Haia pawb!
Rydyn ni wir yn edrych ymlaen i’n tymor newydd, ac meddyliwn ni fel adran Datblygu Creadigol bod hi’n syniad da i gymryd mantais o’r cyfle yma i gwrdd â chymaint o artistiaod ar draws Cymru a phosib.
Rydyn ni am glywed am ba fath o waith sy’n cael ei wneud, i drafod y cyfleuon rydyn ni’n cynnig, ac i glywed sut allwn ni fel adran ateb eich anghenion chi fel artistiaid.
Dyma’r lleoliadau byddwn ni’n ymweld â dros yr haf:
4ydd Gorff- WRECSAM (Gyda Peggy’s Song)
5ed Gorff- ABERAERON (Gyda Cotton Fingers)
11eg Gorff- LLANDRINDOD (Gyda The Stick Maker Tales)
12fed Gorff- TREDEGAR (Gyda For All I Care)
21ain Gorff- CASNEWYDD (Gyda As Long As The Heart Beats)
26ain Gorff- ABERTAWE (Gyda Come Back Tomorrow)
27ain Gorff- BANGOR (Gyda Touch)
13eg Medi- DINBYCH-Y-PYSGOD (Gyda Tide Whisperer)
Halwch e-bost ataf ar gwenfairhawkins@nationaltheatrewales.org os ydych am ddod! Ni’n gobeithio sgwrsio rhwng 3 a 6 yn y prynhawn, rhowch syniad i ni pryd bydd gorau. A gadewch i ni wybod os byddai well gennych trafod yn Gymraeg.
Er bod ni’n mynd i’r lleoliadau yma, mae yna wastad croeso i chi cysylltu â ni dros y ffôn, ar e-bost, neu i ddod i’r swyddfa!
Gwenfair x