Ynglŷn â'r adnodd

Gweithgaredd ymchwilio sy’n annog disgyblion i ddod ag eitemau o ddeunydd pacio bwyd y maent yn ei fwyta mewn wythnos i mewn (neu fel arall gwneud nodiadau neu luniau o ddeunydd pacio). Caiff tarddiad pob eitem o gynnyrch neu gynhwysyn ei nodi ar fap o’r byd gan ddefnyddio marcwyr neu sticeri i greu trosolwg o darddiad rhai bwydydd cyffredin sy’n cael eu bwyta yn y DU.
Mae’r gweithgaredd yn cynnwys 3 gweithgaredd estynedig, gan gynnwys mesur pellteroedd cludo bwyd, gwneud ‘bocs addewidion bwyd’ a defnyddio’r eitemau pecynnu ar gyfer gweithgareddau crefft.
Cliciwch yma i ddychwelyd i’r Ystorfa Addysg Go Tell The Bees.
Adnoddau a lincs
Lawrlwythiadau
Cliciwch ar deitl y ddogfen uchod i lawrlwytho’r adnodd.
Mae’r pdfs hyn yn gydnaws â darllenwyr sgrin a nodweddion mynediad eraill yn Adobe Reader. Am ragor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y nodweddion hyn, cliciwch yma.
Adnoddau sydd eu hangen
- Pecynnau Bwyd Gwag
- Map y Byd wedi’i Argraffu
- Pensiliau
- Pren mesur
- Sticeri (dewisol)
Gweithred Syml
- Plannu Hedyn
- Bod yn garedig wrth dy Gymydog
Maes Dysgu a Phrofiad
- Dyniaethau
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Wedi'u creu gan
Dylunydd theatr a hwylusydd gweithdai yw Sandra Gustafsson sy’n byw yng Nghaerdydd. Ers symud i Gymru yn 2016 i astudio am radd Meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Sandra wedi canfod angerdd am brosiectau addysgol a chelfyddydau cyfranogol. O ganlyniad, mae hi wedi gweithio fel Ymarferydd Creadigol mewn nifer o ysgolion Cynradd ac Uwchradd ledled De Cymru fel rhan o gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn ogystal, mae Sandra wedi cydweithio’n ddiweddar â Chanolfan Mileniwm Cymru a Sparc Valleys Kids fel rhan o’r bartneriaeth ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach’ i ddarparu gweithdai creadigol i bobl ifanc mewn lleoliadau cymunedol. Mae Sandra yn hynod frwd dros ddod o hyd i ddibenion newydd ar gyfer deunyddiau wedi’u hailgylchu a gwrthrychau y mae’n dod o hyd iddynt trwy brosiectau creadigol.