Datod_Unravel – Emily Laurens

Hydref 8, 2020

Mae Emily Laurens wedi treulio ei chyfnod preswyl ar leoliad yn ymweld â melinau Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin, ac yn ymateb iddynt, fel rhan o brosiect mwy hirdymor sy’n archwilio cynhyrchu tecstilau yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Mae gen i ddiddordeb yn siâp pethau, strwythur, sut mae pethau’n gweithio. Y grymoedd sydd ar waith. Pŵer. Rwy’n hoffi dychmygu cynwysyddion, ffurf, cynnwys a chynrychioliadau gweledol a throsiadol y pethau hyn. Sut y gallwn ddefnyddio adrodd straeon gweledol a throsiadau i ddeall y byd yn well a sut y gwnaethom gyrraedd y foment hon mewn amser a sut y gallwn greu llwybrau newydd a gwell i’r dyfodol.

Cyn i’m cyfnod preswyl ar leoliad ddechrau, gwelais y stori hon am wlân Cymreig, caethwasiaeth a’r diwydiant dillad modern fel cwlwm, cwlwm o edafedd yr oedd angen eu datglymu. Fe’i gelwais yn Datod (Unravel). Roeddwn yn gweld y cwlwm fel rhywbeth negyddol a’r datglymu yn bositif, gan ddod â threfn. Trefn o anhrefn, ffordd hegemonig wyn orllewinol iawn o edrych ar y byd. Ond mae’n ddiddorol fy mod wedi dewis y geiriau Datod ac Unravel yn hytrach na datglymu. Mae gan Datod naws wahanol, teimlad bod darn taclus o wau neu wehyddu yn cael ei dynnu’n ddarnau yn bwrpasol ac yna efallai bod ei rannau cyfansoddol ar gael i’w hail-bwrpasu.

Ar y cyfnod preswyl ar leoliad es i drwy tri cham gwahanol:

Yn gyntaf, dan ddylanwad gwaith Donna Haraway, gwelais y cwlwm fel rhywbeth i’w gofleidio, rhywbeth i ymgolli ynddo, efallai hyd yn oed yn llawen. Yn sicr i dderbyn, archwilio a chroesawu’r cwlwm.

 “First, promiscuously plucking out fibers in clotted and dense events and practices, I try to follow the threads where they lead in order to track them and find their tangles and patterns crucial for staying with the trouble in real and particular places and times.” 

Donna J. Haraway, Staying with the Trouble

Yr ail gam oedd sylweddoli bod hyn yn ymwneud â’m datglymu personol. Gan dderbyn a chydnabod fy mreuder gwyn, y camgymeriadau trwsgl a marwol yr oeddwn wedi’u gwneud hyd yn oed yn y prosiect hwn ynghylch hil. Gofyn am gymorth a chyngor di-dâl gan ffrindiau du, meddwl bod angen cydweithredwr du i ddilysu’r gwaith, heb ddeall gwerth (a phrinder) gwneud y gwaith hwn, fel person gwyn, gyda phobl wynion eraill. Nid yw hil yn ymwneud â bod yn ddu, dyma fy hanes innau hefyd ac mae angen i mi ei gydnabod a’i wynebu. I weld gwerth edrych ar oruchafiaeth wyn a hiliaeth systemig o safbwynt gwyn.

White people raised in Western society are conditioned into a white supremacist worldview because it is the bedrock of our society and its institutions. Regardless of whether a parent told you that everyone was equal, or the poster in the hall of your white suburban school proclaimed the value of diversity, or you have traveled abroad, or you have people of color in your workplace or family, the ubiquitous socializing power of white supremacy cannot be avoided. The messages circulate 24-7 and have little or nothing to do with intentions, awareness, or agreement. Entering the conversation with this understanding is freeing because it allows us to focus on how–rather than if–our racism is manifest. When we move beyond the good/bad binary, we can become eager to identify our racist patterns because interrupting those patterns becomes more important than managing how we think we look to others.” 

Robin Diangelo, White Fragility

Y trydydd cam oedd gwrthod syniad y cwlwm yn gyfan gwbl. Nid oes unrhyw beth clymedig a dirgel ynglŷn â chaethwasiaeth, gwladychiaeth, cyfalafiaeth, diwydiant. Mae’n glir ac yn drefnus ac yn strwythurol. Ac efallai ei fod yn cael ei wneud i ymddangos fel cwlwm cymhleth, anealladwy fel ffordd o’n datgysylltu o’r strwythurau rydyn ni’n rhan ohonyn nhw, sy’n gwneud niwed i ni ac eraill (dynol ac annynol, dŵr, pridd, aer) bob dydd.

Roedd y cyfnod preswyl wedi’i ymgorffori ac yn reddfol, a chafodd ei wneud yn bennaf yn ystod y cyfnod clo. Dilynais nentydd, dringais lwybrau yn dal canghennau, cwympais i afonydd, crafangais fy ffordd trwy ddraen a danadl poethion a ffromlys yr Himalaya, sbecian trwy gegid y dŵr gwenwynig ym melinau niferus Drefach Felindre. Yr hen felinau diffaith dadfeiliedig, y melinau sy’n dai a warysau dodrefn, yr amgueddfa gaeedig a gwag, y cartrefi gwyliau gwag a segur.

Wrth groesi’r afonydd a’r llwybrau troed o amgylch fy mhentref, mi wnes i syfrdanu wrth y berthynas rhwng diwydiant gwlân Cymru, y fasnach gaethweision draws-Iwerydd a’r diwydiant dillad parod cyfoes. Daeth yr hyn a ddechreuodd fel ymholiad gwasgarog clymedig enfawr, yn stori llawn camfanteisio, difrod, hanesion cudd a rhai a ddilewyd, yn stori oedd yn aros ac yn dymuno cael ei darganfod, fel edafedd croestoriadol taclus, yr ystof a’r anwe.

Mae’r stori hon yn wrthrych tri dimensiwn mewn gofod. Mae haenau fertigol, llorweddol a chroeslin. Mae pob rhan wedi’i chysylltu â phob rhan arall. Mae fel corff, mae’n anadlu ac yn symud. Mae’n gorff, fy nghorff i a’ch corff chi ydyw ac rydych chi a minnau’n ei wisgo.

Strwythur y stori yw gwladychiaeth a chyfalafiaeth. Neu yn fwy cywir y Plantationocene, term a fathwyd gan Donna Haraway ac Anna Tsing

The plantation as a system of multispecies forced labor. The plantation system speeds up generation time. The plantation disrupts the generation times of all the players. It radically simplifies the number of players and sets up situations for the vast proliferation of some and the removal of others. It’s an epidemic friendly way of rearranging species life in the world. It is a system that depends on forced human labor of some kind because if labor can escape, it will escape the plantation. The plantation system requires either genocide or removal or some mode of captivity and replacement of a local labor force by coerced labor from outside, either through various forms of indenture, unequal contract, or out-and-out slavery. The plantation really depends on very intense forms of labor slavery, including also machine labor slavery, a building of machines for exploitation and extraction of earthlings. I think it is also important to include the forced labor of nonhumans—plants, animals, and microbes—in our thinking.” 

Donna Haraway edgeeffects.net

Felly dyma’r strwythur rydyn ni’n byw ynddo a gydag ef. Mae’r ffatri neu’r siop chwys yn disodli’r blanhigfa siwgr (er bod y blanhigfa siwgr yn dal i fodoli) ac mae caethweision gorllewin Affrica a gweithwyr siop chwys Bangladeshaidd yn yr un safleoedd yn y strwythur hwnnw. Ac yn yr un modd yr oedd Ewropeaid gwyn wrth eu boddau o ran argaeledd siwgr gwyn (maen nhw / rydyn ni’n dal i’w wneud), maen nhw / rydyn ni nawr yn ymhyfrydu yn y dillad rhad sy’n cyrraedd siopau’r stryd fawr a thrwy’r post, heb boeni gormod am sut wnaethon nhw gyrraedd yno.

Felly sut mae diwydiant gwlân Cymru yn ffitio o fewn y strwythur hwn?

Dechreuodd y diwydiant ddod yn fecanyddol yn y 18fed ganrif mewn ymateb i’r fasnach gaethweision draws-Iwerydd a’r angen i wisgo caethweision ar y planhigfeydd mewn rhywbeth rhad a chryf. Prynwyd “Welsh plains”, fel y gelwid y brethyn, wrth y filltir gan fasnachwyr caethweision a pherchnogion planhigfeydd. Daeth melinau cynhyrchu gwlân Drefach Felindre yn nyffryn Teifi lle rwy’n byw i ddechrau cynhyrchu ymhell ar ôl i’r fasnach hon ddod i ben. Eu hanterth oedd troad y ganrif ddiwethaf rhwng tua 1880 a 1920. Mae eu rôl yn fwy cynnil a chymhleth ac mae’n cynnwys dileu’r hanes hwn a chreu, neu hyd yn oed ddyfeisio, hunaniaeth Gymreig.

