Byd Anifeiliaid
Ynglŷn â'r Adnodd

Cysyniad y dasg hon yw cael y disgyblion i fyny ar eu traed ac arbrofi gyda sut maen nhw’n symud a cherdded, gan eu gwneud yn ymwybodol o sut maen nhw’n defnyddio eu cyrff o ddydd i ddydd.
Bydd bod yn ymwybodol o osgo a symud yn fuddiol i waith datblygu cymeriad yn y Celfyddydau Mynegiadol yn y dyfodol. Mae archwilio iaith a symudiad y corff efyd yn rhan annatod o faes dysgu Iechyd a Llesiant.
Cliciwch yma i ddychwelyd i’r Ystorfa Addysg Go Tell The Bees.
Adnoddau a lincs
Lawrlwythiadau
Cliciwch ar deitl y ddogfen uchod i lawrlwytho’r adnodd.
Mae’r pdfs hyn yn gydnaws â darllenwyr sgrin a nodweddion mynediad eraill yn Adobe Reader. Am ragor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y nodweddion hyn, cliciwch yma.
Adnoddau sydd eu hangen
- Cyfrifiadur
- Seinydd
- Allbrint
Gweithred Syml
- Mynd am dro
- Dysgu Un Peth Newydd am Natur
Maes Dysgu a Phrofiad
- Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a Llesiant
Wedi'u Creu Gan
Mae Bethan Haf Jones, a raddiodd gyda BA Anrh Actio yn 2019, yn dod o Landrillo-yn-Rhos, Gogledd Cymru. Mae hi’n arbenigo mewn testun clasurol a symud, gyda chefndir mewn dawns a gymnasteg. Yn aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr, mae Bethan hefyd yn mezzo soprano hyderus. Mae hi wedi gweithio’n broffesiynol fel actores ers graddio, gan deithio gyda The Looking Glass Theatre, a pherfformio gyda North Walian Theatre Company, A Play Fitted. Mae hi’n dysgu ochr yn ochr â’i gyrfa actio ac mae wedi hwyluso gweithdai drama ar gyfer pob oedran, yn ogystal â gweithio i Smile Theatre Italia, gan ddysgu Saesneg a drama i blant Eidalaidd o bob oed. Mae hi’n gweithio ym myd addysg ar hyn o bryd ac yn bwriadu astudio ar gyfer ei TAR yn y flwyddyn academaidd nesaf.