Llythyr Dod i’ch Adnabod
Ynglŷn â'r adnodd

Mae’r adnodd hwn yn cynnwys taflenni gwahaniaethol a nodiadau athrawon. Ar gyfer y gweithgaredd hwn, bydd disgyblion yn ysgrifennu llythyrau at bobl a allai fod â phrofiad byw gwahanol iddynt hwy. Mae’r templedi llythyrau yn caniatáu i ddisgyblion ddweud wrth rywun arall amdanynt eu hunain yn ogystal â gofyn unrhyw gwestiynau am bethau yr hoffent eu gwybod.
Mae’r taflenni gwaith yn 2 ddalen wahaniaethol – taflen lythyrau gyda chynigion ar gyfer pob paragraff ac opsiwn i ‘lenwi’r bylchau’ i ffurfio llythyr ar gyfer lefel is a disgyblion ag ADY. Gellir defnyddio taflen wag ar gyfer dysgwyr MAT.
Gallai’r gweithgaredd hwn fod yn rhan o brosiect sy’n cysylltu dysgwyr â grwpiau cymunedol lleol, cartrefi gofal, sefydliadau elusennol a rhyngwladol ac mae’n addas ar gyfer prosiect rhwng cenedlaethau neu ymchwiliad i fudo a hunaniaeth ddiwylliannol.
Cliciwch yma i ddychwelyd i’r Ystorfa Addysg Go Tell The Bees.
Adnoddau a lincs
Lawrlwythiadau
Cliciwch ar deitl y ddogfen uchod i lawrlwytho’r adnodd.
Mae’r pdfs hyn yn gydnaws â darllenwyr sgrin a nodweddion mynediad eraill yn Adobe Reader. Am ragor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y nodweddion hyn, cliciwch yma.
Adnoddau sydd eu hangen
- Templedi Llythyrau
- Papur
- Pinnau
Gweithred Syml
- Cysylltu â rhywun newydd
Maes Dysgu a Phrofiad
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Dyniaethau
- Iechyd a Llesiant
Wedi'u creu gan
Treuliodd Eilidh Brailey y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn ei theatr ieuenctid leol, yn gyntaf fel cyfranogwr ac yn ddiweddarach yn arwain gweithdai i bobl iau. Aeth ymlaen i ddyfeisio a pherfformio sioeau yng ngŵyl Ymylol Caeredin, gan helpu i atgyfnerthu ei barn am bwysigrwydd y celfyddydau i bobl ifanc. Ar ôl cwblhau ei gradd, symudodd Eilidh i Gymru i gwblhau ei TAR, gan hyfforddi i fod yn athrawes ysgol gynradd. Yn ddiweddar, cwblhaodd yr hyfforddiant hwn a’i nod yw gweithredu creadigrwydd a dysgu creadigol wrth gyflwyno gwersi i ysgogi dychymyg ei disgyblion a helpu i ddatblygu eu sgiliau creadigol ynghyd â hyrwyddo hunanhyder.