About The Cost of Living

Dyma brofiad mewn tair rhan sy’n codi dau fys ar yr costau byw.


Rhan 2: Joseph K and the Cost of Living

Mae gan Jo K swydd yn y byd ariannol sy’n talu’n dda. Prin fod K yn sylwi ar y llanast cynyddol sydd o gwmpas wrth gerdded i’r gwaith bob bore – y bobl ddigartre’ sy’n llond y strydoedd, y banciau bwyd, y dicter, y protestiadau, y cynnydd di-baid mewn costau byw, a’r bobl sy’n methu fforddio hynny. Ond un dydd, mae’r awdurdodau’n arestio K. Does neb yn dweud wrth K beth yw’r cyhuddiadau, ond mae’n rhaid eu hateb ac yn sydyn mae K ar y tu fas yn edrych mewn ac mae’n lle oer a brawychus.

Mae addasiad Emily White o The Trial gan Franz Kafka yn yn plethu hunllef arestio ac achos llys mewn i berfformiad sy’n dangos y pris uchel y byddwn ni’n ei dalu pan fydd y grym sy’n ein rheoli yn un gormesol ac anatebol.

Mae ein cast ensemble, sydd wedi’u cyfarwyddo gan Lorne Campbell gydag Anthony a Kel Matsena, yn gofyn i ni ystyried pa mor hurt yw ein perthynas ni â grym, a hynny mewn fersiwn ddoniol, gorfforol a grymus o ddrama glasurol Kafka.

Rhan 3: F**k the Cost of Living

Ymuna â Minas, a fydd yn rhoi perfformiad llawn ffyrnigrwydd grymus. Cerddoriaeth brotest i’r foment hon, ac i Gymru. Bydd gwesteion gwadd arbennig iawn hefyd, gan gynnwys Ayoub Boukhalfa bob nos a HMS Morris ar 18, 21 a 22 Mawrth.

Mewn partneriaeth â Grand Ambition.

Cyn-sioe | Rhan 1: Cyfrif Costau Byw

Pan fydd pethau bob amser yn gwaethygu, gall fod yn anodd gweld sut y bydd pethau byth yn gwella. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni cyn y sioe, i gysylltu â'r pwerus dros bryd o fwyd a rennir. Rydyn ni eisiau archwilio sut nad oes rhaid iddo fod fel hyn.

Yn hytrach na gwleidyddion, penaethiaid yr heddlu, arweinwyr cynghorau a chomisiynwyr yn ateb y cwestiynau, byddant yn hytrach yn gofyn ichi. Byddwch yn cael egluro eich profiadau o'r argyfwng i'r bobl a'r sefydliadau sy'n diffinio'ch bywyd, a rhannu'r pris dyddiol rydych chi'n ei dalu.

Pwy oedd yno?

Sad 18 Maw - Katie Dalton (Cymorth Cymru)
Maw 21 Maw - Jeremy Vaughan (Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru)
Mer 22 Maw - Rhian Davies (Anabledd Cymru)
Iau 23 Maw - Rob Stewart (Arweinydd Cyngor Abertawe)
Gwe 24 Maw - Josh Beynon (Cynghorydd Sir Benfro) ac Adam Price (Plaid Cymru)
Sad 25 Maw - Rocio Cifuentes (Comisiynydd Plant)

Sgyrsiau wedi'u curadu gan Shirish Kulkarni. Ymchwil cyfnod cynnar mewn partneriaeth â Data4Change.

fy enw i yw joseph k

Roedd cynulleidfaoedd hefyd yn gwylio fy enw i yw joseph k, portread teimladwy o Joseph Ks go iawn heddiw o bobl ledled Cymru yr effeithir arnynt fwyaf gan gostau byw.

Cyfarwyddwyd y ffilm gan Mathilde Lopez mewn partneriaeth â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid (EYST) a Fforwm Ieuenctid Grange Pavillion.


Gwybodaeth ddefnyddiol

Hygyrchedd

Gwyliwch y cyflwyniad BSL

Gwrandewch ar y daflen sain

  • Iaith Arwyddion Prydain trwy’r holl rannau gan Tony Evans a Sami Dunn ar 22-23 Mawrth
  • Capsiynau byw trwy iPads ar gyfer Rhan 1: Counting the Cost of Living a Rhan 3: F**k the Cost of Living ar 22-23 Mawrth
  • Capsiynau trwy iPads ar gyfer Rhan 2: Joseph K and the Cost of Living bob nos
  • Disgrifiad Sain 24-25 Mawrth gan Owen Pugh

Cast

Joni Ayton-Kent
Sara Beer
Rahim El Habachi
Lucy Ellinson
Gruffudd Glyn
Ioan Hefin
Kel Matsena
Anthony Matsena

Y tîm creadigol

Awdur
Emily White
Cyfarwyddwr
Lorne Campbell
Cyd-cyfarwyddwr
Kel Matsena
Cyd-cyfarwyddwr
Anthony Matsena
Dramaturg
Kaite O’Reilly
Cyfarwyddwr Castio
Hannah Marie Williams
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Bianca Ali
Cynllunydd Set a Gwisgoedd
Cai Dyfan
Cynllunydd Goleuadau
Jane Lalljee
Cynllunydd Sain
Alex Comana