Daisy Discovers Butterflies
Ynglŷn â'r adnodd
Mae’r fideo hon yn edrych ar fater difrifol colli bioamrywiaeth a difodiant rhywogaethau.
Bwriad yr adnodd hwn yw bod yn offeryn i annog dysgwyr i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol am newid yn yr hinsawdd. Cynhyrchwyd y fideo ar ffurf bwletin “News Flash”, wedi’i leisio gan gymeriad ffuglennol hwyliog o’r enw Daisy Mothbrain.
Mae Daisy yn ohebydd newyddion trwsgl, chwilfrydig sydd â sgil arbenigol. Mae ganddi gysylltiad unigryw â gwenyn, sy’n siarad â hi ac yn rhannu eu holl wybodaeth. Mae Daisy Mothbrain yn wynebu problem sy’n gysylltiedig ag effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol y ffordd y mae bodau dynol yn byw. Trwy ymchwilio ac archwilio’r pwnc gyda Daisy, y gobaith yw y bydd dysgwyr yn teimlo eu bod yn ymgysylltu ac yn cael eu grymuso i wneud newidiadau ystyrlon yn eu bywydau.
Mae’r fideo yn 4 munud o hyd a gellir ei gwylio ar ei hyd, neu ei rhannu trwy oedi ar y ddwy egwyl naturiol ym mhob fideo (wedi’i nodi gan graffig gwenyn ac ennyd o gerddoriaeth) i rannu’r sesiwn gyda gweithgareddau eraill a/neu drafodaeth.
Mae’n cysylltu â gweithgareddau eraill yn yr Ystorfa.
Cliciwch yma i ddychwelyd i’r Ystorfa Addysg Go Tell The Bees.
Adnoddau a lincs
Lawrlwythiadau
Cliciwch ar deitl y ddogfen uchod i lawrlwytho’r adnodd.
Mae’r pdfs hyn yn gydnaws â darllenwyr sgrin a nodweddion mynediad eraill yn Adobe Reader. Am ragor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y nodweddion hyn, cliciwch yma.
Adnoddau sydd eu hangen
- Y fideo
- Gliniadur / Taflunydd / Sgrin
Gweithred Syml
- Plannu Hedyn
- Mynd am dro
- Dysgu Un Peth Newydd am Natur
Area of Learning and Experience
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Iechyd a Llesiant
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
Wedi'u creu gan
Mae Abigail Neal yn gyn newyddiadurwr darlledu ar gyfer newyddion BBC Cymru. Mae ganddi gyfoeth o brofiad ar draws teledu, radio a chyfryngau digidol, ond yn anad dim, mae hi wrth ei bodd yn adrodd straeon! Ei chenhadaeth ddiweddaraf yw dilyn ffordd o fyw fwy cynaliadwy, effaith isel a dweud wrth blant am ei hanturiaethau ail-wylltio.