About Ein desgiau poeth
Felly, rydyn ni’n agor ein swyddfa i weithwyr llawrydd i’w defnyddio bob dydd Gwener.
Mae biliau ynni’n cynyddu, ac rydyn ni’n ffodus bod gennyn ni ofod gwag ar gael. Felly, os wyt ti’n chwilio am rywle cynnes i weithio ynddo yng nghanol Caerdydd, mae’r cynnig yno i bob gweithiwr llawrydd dan haul – boed ti wedi gweithio gyda ni o’r blaen neu beidio.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Sut fydd hyn yn gweithio?
- Bydd 4 desg benodol i weithwyr llawrydd ar gael yn ein swyddfeydd, a bydd modd archebu’r rhain am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn.
- Cofia ddod â dy liniadur, dy wefrwr, dy nodiadur ac ati gyda ti.
- Drwy archebu lle, fe gei di ddefnyddio ein WiFi, ein hargraffwyr a’n podiau Zoom newydd sbon.
- Fe gei di hefyd ddefnyddio ein cegin – lle mae modd gwneud paned o de neu goffi – a’n toiledau.
Beth yw’r manylion?
- Dyma gyfeiriad ein swyddfa
- Mae’r brif swyddfa ar y llawr cyntaf, ac modd defnyddio’r lifft neu’r grisiau i gyrraedd yno
- Mae’r podiau Zoom ar y llawr gwaelod
- Mae modd archebu’r gofodau yn ystod y bore (11am – 1pm) neu’r prynhawn (2-5pm). Os hoffet ti aros drwy’r dydd, rho’r ddau slot yn dy fasged.
Os bydd gennyt ti unrhyw ofynion hygyrchedd, rho wybod i Alice drwy anfon e-bost at alicerush@nationaltheatrewales.org.