“Rwyf wedi bod yn byw gyda breuddwydion ers 3 wythnos bellach.” Emily Laurens

Mai 29, 2020

Rwyf wedi bod yn byw gyda breuddwydion ers 3 wythnos bellach. Breuddwydion pobl eraill. Rwy’n breuddwydio am freuddwydion. Mae hunllefau pobl eraill wedi rhoi hunllefau i mi. Yng Nghymru, mae mis Mai yn amser lle mae’r llen rhwng bydoedd yn denau, Calan Mai, Noswyl Gŵyl Fai yw ysbryd y nos, yn debyg i’w hafal gwrthwynebol hydrefol, Calan Gaeaf. A thra bod y llen yn denau, rwyf wedi bod yn mynd a dod i mewn ac allan o freuddwydion pobl eraill.

Pan gyflwynais fy syniad i Theatr Genedlaethol Cymru ar ddechrau’r cyfnod clo, roeddwn yn meddwl bod y syniad yn hwyliog ac yn od. Ond po fwyaf rwyf yn suddo i mewn iddo, y mwyaf pwysig a dwfn y mae’n teimlo. Soniodd Lorne Campbell (Cyfarwyddwr artistig newydd TGC) amdano’n gweithredu fel antena a ddelir i fyny i statig ein hymwybod torfol, i fesur rhywbeth dyfnach na hwyliau neu agwedd. Fel sy’n digwydd yn aml fel artist, roedd gen i syniad nad oeddwn yn ei ddeall yn llawn eto. Ond roedd pobl eraill i’w gweld yn hoffi’r syniad ac fe’i comisiynwyd fel rhan o gyfres Rhwydwaith TGC.

Mae’r teitl yn dod o ddyfyniad ychydig yn anghywir o gân o’r 1930au, roeddwn i am iddo gael ymdeimlad telynegol. Mae cerddoriaeth a sain yn bwysig oherwydd ei fod yn ffordd gwbl weledol yn unig o adrodd stori. Yr iaith a rennir gan gelf a breuddwydion. Yn lwcus, rwyf yn treulio’r cyfnod clo gyda fy ffrind annwyl, Henry Sears, sy’n digwydd bod yn aml-offerynnwr gwych. Wrth i freuddwydion dechrau dod i’r fei ar-lein, dechreuodd fy stiwdio – sydd fel arfer yn ofod aml-ddefnydd – drawsnewid. Yng nghanol yr hen sied gwehyddu o’r 19eg ganrif, adeiladais bwth theatr bypedau bach gydag arch prosceniwm aur a llenni felfed coch. Mae goleuadau, meicroffonau, amrywiaeth o offer technegol dirgel eraill ac wrth gwrs gwe-gamera wedi eu gosod. Mae fy stiwdio wedi ei cael ei hail-lunio. Mae’n teimlo fel gofod gwbl wahanol. Rhywle i freuddwydion ffurfio eu siâp, mae fel petai chi’n cerdded i mewn i ben rhywun arall.

Mae’r breuddwydion fel ysgrythurau hynafol, rydym yn eu trin yn ôl-ofalus. Maent yn ddarnau o isymwybod pobl. Mae pethau personol: mamau’n ymddangos yn noeth, anghydfod rhwng cymdogion, cenfigen ac eiddigedd; pethau doniol fel Neil Kinnock yn fardd modernaidd, pengwiniaid i’w llogi, golwythion cig oen yn priodi â’i gilydd; a llawer o bryder – mynd ar y llwyfan heb baratoi, colli eich cof, cael eich erlid gan gymeriadau brawychus, llifogydd a hyd yn oed pryder bacio trelar am yn ôl. Ac mae yna pethau hynod o hardd, fel yma:

“tri cheffyl ag adenydd, du, yn disgleirio’n ddu gyda aroleuadau arian ar blu adenydd, yn cerdded drwy ddyfroedd bas, yn mynd yn ddyfnach, yn cerdded ac yn carlamu, yn syfrdanol. Pwrpasol, chwareus.”

