Ceriann

Mae Ceriann, oedd yn un o Gynhyrchwyr Datblygol NTW o 2017-8, yn gynhyrchydd annibynnol sy’n teimlo’n angerddol am storïau cyfoes a cherddoriaeth amgen. Mae’r celfyddydau a cherddoriaeth wedi bod yn rhan fawr o’i bywyd byth ers iddi ddod ar draws yr un athro gwych hwnnw yn yr ysgol.

Mae’n ymrwymiedig i weithio’n y sector ddatblygol, yn rhoi cyfleoedd i rai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru ac mae ganddi angerdd arbennig dros waith aml-gyfrwng.

Cyn dechrau cynhyrchu bu’n gweithio yn Theatr y Sherman ac yn rheoli band roc, Palomino Party. Tu allan i’w gwaith, mae Ceriann ar ei hapusaf gyda’i chŵn wedi eu hachub, Winter a Peggy Sue.

Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast