Datblygu Creadigol
Meithrin a datblygu gwneuthurwyr theatr yng Nghymru yw un o’n cenadaethau allweddol, a hynny fel modd i sicrhau cynyrchiadau newydd ac anhygoel ac i gyfoethogi cymuned theatr ffyniannus yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i roi cynnig ar bethau newydd, i gydweithio ar draws ffurfiau celf ac i ddatblygu modelau ymgysylltu newydd, gan gwestiynu syniadau am yr hyn yw theatr, pwy all ei wneud, a’i rôl yn y byd.
Rydym yn cefnogi artistiaid ar hyn o bryd drwy brosiectau yn cynnwys Springboard a Hen Wlad Ein Plant / Land of our Children.
Os ydych yn awdur sy’n byw yng Nghymru, efallai bydd gennych ddiddordeb yn ein galwad agored am ddramodwyr: Am Ddrama sy’n agor ar gyfer cyflwyniadau rhwng 16 Chwefror – 31 Mawrth.
Mewn partneriaeth â BBC Cymru a BBC Writersroom mae Awdur Preswyl Cymru yn datblygu ac yn cefnogi talent ysgrifennu Cymreig.
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Cyngor Prydeinig a Gŵyl Lagos i ddod ag artistiaid yng Nghymru ac yn Nigeria ynghyd.
Mynnwch olwg ar ein prosiectau blaenorol yma.