Rhiannon Boyle yw enillydd cyntaf gwobr Awdur Preswyl Cymru, ac yma, mae hi’n myfyrio ar y chwe mis cyntaf yn ei rôl newydd…
Chwe pheth a ddysgais yn ystod fy mhreswyliad chwe mis gyda’r BBC…
1. Bellach caiff drama radio ei galw’n ddrama sain ac mae’n hynod o cŵl
Gyda’r ymchwydd byd-eang ym mhoblogrwydd podlediadau a llwyfannau newydd i wrando ar ddramâu sain, ychydig yn hynafol yw’r enw- ‘drama radio’ bellach. Dechreuodd fy nghyfnod preswyl o chwe mis yn y BBC yn ôl ym mis Hydref gan gychwyn gyda sesiynau hyfforddi pwrpasol iawn mewn drama sain dan arweiniad cynhyrchydd talentog a Phennaeth Datblygiad Ystafell Awduron y BBC, Helen Perry. Fe’m gwahoddwyd i arsylwi sawl drama radio wrth iddynt gael eu recordio a’u cynhyrchu a derbyniais restr o ddramâu sain ar BBC Sounds i wrando arnynt a’u dadansoddi. Cefais fy nghyflwyno i Bennaeth Sain BBC Cymru, James Robinson, a’r awdur cysgodi Alan Harris yn ystod y ddrama barhaus boblogaidd Curious Under the Stars. Addysgon nhw bethau fel sut i gyflwyno triniaethau, ac i bwy. Dysgais ym myd drama sain y gallwch adrodd unrhyw stori, wedi’i gosod mewn unrhyw amser neu le, sy’n hynod gyffrous o safbwynt awdur.
2. Ym myd teledu mae’r cyfan yn ymwneud â thaflu syniadau a gweld beth sydd werth ei gadw.
Nid oes gwerth mewn cadw’r rhan fwyaf o syniadau. Ac mae hynny’n hollol iawn. Ond mae’n rhaid dyfalbarhau. Rhaid cael gymaint o syniadau â phosib, a’u cyflwyno i gymaint o bobl â phosib. Bydd sawl methiant. Nifer o ymatebion- ‘Mae gennym rywbeth tebyg iawn yn barod’. Ond y peth pwysicaf un yw peidio â chymryd beirniadaeth yn bersonol. Rhaid derbyn beirniadaeth a dysgu i symud ymlaen. Ac un diwrnod, bydd syniad yn gwreiddio, a ffwrdd â chi.
3. Mae angen magu hyder awduron benywaidd
Rwyf bob amser wedi bod braidd yn gyndyn o ran anfon syniadau a thriniaethau, gan deimlo bod rhai comisiynwyr neu gyfarwyddwyr artistig yn rhy brysur i mi fynd atynt. Ond dywedodd cynhyrchydd wrthyf yn ddiweddar fod nifer yr e-byst mae hi’n eu derbyn gan ferched yn cyflwyno syniadau yn bryderus o brin o’i gymharu â’r rhai gan ddynion yn cyflwyno syniadau â’r agwedd- ‘Ydych chi’n mynd i gynhyrchu hwn ta beth?’. Felly nawr rwy’n mynd i fynd amdani. Byddaf yn sicr yn anfon fy syniadau atoch. Y gwaethaf a all ddigwydd ydy ‘na’, ynte?