Mae hunaniaeth Gymreig yn gymhleth ac yn gynnil fel unrhyw hunaniaeth genedlaethol, ac yn wahanol i bawb sy’n ystyried eu hunain, neu ran ohonyn nhw eu hunain, yn Gymreig. Mae cynhyrchion gwlân Cymru wedi’u gwehyddu yn rhan bwysig o’r hunaniaeth honno. Os yw hunaniaeth Gymraeg wedi’i chreu, rhai o’r crewyr pwysig oedd Iorwerth Peate, a sefydlodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1946, a’r Arglwyddes Llanofer. Creodd Peate fath newydd o amgueddfa, roedd yn flaengar ac yn chwyldroadol mewn sawl ffordd. Casglodd adeiladau o bob rhan o Gymru, gan gynnwys capel bach o Drefach Felindre, a chawsant eu hailadeiladu yn Sain Ffagan. Roedd y Gymru a arddangosodd yn canolbwyntio ar fywyd gwledig, crefft a’r Gymraeg; ni ddywedodd ddim byd am ddiwydiant, am y ffaith bod Cymru wedi canolbwyntio ar fasnach a chynhyrchu gyda hanes wedi ei drwytho mewn gwladychiaeth, cyfalafiaeth ac echdyniad. Roedd y Foneddiges Llanofer, aeres Gymreig o Sir Fynwy hefyd wedi chwarae ei rhan 100 mlynedd yn gynharach gan ddyfeisio gwisg genedlaethol Gymreig, adfywio gwehyddu Cymru a helpu i greu delwedd o wlân Cymreig fel un iachus ac anrhydeddus. Er gwaethaf y ffaith bod Peate a’r Arglwyddes Llanofer ill dau yn dod o Sir Fynwy, uwchganolbwynt cynhyrchu gwlân Cymru ar gyfer dillad caethweision, ni wnaeth y naill na’r llall dynnu sylw at gysylltiad Cymru â chaethwasiaeth. Nid oedd yn cyd-fynd â’r ddelwedd o Gymreictod yr oeddent yn ceisio ei hyrwyddo felly cafodd ei hepgor, ei hanghofio, ei dileu.

Mae gan eraill sy’n dod ar ei hôl gyfle, cyfle i unioni hyn. Ond nid oes gan y melinau gwlân Cymreig sy’n dal i fod ar waith unrhyw sôn am yr hanes hwn ar eu gwefannau. Mae Geraint J. Jenkins a ysgrifennodd y testun arloesol ar wlân Cymreig hefyd yn methu â sôn am gaethwasiaeth. Yn Slave Wales, mae’r hanesydd Chris Evans yn ysgrifennu sut, mewn blwyddyn yn unig, 1716, y prynodd y Royal Africa Company 8,600 llath o Welsh Plains – mwy na phum milltir a hanner o ddefnydd – ac eto nid oes yr un sôn am y fasnach hon yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol. Nawr yn yr amgueddfa mae yna awch i adrodd y straeon hyn, a derbyn a chydnabod arwyddocâd a chysylltiadau â newid yn yr hinsawdd a strwythurau modern o ecsbloetio.

Y felin olaf i mi ymweld â hi oedd Glad Bargod. Fe agorodd ym 1880, llosgodd i lawr ym 1953, cafodd ei hailadeiladu a’i chau ym 1970 ar ôl tân arall. Bu farw’r perchennog Gustav Brdlik (ffoadur o Tsiec) yn nhân 1970 (hepgorir y farwolaeth hon o’r hanes am danau mewn melinau yn Nrefach Felindre ar wefan yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol). Mae’n hollol ddiffaith nawr, peiriannau wedi’u gorchuddio ag eiddew a mwsogl. Rwy’n teimlo’r ysbrydion yn agos, fel y gwnes mewn melinau eraill yng nghanol caneuon adar a murmur y nant.

Rwy’n eistedd gyda’r felin hon, y strwythur hwn. Rwy’n meddwl am y grymoedd ar waith yn aildrefnu cerrig, yr afon, y dynion a adeiladodd y felin, gwreiddiau coed, a nawr amser a disgyrchiant sy’n ei rhwygo i lawr yn araf, gan newid ei siâp, aildrefnu cerrig. Y gwahaniaeth yw cyflymder. Mae gan yr holl bethau mwyn hyn, dŵr, aer, gwreiddiau, yr holl bethau araf hyn rym mor ddi-rwystr. Y fath bŵer. Mae’n ymddangos bod y bodau dynol yn y lle hwn wedi cael bwrlwm bach o weithgarwch, yna tân trychinebus, yna dim byd.

Yn ôl i’r nant fyrlymus

yn aildrefnu cerrig.

instagram.com/datod_unravel

Blogiau

  • Medi 7, 2020
    Llwybr Arfordir Cymru (y Dyfodol)
  • Awst 13, 2020
    Rhannu Cyfrif Zoom
  • Awst 13, 2020
    Solidering Sisters
  • Awst 3, 2020
    National Theatre Wales Pull Up : Shut Up
  • Gorffennaf 30, 2020
    Mae fy mhrofiad gyda National Theatre Wales wedi bod yn ysbrydoledig.
  • Gorffennaf 24, 2020
    “Peidiwch â phoeni, os aethoch chi ar goll neu os wnaethoch golli pethau – fe maen nhw’n dweud does dim ffyrdd yn yr awyr.”
  • Gorffennaf 21, 2020
    “Des i ar draws stori Balloon Girl bron i 10 mlynedd yn ôl, wedi’i chuddio mewn pamffled, mewn ffolder llychlyd, ar lawr uchaf Llyfrgell Ganolog Caerdydd.”
  • Gorffennaf 10, 2020
    Mycelium
  • Gorffennaf 8, 2020
    Carys Eleri’n rhyddhau Go Tell the Bees – Dod Nôl at fy Nghoed i godi arian ar gyfer Maint Cymru
  • Mehefin 19, 2020
    Gorymdaith Rithwir Go Tell The Bees – Cwestiynau a Holir yn Aml
Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast