Compliance Plan

Sut rydym yn anelu at gydymffurfio â safonau’r Gymraeg
Cyflwynwyd safonau newydd a roddodd fframwaith cyfreithiol yn ei le i sicrhau hawliau i bobl gael mynediad i wasanaethau penodol yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynwyd y safonau fel rhan o Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011, a wnaeth hefyd greu rôl Comisiynydd y Gymraeg. National Theatre Wales (NTW) yw un o’r sefydliadau y disgwylir iddynt gydymffurfio â’r safonau iaith newydd.
Mae yna bum categori o safonau:
1. Darparu Gwasanaethau
Mae’r rhain yn cyfeirio at y modd yr ydym yn cyfathrebu â chwsmeriaid a chyflwyno ein gwasanaethau
2. Gweithredol
Mae’r safonau hyn yn cyfeirio at y ffordd yr ydym yn gweithredu fel sefydliad a’r hawliau sydd gan ein staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
3. Gwneud Polisi
Mae’r safonau hyn yn sicrhau ein bod yn ystyried y Gymraeg pan fyddwn yn datblygu unrhyw bolisïau
4. Cadw cofnodion
Mae’r safonau hyn yn sicrhau ein bod yn monitro ac yn adrodd ar ein cynnydd o ran cydymffurfiaeth a chyflwyno ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
5. Atodol
Mae’r safonau hyn yn sicrhau ein bod yn adrodd ar ein cynnydd bob blwyddyn i Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ac yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael i’r cyhoedd
Mae’r ddogfen hon yn egluro sut mae NTW yn anelu at gydymffurfio â safonau’r Gymraeg.
1. DARPARU GWASANAETHAU
Ysgrifennu atom ni
- Os ydych chi’n ysgrifennu llythyr neu e-bost atom ni, gallwch wneud hynny yn Gymraeg a byddwn yn ateb yn Gymraeg.
- Os byddwn yn ysgrifennu atoch am y tro cyntaf neu os nad ydym yn gwybod pa iaith yr hoffech i ni ei defnyddio i ohebu â chi, byddwn yn ysgrifennu atoch yn ddwyieithog.
- Byddwn yn gofyn i chi pa iaith yr hoffech dderbyn gohebiaeth gennym ni ynddi yn y dyfodol ac yn cofnodi hyn.
- Pan fyddwn yn ysgrifennu at nifer o bobl ar yr un pryd, bydd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Ni fyddwn yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg pan fyddwn yn anfon llythyrau neu e-byst at y cyhoedd.
- Rydym yn datgan yn glir yn ein cyfathrebiadau ein bod yn croesawu gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cysylltu â ni dros y ffôn
- Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Bydd ein staff yn eich cyfarch yn ddwyieithog pan fyddant yn ateb y prif rif ffôn.
- Pan fyddwn yn eich ffonio byddwn yn gofyn am eich dewis iaith ac yn cofnodi hyn ar gyfer y tro nesaf y byddwn yn cysylltu â chi.
- Os ydych chi’n ffonio rhif llinell uniongyrchol aelod o staff nad yw’n siaradwr Cymraeg ac yr hoffech chi gynnal y sgwrs yn Gymraeg, byddant yn cynnig trosglwyddo’r alwad i gydweithiwr sy’n gallu darparu’r gwasanaeth hwn.
Cyfarfodydd a Digwyddiadau
- Os gwahoddir aelod o’r cyhoedd i gyfarfod, byddwn yn gofyn a ydynt am gynnal y sgwrs yn Gymraeg a byddwn yn trefnu cyfieithydd os ydynt am wneud hynny.
- Os ydym yn gwahodd grŵp o bobl i gyfarfod, byddwn yn gofyn i’r rhai sy’n mynychu os ydynt am gyfrannu yn y Gymraeg a byddwn yn trefnu cyfieithydd os yw deg y cant neu fwy yn dweud wrthym eu bod am wneud hynny.
- Pan fyddwn yn trefnu neu’n ariannu dros 50% o ddigwyddiad i’r cyhoedd, byddwn yn ei hysbysebu ac yn anfon gwahoddiadau yn ddwyieithog.
- Os ydych chi’n mynychu digwyddiad cyhoeddus yr ydym wedi’i drefnu, mae croeso i chi gyfrannu yn Gymraeg a byddwn yn darparu cyfleusterau cyfieithu.
- Bydd deunyddiau a gwybodaeth am unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus ar gael yn ddwyieithog cyn ac yn ystod y cyfarfod.
Cyhoeddiadau a deunydd ysgrifenedig
- Bydd yr holl ddogfennau, deunydd hyrwyddo a hysbysebion a gynhyrchwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac ni fyddwn yn trin un yn llai ffafriol na’r llall.
- Byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth a’r deunyddiau a arddangoswn yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Bydd unrhyw arwyddion a godwn yn gyhoeddus yn ddwyieithog.
- Bydd dogfennau cyhoeddus a gynhyrchwn yn ddwyieithog – os nad yw hyn yn bosibl oherwydd maint, bydd fersiwn Gymraeg ar gael ar yr un pryd â’r fersiwn Saesneg. Nid yw hyn yn berthnasol i’n papurau bwrdd.
- Bydd unrhyw ffurflenni sydd ar gael i’r cyhoedd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Digidol ac ar-lein
- Mae ein gwefan yn ddwyieithog a byddwn yn diweddaru’r tudalennau Cymraeg ar yr un pryd ag y byddwn yn diweddaru’r rhai Saesneg.
