Cefndir
Mynediad
Mynediad
Ni ddylai unrhyw un deimlo nad yw theatr ar eu cyfer nhw felly dylai pob cam o'n taith fod yn hygyrch. I bobl Fyddar, niwroamrywiol ac anabl nid rhywbeth ychwanegol dewisol yn unig yw mynediad.
Rydym yn gweithio'n galed i gael gwared ar rwystrau lle gallwn
Ein cynyrchiadau
- Dewis safleoedd a lleoliadau sy'n hygyrch yn ffisegol
- Cynnig dehongliad BSL a sain ddisgrifiad ar gyfer ein holl sioeau
- Datblygu ein system ein hunain ar gyfer capsiynau ar iPads (fel y gallwn barhau i gynnig capsiynau pan fyddwn hanner ffordd i fyny mynydd)
- Creu cynnwys hygyrch gan gynnwys cyflwyniadau sain, taflenni a rhaghysbysebion yn ogystal â thaflenni BSL a rhaghysbysebion â chapsiynau
- Fe welwch wybodaeth mynediad benodol ar gyfer pob sioe ar ein tudalennau digwyddiadau
Rydym yn gwneud cynnydd mewn meysydd eraill hefyd:
- Mae Dogfennau Mynediad yn gwahodd pob person rydym yn gweithio gyda nhw i ddweud wrthym beth sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith gorau
- Gwella hygyrchedd ein gwefan
- Gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Celfyddydau Anabledd Cymru ac Unlimited a dysgu ganddynt
- Adolygu ein prosesau recriwtio a'n hathroniaeth
- Hyfforddiant anabledd a chynhwysiant i'n holl staff