Gwneud Gwesty Pryfed
Ynglŷn â'r adnodd

Taflen gyfarwyddiadau fer sy’n rhoi manylion ar sut i wneud gwesty pryfed syml yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r daflen yn dechrau gyda chyflwyniad bach sy’n esbonio sut mae anifeiliaid yn gymdogion i ni a sut mae angen i ni ofalu amdanyn nhw ac yn gorffen gydag ychydig o syniadau am y math o anifail y gallai’r plant ei weld yn symud i’w gwesty pryfed. Mae’r cyfarwyddiadau’n syml ac yn cynnwys awgrymiadau ar ym mhle y dylid gosod y gwesty pryfed y tu allan.
Mae’r gwesty wedi’i wneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu y dylent fod ar gael yn rhwydd i ddisgyblion ee poteli plastig, hen bapurau newydd neu bapur sgrap o’r ystafell ddosbarth.
Pan rydyn ni’n meddwl am ein cymdogion rydych chi bob amser yn meddwl am y bobl sy’n byw yn y tai o’ch cwmpas, on’d ydych chi? Ond beth am eich cymdogion sy’n anifeiliaid? Mae yna lawer o anifeiliaid sy’n byw yn eich gardd neu yn y strydoedd o amgylch eich tŷ. Mae’n bwysicach nag erioed meddwl am y cymdogion hyn ar ddechrau’r hydref oherwydd byddant yn chwilio am rywle diogel a chynnes i aeafgysgu dros y gaeaf. Mae’r gwesty pryfed hwn yn darparu lle diogel iddynt ac mae wedi’i wneud o ailgylchu ein hen sbwriel – mae’n garedig i’r amgylchedd hefyd!
Cliciwch yma i ddychwelyd i’r Ystorfa Addysg Go Tell The Bees.
Adnoddau a lincs
Lawrlwythiadau
Cliciwch ar deitl y ddogfen uchod i lawrlwytho’r adnodd.
Mae’r pdfs hyn yn gydnaws â darllenwyr sgrin a nodweddion mynediad eraill yn Adobe Reader. Am ragor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y nodweddion hyn, cliciwch yma.
Adnoddau sydd eu hangen
- Potel Blastig
- Papur Sgrap (gall hwn fod yn bapur newydd neu unrhyw bapur sgrap sydd gennych o gwmpas)
- Siswrn
- Cortyn
Simple Acts
- Be Kind to your Neighbour
Area of Learning and Experience
- Humanities
- Expressive Arts
- Science and Technology
Wedi'u creu gan
Treuliodd Eilidh Brailey y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn ei theatr ieuenctid leol, yn gyntaf fel cyfranogwr ac yn ddiweddarach yn arwain gweithdai i bobl iau. Aeth ymlaen i ddyfeisio a pherfformio sioeau yng ngŵyl Ymylol Caeredin, gan helpu i atgyfnerthu ei barn am bwysigrwydd y celfyddydau i bobl ifanc. Ar ôl cwblhau ei gradd, symudodd Eilidh i Gymru i gwblhau ei TAR, gan hyfforddi i fod yn athrawes ysgol gynradd. Yn ddiweddar, cwblhaodd yr hyfforddiant hwn a’i nod yw gweithredu creadigrwydd a dysgu creadigol wrth gyflwyno gwersi i ysgogi dychymyg ei disgyblion a helpu i ddatblygu eu sgiliau creadigol ynghyd â hyrwyddo hunanhyder.