4. Gall teitl agor drysau ond mae ffordd i fynd wedyn.
Mae gennyf gomisiwn gyda Channel 4, syniadau yn yr arfaeth gyda BBC Studios ac rwyf wedi derbyn grant ACW i ddatblygu fy nghynhyrchiad llwyfan Kill Me Now. Rwyf wedi cwrdd â Golygydd Comisiynu’r BBC Ben Irving ac rwyf mewn trafodaethau â phennaeth Comedi’r BBC Paul Forde. Mae’r cyfleoedd rwyf wedi’u derbyn, a’r cysylltiadau rwyf wedi’u creu yn y diwydiant hyd yma wedi bod yn anhygoel. Ond mae llawer o waith caled yn fy wynebu o hyd. Mae gennyf gymaint i’w ddysgu. Mae’n debyg mai’r prif beth rwyf wedi’i ddysgu drwy hyn i gyd yw pa mor ffeind a charedig yw’r bobl ar y brig, a pha mor hawdd yw siarad â nhw. Pan oeddwn yn actores ifanc awyddus roeddwn bob amser yn gweithio mor galed i wneud argraff ar bobl a dweud y peth cywir. Erbyn deall, y cwbl oedd angen i mi ei wneud oedd bod yn fi fy hun.
5. Russell T Davies yw Duw dramâu teledu
Gwelais yr arwr hwn yn siarad yng Ngŵyl Awduron Cymru fis Rhagfyr diwethaf. Roedd ganddo sawl darn o gyngor defnyddiol ar gyfer darpar awduron ond y prif gynghorion o’m safbwynt i oedd –
- Dal i ymarfer. Ysgrifennu unrhyw beth. Ysgrifennu bob dydd.
- Gwylio llawer o deledu. Drama, comedi, opera sebon. Popeth.
- Dechrau bob diwrnod ar y dudalen gyntaf ac addasu wrth fynd ymlaen. Tynhau’r sgript a sicrhau symudiad cyflym bob amser.
- Canolbwyntio. Parhau i ofyn – am beth ydych chi’n ysgrifennu? Ac yna sicrhau bod y sgript yn trafod yr hyn rydych yn ei ddweud.
- Cymeriadau – gwnewch y cymeriadau’n fwy clyfar na’r awdur a gwnewch y prif gymeriad yn fwy clyfar na neb yn yr ystafell. Defnyddiwch seicoleg er mwyn rhesymu a datrys ymddygiad cymeriadau.
- Cadwch y cyfarwyddiadau llwyfan i isafswm. Rhowch ryddid i’r actorion.
6. Hwyrach fod pandemig byd-eang yn fy arafu ond ni all fy rhwystro
Felly, credaf mai teg fyddai dweud mai diweddu ar bwynt isel wnaeth fy nghyfnod preswyl gyda’r BBC. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai recordiad fy nghynhyrchiad BBC Radio 4 o ‘Safe From Harm’ yn stiwdios newydd sbon o’r radd flaenaf y BBC yng Nghanol Caerdydd yn cael ei ganslo oherwydd pandemig byd-eang? Nid fi. Er hyn, ar ôl yr holl wallgofrwydd presennol, mi fydd yn cael ei recordio. Mae’r recordiad wedi’i ohirio. Nid wedi’i ganslo. Ac felly, er nad oes gen i ddesg ar Sgwâr Canolog y BBC bellach, ac er bod rhaid i mi roi fy nghortyn BBC yn ôl (bwhw), rwy’n gwybod y bydd eu drysau cylchdröol bob amser ar agor. Rwyf wedi gwneud ffrindiau arbennig ac wedi gwreiddio perthnasau gwaith addawol iawn. Mae meddwl am ddyfodol o gydweithio â nhw yn fy nghyffroi.
Diolch o galon Ystafell Awduron BBC Cymru, bu’n wych!
Ac felly dyma fi, ar drothwy fy nghyfnod preswyl chwe mis gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Nid wyf am ddweud celwydd, mae’n gyfnod heriol i gychwyn gyda chwmni theatr. Fodd bynnag, mae gobaith bob amser. Mae fy ngobaith i’n dod gyda’r addewid o ‘fonitro a hyfforddiant trylwyr’, ‘datblygiad syniad sgript ar gyfer theatr’ a ‘mynediad at gysylltiadau yn y diwydiant’. Felly er fy mod i’n bryderus am y dyfodol, rwyf hefyd yn obeithiol ac yn awyddus i weld beth fydd fy hanes dros y chwe mis nesaf.
Bydd drama sain Rhiannon Boyle, ‘Safe From Harm’, bellach yn cael ei darlledu fis Ionawr 2021.