About Sgyrsiau creadigol
Os wyt ti’n artist, rydyn ni eisiau cwrdd â ti. Tyrd i ddweud helô.
Wyt ti’n gweithio ar brosiect newydd yr hoffet ti inni wybod amdano? Wyt ti’n chwilio am gyngor cyn paratoi cais am arian? Neu efallai dy fod ti am gyflwyno dy hun, dyna i gyd.
Trefna amser gydag Alice neu Rahim o’n tîm Datblygu Creadigol i sgwrsio am beth bynnag sy’n mynd â dy fryd.
Mae pob slot yn para awr ac ar gael naill ai ar-lein drwy Zoom neu wyneb yn wyneb yn ein swyddfa.
Wrth drefnu, rho wybod inni’n gryno am beth yr hoffet ti sgwrsio, er mwyn inni gael syniad ymlaen llaw.