Cytserau Cysgod
Ynglŷn â'r adnodd

Mae’r gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i archwilio cytserau trwy dasgau ymarferol a chwarae â chysgodion. Mae’r dasg yn addas ar gyfer gwaith grŵp ac mae’n gwahodd dysgwyr i gynllunio, darlunio a thorri siapiau cytserau y gellir eu taflunio ar wal neu nenfwd gan ddefnyddio fflachlamp. Gall y disgyblion greu eu ‘planetariwm bach’ eu hunain yn yr ystafell ddosbarth trwy daflunio cysgodion i’r nenfwd.
Ymhlith y gweithgareddau dilynol mae creu sioe bypedwaith cysgodion fwy dychmygus wedi’i hysbrydoli gan y sêr.
Cliciwch yma i ddychwelyd i’r Ystorfa Addysg Go Tell The Bees.
Adnoddau a lincs
Lawrlwythiadau
Cliciwch ar deitl y ddogfen uchod i lawrlwytho’r adnodd.
Mae’r pdfs hyn yn gydnaws â darllenwyr sgrin a nodweddion mynediad eraill yn Adobe Reader. Am ragor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y nodweddion hyn, cliciwch yma.
Adnoddau sydd eu hangen
- Fflachlamp ddisglair neu lamp ddesg
- Pen
- Papur
- Cerdyn
- Tâp gludiog
- Siswrn
Gweithred Syml
- Ystyried y Sêr
Maes Dysgu a Phrofiad
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Wedi'u creu gan
Dylunydd theatr a hwylusydd gweithdai yw Sandra Gustafsson sy’n byw yng Nghaerdydd. Ers symud i Gymru yn 2016 i astudio am radd Meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Sandra wedi canfod angerdd am brosiectau addysgol a chelfyddydau cyfranogol. O ganlyniad, mae hi wedi gweithio fel Ymarferydd Creadigol mewn nifer o ysgolion Cynradd ac Uwchradd ledled De Cymru fel rhan o gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn ogystal, mae Sandra wedi cydweithio’n ddiweddar â Chanolfan Mileniwm Cymru a Sparc Valleys Kids fel rhan o’r bartneriaeth ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach’ i ddarparu gweithdai creadigol i bobl ifanc mewn lleoliadau cymunedol. Mae Sandra yn hynod frwd dros ddod o hyd i ddibenion newydd ar gyfer deunyddiau wedi’u hailgylchu a gwrthrychau y mae’n dod o hyd iddynt trwy brosiectau creadigol.