About Circle of Fifths

Profiad theatr i ymgolli ynddo yw Circle of Fifths, a hwnnw’n dathlu bywyd mewn marwolaeth.

Mae’r sioe yn edrych ar y pethau sy’n ein huno ni mewn galar a cholled, gan ddefnyddio ffilm, cerddoriaeth a straeon go iawn o Butetown, cymuned amlddiwylliannol hynaf Cymru, a’r tu hwnt.

Mae Gavin Porter, gwneuthurwr ffilm a theatr o Butetown, wedi creu’r sioe hon gyda cherddorion ac artistiaid o’i gymuned. Gyda’i gilydd, maen nhw’n rhoi cyfle i ni gnoi cil a dathlu ar y cyd.

Ymuna â ni i fwynhau cerddoriaeth, straeon, samosas a phice ar y maen.

Sioe yw hon a berfformiwyd gyntaf yng Nghaerdydd yn 2022. Mae Circle of Fifths bellach yn teithio i leoliadau ledled Cymru ac i Lundain.

Sioe lle bydd y gynulleidfa’n sefyll yw Circle of Fifths. Os hoffet ti drefnu lle i eistedd ymlaen llaw, cysyllta â rsvp@nationaltheatrewales.org.

Life in all its diversity; death in all its universality.

Institute of Welsh Affairs

5 Stars

You feel you are part of something real and stark and spiritual.

Buzz Magazine

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn

Gwybodaeth hygyrchedd

Glan Yr Afon, Casnewydd
  • Bydd y perfformiad ar 19 Hydref yn cynnwys dehongli BSL gan Nez Parr.
  • Mae tocyn am ddim ar gael i gynorthwywyr personol neu ofalwyr i bobl sydd angen eu cefnogaeth i ymweld â Glan yr Afon. Mae hwn ar gael i gwsmeriaid sydd â Cherdyn Hynt yn unig.
  • Mae pump lle cadair olwyn yn y stiwdio.
  • Croesawir cŵn cymorth a gellir gofalu amdanynt yn ystod perfformiadau trwy drefniant.
  • Mae dau le parcio hygyrch ar gyfer ar gyfer pobol hefo bathodyn glas.
  • Mae mynediad heb risiau ar gael ar bob lefel heblaw'r islawr.
Ebbw Vale Institute, Glyn Ebwy
  • Mae'r brif neuadd ar y llawr gwaelod gyda drysau dwbl y gellir eu hagor drwyddi ar gyfer mynediad eang.
  • Mae toiled hygyrch ar gael ger y fynedfa.
  • Mae yna fynediad heb risiau i'r fynedfa flaen o'r palmant.
  • Mae dau le parcio hygyrch y tu allan.
  • Mae dwy allanfa dân o'r neuadd, un trwy'r fynedfa flaen. Ond mae'r allanfa gefn trwy'r grisiau dihangfa dân.
Black Park Chapel, Y Waun
  • Mae gan y safle fynediad heb risiau.
  • Mae yna doiled hygyrch gyda man newid.
Theatr Byd Bach, Aberteifi
  • Mae gan y safle fynediad heb risiau.
  • Gall ymwelwyr â phroblemau symudedd drefnu i gael eu gollwng a'u casglu ger y fynedfa.
Drill Hall, Cas-gwent
  • Mae maes parcio cyhoeddus ger y Neuadd, sydd â rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer pobol hefo Bathodyn Glas.
  • Mae cwrbyn isel o'r maes parcio
  • Mae mynediad heb risiau ar gael i'r neuadd.
  • Yn y Neuadd, mae pob ardal gynulleidfa ar yr un lefel. Ceir mynediad i'r llwyfan naill ai drwy nifer fach o risiau neu ramp.
  • Toiled hygyrch ar gael.
Hopkinstown Hall, Pontypridd
  • Nid oes mynediad heb risiau.
  • Nid oes toiled hygyrch i gadeiriau olwyn.
Butetown Community Centre, Caerdydd
  • Mae gan y safle fynediad heb risiau.
  • Toiled hygyrch ar gael.
Brixton House, Llundain
  • Mae mynediad heb risiau i'r adeilad a'r theatr.
  • Mae seddau hygyrch i gadeiriau olwyn ar gael.
  • Ar gael i gysylltu â nhw ymlaen llaw i fodloni gofynion mynediad penodol.
  • Mae croeso i gŵn cymorth.

Cast

Shakeera Ahmun
Maureen Blades
Francesca Dimech
Drumtan
Kiddus
Rose Beecraft Music
Wella

Y tîm creadigol

Cyfarwyddwr
Gavin Porter
Dylunydd Set a Gwisgoedd
Ruth Stringer
Dylunydd Golau
Jane Lalljee

Dewis dyddiadau ac archebu

  • Glan yr Afon, Casnewydd Llawn
  • Glan yr Afon, Casnewydd Archebu nawr
  • Glan yr Afon, Casnewydd Archebu nawr
  • Ebbw Vale Institute, Glyn Ebwy Archebu nawr
  • Capel Parc Du, Y Waun Archebu nawr
  • Small World Theatre, Aberteifi Archebu nawr
  • Drill Hall, Cas-Gwent Archebu nawr
  • Hopkinstown Hall, Ponytpridd Archebu nawr
  • Butetown Community Centre, Caerdydd Archebu nawr
  • Brixton House, Llundain Yn dod yn fuan
  • Brixton House, Llundain Yn dod yn fuan
  • Brixton House, Llundain Yn dod yn fuan
  • Brixton House, Llundain Yn dod yn fuan