychiolydd NTW ar unrhyw fater, drwy e-bostio National Theatre Wales ar preifatrwydd@nationaltheatrewales.org neu drwy ysgrifennu at National Theatre Wales, 30 Arcêd y Castell, Caerdydd, CF10 1BW.

Os hoffech adolygu’r wybodaeth a ddarparwyd i ni ar unrhyw adeg, neu yn teimlo bod yr hyn sydd gennym wedi’i chofnodi yn anghywir, gallwch ddiweddaru’r wybodaeth drwy e-bostio’r cyfeiriad uchod.

Os ydych yn penderfynu peidio â defnyddio ein gwasanaethau mwyach neu i ofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich Gwybodaeth Bersonol fel y nodir yn y Polisi hwn, ac yn ein hysbysu naill ai yn ysgrifenedig neu drwy e-bost fel y nodwyd uchod, byddwn yn dinistrio unrhyw Wybodaeth Bersonol a gedwir.

O bryd i’w gilydd gallem ofyn i chi am fwy o wybodaeth er mwyn diweddaru ein cofnodion neu at ddibenion penodol. Byddwn bob amser yn dweud wrthych sut y byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bellach a geir gennych.

4. Cwcis

Er mwyn gwneud ein gwefan yn haws ei defnyddio a gwella ein gwasanaeth, weithiau yr ydym yn rhoi darnau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur. Gelwir y rhain yn ‘cwcis’ a chânt eu defnyddio gan y rhan fwyaf o wefannau mawr.Defnyddir cwcis i gofio gosodiadau fel nad oes rhaid i chi eu newid eto bob tro y byddwch yn llwytho tudalen we. Maent yn cydnabod eich bod wedi mewngofnodi i ardal o’r wefan fel nad oes rhaid i chi ail nodi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair. Maent hefyd yn mesur sut yr ydych yn defnyddio’r wefan fel y gallwn barhau i’w gwella. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein polisi cwcis

5. Cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddarlledu negeseuon a’r diweddaraf am ddigwyddiadau a newyddion, gan gynnwys ein Cymuned ar-lein. Ar adegau efallai y byddwn yn ymateb i sylwadau neu gwestiynau yr ydych yn eu gwneud i ni ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Gallwch hefyd weld hysbysebion oddi wrthym ni ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u teilwra at eich diddordebau. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth. Gan ddibynnu ar eich gosodiadau a pholisïau preifatrwydd a ddefnyddir gan y cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau negeseua fel Facebook, LinkedIn, Twitter neu Instagram, gallem dderbyn gwybodaeth ddemograffig neu ddadansoddi gan y gwasanaethau hyn nad yw’n adnabod unigolion i’n galluogi i ddeall cyrhaeddiad ac effeithiolrwydd ein hysbysebion yn well.

6. Trydydd partïon

Efallai y bydd angen datgelu eich manylion:

  • Os byddwn yn cynnal digwyddiad mewn partneriaeth â sefydliad arall a enwir fel y gallant ein helpu ni i gynnal y digwyddiad
  • Er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys yr heddlu ac asiantaethau diogelu a chanfod troseddau eraill neu gyrff rheoleiddio
  • I’n cynghorwyr cyfreithiol
  • At ddibenion cydymffurfio â rheoleiddio neu arolygu, er enghraifft, y Comisiwn Elusennau
  • I gyrff ariannu, yn enwedig Cyngor Celfyddydau Cymru, a allai ddefnyddio gwybodaeth bersonol ddienw i ddadansoddi ein rhaglenni datblygu cynulleidfaoedd, gwerthiant tocynnau a’r arian a gynhyrchwn ein hunain i ddeall effaith y buddsoddiad cyhoeddus a wneir yn NTW
  • Gwasanaethau prosesu data yn gweithredu’n unol â’n cyfarwyddiadau, ac sy’n destun rhwymedigaethau cyfrinachedd

Efallai y byddwn hefyd yn cael data amdanoch gan drydydd partïon. Gallai hyn gynnwys lleoliadau celfyddydol eraill lle byddwch wedi gweld gwaith NTW, neu bartneriaid eraill yr ydym yn gweithio gyda hwy lle rydych wedi rhoi caniatâd i rannu eich gwybodaeth gyda NTW.

Efallai y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth o ffynonellau allanol, sy’n ein galluogi i ddeall ein cynulleidfaoedd, ymwelwyr a chefnogwyr yn well ac i wella ein dulliau codi arian a marchnata.

Pan mae rhywun yn ymweld â nationaltheatrewales.org neu ein bod yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod pethau megis nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau o’r safle. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu mewn ffordd ddienw yn unig nid yw’n adnabod unrhyw un yn unigol. Nid ydym yn gwneud, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud unrhyw ymgais i ddarganfod enwau’r rhai sy’n ymweld â ‘n gwefan. Os ydym am gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy drwy ein gwefan, byddwn yn agored am hyn. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan rydym yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn egluro beth y bwriadwn ei wneud â hi.

Rydym yn casglu ystadegau ar agor negeseuon e-bost a chliciadau gan ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant. Ar hyn o bryd ein darparwr yw Wordfly, gan gynnwys gifs clir i’n helpu i fonitro a gwella ein e-gylchlythyr.

Mae ymholiadau chwilio (Google Search Applicance (GSA)) a chanlyniadau yn cael eu cofnodi’n ddienw i’n helpu i wella ein gwefan a’n swyddogaeth chwilio. Ni chesglir unrhyw ddata penodol i’r defnyddiwr gan NTW neu unrhyw drydydd parti.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio gwasanaethau allanol megis PCS Predict i chwilio am gyfeiriadau er mwyn sicrhau ein bod yn cadw gwybodaeth gyswllt ar ein cronfa ddata yn gyfoes.

Rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, WordPress.com, i gyhoeddi ein blogiau. Caiff y gwefannau hyn eu cynnal ar WordPress.com, sy’n cael ei redeg gan Automattic Inc. Rydym yn defnyddio gwasanaeth WordPress safonol i gasglu gwybodaeth ddienw am weithgarwch defnyddwyr ar y wefan, er enghraifft, nifer y defnyddwyr yn edrych ar dudalennau ar y wefan, i fonitro ac adrodd ar effeithiolrwydd y safle a’n helpu i’w gwella. Mae WordPress yn ei gwneud yn ofynnol i ymwelwyr sydd am bostio sylw i roi enw a chyfeiriad e-bost. Am ragor o wybodaeth am sut mae WordPress yn prosesu data, gweler Polisi Preifatrwydd Automattic.

Nid ydym yn gwerthu manylion personol i drydydd partïon at unrhyw ddiben ac ni fyddwn yn rhannu eich data personol o 25 Mai 2018 gydag unrhyw sefydliadau neu hyrwyddwyr eraill nad ydynt wedi’u henwi yn ein polisi preifatrwydd ar gyfer eu gohebiaeth marchnata eu hunain.

7. Cefnogi NTW

Rydym yn elusen gofrestredig (1127952) ac yn dibynnu’n fawr ar gyfraniadau gwirfoddol oddi wrth ein cynulleidfa a chyllidwyr eraill i sicrhau ein bod yn cynnal ein rhaglenni gwaith o’r radd flaenaf a sicrhau eu bod ar gael i bawb.

Gallwch chi ddewis derbyn gwybodaeth ynghylch cefnogi NTW drwy fewngofnodi i’n gwefan a diweddaru eich dewisiadau yn yr adran “Eich Cyfrif”, neu drwy ddweud wrth ein tîm Swyddfa Docynnau neu un o’r Tîm Datblygu dros y ffôn neu yn bersonol. Byddwn yn eich hysbysu am ein hymgyrchoedd presennol, eu cynnydd a’r ffyrdd y gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chreu newid, yn ogystal â gwahoddiadau i ddigwyddiadau a ble y gallwch ymwneud ymhellach â’n rhaglen artistig.

Yn seiliedig ar amledd eich ymweliadau a’ch patrymau prynu, gallem hyrwyddo ein hymgyrchoedd i chi neu ofyn i chi am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer ein gwaith. Os ydych yn rhoddwr, gallwn ddefnyddio nifer o offer ymchwil sylfaenol i amcangyfrif eich diddordeb posibl mewn ein cefnogi ni ymhellach neu mewn ffyrdd gwahanol. Hefyd gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu gyda ni gan wefannau codi arian annibynnol megis JustGiving neu The Big Give os ydych yn gwneud rhodd i NTW, ond dim ond pan yr ydych wedi nodi eich bod yn rhoi eich caniatâd i glywed oddi wrthym ni. Dylech wirio eu Polisi Preifatrwydd pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth i ddeall yn llawn sut y byddant yn prosesu eich data.

O brofiad, rydym yn gwybod bod ein rhoddwyr yn disgwyl i ni fod wedi canfod lefel o ddiddordeb ac ystyried priodoldeb cais am roddion cyn cysylltu â nhw. Rydym felly yn ymchwilio i rai o’n cwsmeriaid a’n cefnogwyr ac weithiau cefnogwyr posibl i ddod o hyd i ddiddordebau cyffredin. Efallai y bydd y gwaith ymchwil hwn yn cynnwys gwybodaeth a gedwir gennym amdanynt (er enghraifft, dulliau talu a chodau post) a gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd (er enghraifft, ond nid yn gyfyngedig i, cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau newyddion, bywgraffiadau ar eich gwefan gwaith, Tŷ’r Cwmnïau, Comisiwn Elusennau), lle maent yn byw, eu hoedran a demograffeg tebyg. Mewn rhai achosion, byddwn yn dibynnu ar ddiddordeb dilys ar gyfer prosesu data cefnogwyr posibl. Mae hyn yn golygu efallai y byddwn yn cynnal gwaith ymchwil cychwynnol ar roddwyr lefel uwch posibl cyn gofyn am ganiatâd. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn ein helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau i ddiogelu’r elusen rhag twyll ariannol a risg. Nid ydym yn defnyddio cwmnïau sgrinio cyfoeth i ddadansoddi ein data.

Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth am roddwyr posibl drwy ein hymddiriedolwyr a rhanddeiliaid allweddol at ddibenion digwyddiadau codi arian a gweithgareddau eraill. Yn yr achosion hyn byddwn yn ymdrechu i anfon copi o’r Polisi Preifatrwydd hwn ar y pwynt cyswllt cyntaf, neu fan bellaf o fewn mis i dderbyn y wybodaeth.

8. Sut yr ydym yn cadw eich manylion yn ddiogel

8.1 Bydd eich data personol yn cael eu cadw a’u prosesu ar systemau NTW neu systemau a reolir gan gyflenwyr ar ran NTW. Rydym yn cynnal system rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM) i gadw manylion cyswllt a chofnod o’r cysylltiadau â NTW fel prynu tocynnau, rhoddion, aelodaeth, ymholiadau, cwynion a phresenoldeb mewn digwyddiadau arbennig. Lle bo modd rydym yn ceisio cadw un cofnod ar gyfer pob cwsmer.

8.2 Rydym bob amser yn ceisio cadw eich data yn ddiogel. Mae mynediad at wybodaeth cwsmeriaid yn cael ei reoli’n llym. Gellir cael mynediad at y system CRM dim ond gan y bobl sydd ei angen i wneud eu gwaith. Mae data penodol, er enghraifft gwybodaeth sensitif, yn cael ei rheoli ymhellach ac mae ar gael i aelodau staff sydd â rheswm i weithio gyda hi yn unig.

8.3 Fel rhan o’r gwasanaethau a gynigir i chi drwy wefan National Theatre Wales, gellir trosglwyddo’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych i wledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd os lleolir unrhyw weinyddion cyfrifiaduron a ddefnyddiwyd i gynnal ein gwefan mewn gwlad y tu allan i’r AEE. Os yw NTW yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r AEE yn y modd hwn, byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod eich hawliau preifatrwydd yn parhau i gael eu diogelu fel yr amlinellir yn y polisi preifatrwydd hwn.

Gall NTW drosglwyddo eich data i UDA, i sefydliadau fel Facebook, Google neu Wordfly. Os bydd hyn yn digwydd byddwn yn sicrhau mai dim ond sefydliadau sy’n rhan o fenter tarian preifatrwydd yr UE fydd yn trin eich gwybodaeth bersonol. Ceir rhagor o fanylion am yr ardystiad hwn ar privacyshield.gov/welcome.

Mae ein gwefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ (gweler yr adran uchod) a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnydd ar wefannau. Bydd y wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau a’i storio yno.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio adroddiadau gweithgarwch cyfeillgar i ddefnyddwyr ar gyfer ein gwefan. Gallai Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti os yw’n ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd partïon (gweler yr adran uchod) o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata a gadwyd yn flaenorol. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder os yw cwcis wedi’u troi i ffwrdd, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio holl elfennau’r wefan hon. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i brosesu data amdanoch chi gan Google yn y modd ac ar gyfer y dibenion a nodir uchod.

9. Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth dim ond am gyhyd ag sy’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion sydd wedi’u nodi yn y polisi preifatrwydd hwn ac i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol. Ni fyddwn yn cadw mwy o wybodaeth nag sydd angen. Bydd y cyfnod cadw yn amrywio yn ôl y diben, er enghraifft, ar gyfer prynu tocyn byddwn yn rhoi’r gorau i farchnata i unigolion nad ydynt wedi cael unrhyw gyswllt pellach gyda NTW. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r data hyn ar gyfer gwaith dadansoddi am saith mlynedd arall, ond byddwn yn eu dileu ar ôl y pwynt hwn. Fodd bynnag, ar gyfer cwsmeriaid a oedd wedi addo etifeddiaeth i NTW, byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am y cyfnod fydd ei angen i brosesu’r gymynrodd. Gellir cadw rhywfaint o wybodaeth am gyfnod amhenodol at ddibenion hanesyddol, ystadegol neu ymchwil. Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i fynnu ein bod yn dileu data personol.

10. Ffeiliau log

10.1 Bob tro y mae rhywun yn ymweld â’n gwefan mae ffeil log yn cael ei chynhyrchu ar ein gweinydd.

10.2 Mae’r ffeil log yn cofnodi amser a dyddiad eich ymweliad, y ffeiliau y gwnaed cais amdanynt, eich cyfeiriad IP (protocol rhyngrwyd), URL y cyfeiriwr (os darperir) a fersiwn eich porwr. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon i’n helpu i ganfod problemau a gweinyddu ein systemau ac i archwilio cyfansoddiad daearyddol defnyddwyr a sut y maent wedi cyrraedd ein gwefan; hynny yw, o ba wefannau eraill y mae ymwelwyr wedi cyrraedd – daw’r wybodaeth hon o URL y cyfeiriwr.

10.3 Nid ydym fel arfer yn cysylltu cyfeiriadau IP i unrhyw beth sy’n bersonol adnabyddadwy, sy’n golygu eich bod yn parhau’n ddienw er ein bod yn cynnwys eich cyfeiriad IP yn ein gwybodaeth gyfanredol. Fodd bynnag, gallwn a byddwn yn ceisio defnyddio cyfeiriadau IP i adnabod defnyddiwr pan fyddwn ni’n teimlo ei bod yn angenrheidiol er mwyn gorfodi cydymffurfiaeth â’n telerau ac amodau, neu er mwyn diogelu ein gwasanaethau a defnyddwyr eraill.

11. Defnyddio a datgelu Gwybodaeth Bersonol

11.1 Os byddwch yn cysylltu â ni rydym yn cadw’r hawl i gadw cofnod o’r ohebiaeth honno ac ymgorffori’r wybodaeth sydd ynddi i’n cronfa ddata.

11.2 Os yw’n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith neu ar gais gan yr heddlu neu awdurdod rheoleiddio neu lywodraeth sy’n ymchwilio i weithgareddau anghyfreithlon posibl i ddarparu gwybodaeth am eich gweithgareddau wrth ddefnyddio’r rhwydwaith, byddwn yn gwneud hynny. Gallem hefyd ddatgelu Gwybodaeth Bersonol i drydydd partïon priodol i gynorthwyo gyda gwiriadau gwrth-dwyll ac ymchwiliadau.

12. Arolygon a hyrwyddiadau

O bryd i’w gilydd rydym yn cynnal arolygon (megis SurveyMonkey (UDA), y mae eu trin data yn bodloni’r ddarpariaeth GDPR) a hyrwyddiadau a gallem ofyn am wybodaeth gennych chi fel rhan o hyn. Mae cymryd rhan yn y rhain yn gwbl wirfoddol ac felly gallwch ddewis p’un a i ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai fod yn ofynnol. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi a hoffech dderbyn e-byst hyrwyddo a gohebiaeth gennym am ein cynnyrch neu wasanaethau eraill. Unwaith eto, nid ydych o dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn gwybodaeth o’r fath.

13. Defnyddwyr o dan 18

Os ydych o dan 18 oed, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch yn darparu Gwybodaeth Bersonol i’r wefan. Ni chaiff defnyddwyr heb ganiatâd o’r fath roi Gwybodaeth Bersonol i ni.

14. Eich hawliau

O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • I gael mynediad at, a chopïau o’r data personol sydd gennym amdanoch chi
  • Ei gwneud yn ofynnol ein bod yn peidio â phrosesu eich data personol os yw’r prosesu yn eich achosi niwed neu ofid i chi
  • Ei gwneud yn ofynnol i ni beidio ag anfon gohebiaeth farchnata atom

Bydd yr hawliau ychwanegol canlynol yn dod i rym o 25 Mai 2018 ar gyflwyno’r GDPR newydd:

  • Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro’r data personol sydd gennym amdanoch os yw’n anghywir
  • Ei gwneud yn ofynnol i ni ddileu data personol
  • Ei gwneud yn ofynnol i ni gyfyngu ar ein gweithgareddau prosesu data (a, lle y seilir ein prosesu ar eich caniatâd, gallwch dynnu’r caniatâd hwnnw yn ôl, heb effeithio ar gyfreithlondeb ein prosesu yn seiliedig ar gydsyniad cyn iddo gael ei dynnu’n ôl)
  • I dderbyn oddi wrthym ni y data personol sydd gennym amdanoch yr ydych wedi’u rhoi i ni, mewn fformat rhesymol a bennir gennych, gan gynnwys at ddibenion trosglwyddo’r data personol hynny i reolwr data arall gennych chi
  • I wrthwynebu ar sail sy’n ymwneud â’ch sefyllfa arbennig chi, unrhyw un o’n gweithgareddau prosesu penodol os ydych yn teimlo bod hyn wedi cael effaith anghymesur ar eich hawliau.

Sylwer nad yw’r hawliau uchod yn absoliwt, a gallai fod yr hawl gennym i wrthod ceisiadau lle mae eithriadau yn gymwys.