- Byddwn yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg ar ein gwefan.
- Mae yna adran ar ein gwefan sy’n cynnwys yr holl wybodaeth am sut rydym yn cydymffurfio â’r safonau iaith – byddwn yn diweddaru’r adran hon yn rheolaidd.
- Byddwn yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
- Os byddwch yn anfon neges atom ar gyfryngau cymdeithasol, byddwn yn ateb yn iaith y neges wreiddiol.
Wyneb yn wyneb
- Byddwn yn sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael yn y Swyddfa Docynnau neu’r ddesg flaen yn ystod ein perfformiadau fel ein bod yn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r rhai sy’n mynychu ein cynyrchiadau.
- Os ydym wedi trefnu cyfarfod gyda chi a dywedwch wrthym ymlaen llaw eich bod chi eisiau gwasanaeth Cymraeg, byddwn yn trefnu hyn.
- Bydd ein staff yn y Swyddfa Docynnau neu ddesg flaen sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn iaith gwaith fel y gellir eu hadnabod yn hawdd.
2. GWNEUD POLISI
Creu polisïau
- Pan fyddwn yn adolygu neu’n datblygu polisïau newydd, byddwn yn ystyried unrhyw effaith y gall fod gan y polisi ar yr iaith Gymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.
- Byddwn yn meddwl am ffyrdd y gallai polisi gael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Os byddwn yn mynd allan i ymgynghori neu gynnal ymchwil er mwyn datblygu unrhyw bolisïau, byddwn yn ceisio barn am effaith y polisi ar yr iaith Gymraeg.
3. GWEITHREDOL
Fel cyflogwr
- Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor y gall ein staff fyw eu bywydau gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg fel y’u nodir yn y safonau – o gais am swydd a chyfweliad, i drafod materion sy’n ymwneud â chyflogaeth.
- Wrth recriwtio, byddwn yn ystyried yr angen am sgiliau Cymraeg ar gyfer pob swydd newydd neu swydd wag, a phan fyddwn yn hysbysebu swydd sy’n mynnu sgiliau Cymraeg, byddwn yn nodi hyn ac yn hysbysebu yn Gymraeg.
- Gallwch wneud cais am swydd gyda NTW trwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn cyfathrebu â chi am eich cais yn Gymraeg os dymunwch.
- Ni fyddwn yn trin ceisiadau swydd a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol.
- Bydd y polisïau a restrir o fewn y safonau sy’n ymwneud ag amodau gwaith ein staff ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
- Byddwn yn cefnogi staff i ddysgu Cymraeg trwy ddarparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg. Er mwyn cyflawni gofynion y safonau byddwn hefyd yn:
- Creu maniffesto ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
- Sicrhau bod staff yn derbyn sesiynau ymwybyddiaeth iaith a hyfforddiant ar ofynion safonau iaith
- Darparu meddalwedd a thempledi i staff i’w helpu i gydymffurfio â’r safonau
- Cynnig cefnogaeth cyfieithu a phrawfddarllen
4. CADW COFNODION AC ATODOL
Monitro a goruchwylio
Bydd NTW yn monitro cydymffurfiad yn barhaus yn erbyn y safonau, yn enwedig yn y cyfnod cynnar. Byddwn yn cynorthwyo staff allweddol i gasglu tystiolaeth gydymffurfio, a bydd y Tîm Gweithredol a’r Uwch Dîm Rheoli yn arwain y broses fonitro a goruchwylio yn gyffredinol. Bydd cwynion yn cael eu monitro’n agos ac fe fydd unrhyw batrymau sy’n dod i’r amlwg yn ein helpu i ddeall a nodi meysydd i’w gwella. Fel sy’n ofynnol, byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth berthnasol ar gael i Gomisiynydd y Gymraeg.
Cadw cofnodion ac adrodd yn flynyddol
Yn unol â’r safonau, byddwn yn paratoi adroddiad blynyddol ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a’i gyhoeddi ar ein gwefan. Bydd yr adroddiad yn esbonio sut yr ydym wedi cydymffurfio â’r safonau, gyda thystiolaeth o sut yr ydym wedi cyflawni’r gofynion. Bydd yr adroddiad hefyd yn dangos a ydym wedi methu â bodloni unrhyw rai o’r safonau ac os yw rhywun wedi cwyno am ein darpariaeth Gymraeg. Byddwn hefyd yn cofnodi faint o aelodau o staff sydd wedi mynychu cyrsiau hyfforddi yn Gymraeg, swyddi sydd wedi’u hysbysebu gyda’r Gymraeg yn ofyniad, a nifer y staff sydd â sgiliau Cymraeg.
Cwynion
Mae gennym bolisi cwynion am y Gymraeg, a gallwch chi gwyno wrthym os ydych yn teimlo nad ydym wedi cyflawni ein dyletswyddau yn unol â’r safonau.
I gael rhagor o wybodaeth
Fe welwch restr o’r holl safonau a osodir arnom ar ein gwefan ac ar wefan Comisiynydd y Gymraeg comisiynyddygymraeg.cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn Gymraeg neu Saesneg:
Dros y ffôn 029 2035 3070
Drwy e-bost admin@nationaltheatrewales.org
Drwy lythyr National Theatre Wales 30 Arcêd y Castell, Caerdydd CF10 4BZ