Dyma ein patrwm: rydym yn dewis breuddwyd ar nos Sul a threulio ychydig ddyddiau yn siarad amdani dros paneidiau o de wrth wneud ein swyddi eraill a gofalu am ein plant ein hunain. Yna, ar ddydd Iau, rwy’n paentio trwy’r dydd. Mae’r rhan fwyaf o’r breuddwydion wedi eu gwneud o bypedau ac yn cael eu paentio ar gardfwrdd a chefnlenni wedi eu paentio. Mae wedi bod yn gamp a hanner paentio rhai breuddwydion. Ond roeddwn yn ymhyfrydu yn y ffordd yr oedd yn uno fy angerdd am gelfyddyd weledol a pherfformiad. Roeddwn yn ceisio dewis paled o liwiau ar gyfer pob breuddwyd, ac fe ddilynon ni unrhyw awgrymiadau neu gliwiau i roi gwead a manylder i’r breuddwydion. Er enghraifft, daeth y breuddwydiwr cyntaf o Gernyw felly dewisais Truro fel y dref yn y cefndir, soniodd y trydydd breuddwydiwr am ffilm Lars von Trier a daeth y cymeriadau o’r ffilm honno yn ysbrydoliaeth i’r bobl yn y freuddwyd. Ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn rydym yn rhoi’r freuddwyd at ei gilydd gyda chymorth gwych barn allanol Nigel a Louise o Shunt a thîm technegol ffantastig o TGC. Rydym yn darlledu’n fyw am 9.30pm ar nos Sadwrn.

Mae seicolegwyr a seicdreiddwyr yn ystyried breuddwydion i fod yn bwysig. Roedd Freud yn credu bod breuddwydion yn rhoi cipolwg arbennig i’n hunain dyfnaf. Roedd Jung yn gweld breuddwydion fel ymgais gan yr isymwybod i gyfathrebu a rhan bwysig o ddatblygu personoliaeth. Mae llawer o seicolegwyr modern yn credu bod breuddwydion yn atgyfnerthu ac yn trefnu ein hatgofion fel rhyw fath o dacluso niwrolegol, yn ysgubo atgofion dibwys o’r diwrnod blaenorol a storio’r rhai pwysig yn fwy diogel. Mae’n amhosib dweud a yw breuddwydion yn rhagweld y dyfodol, yn caniatáu i ni gyfathrebu gyda’r dwyfol, neu (yn fwyaf tebygol) yn darparu gwell dealltwriaeth o ni ein hunain, ond roedd hyn yn teimlo fel yr amser perffaith i ddathlu ein breuddwydion.

Bydd y breuddwyd olaf, “Sloth” yn cael ei ddarlledu’n fyw am 9.30pm ar nos Sadwrn 30 Mai.

Blogiau

  • Awst 3, 2020
    National Theatre Wales Pull Up : Shut Up
  • Gorffennaf 30, 2020
    Mae fy mhrofiad gyda National Theatre Wales wedi bod yn ysbrydoledig.
  • Gorffennaf 24, 2020
    “Peidiwch â phoeni, os aethoch chi ar goll neu os wnaethoch golli pethau – fe maen nhw’n dweud does dim ffyrdd yn yr awyr.”
  • Gorffennaf 21, 2020
    “Des i ar draws stori Balloon Girl bron i 10 mlynedd yn ôl, wedi’i chuddio mewn pamffled, mewn ffolder llychlyd, ar lawr uchaf Llyfrgell Ganolog Caerdydd.”
  • Gorffennaf 10, 2020
    Mycelium
  • Gorffennaf 8, 2020
    Carys Eleri’n rhyddhau Go Tell the Bees – Dod Nôl at fy Nghoed i godi arian ar gyfer Maint Cymru
  • Mehefin 19, 2020
    Gorymdaith Rithwir Go Tell The Bees – Cwestiynau a Holir yn Aml
  • Mehefin 10, 2020
    Weithiau rydym yn edrych i fyny ac yn ei chael yn anodd credu ein bod yn byw drwy’r foment hon …
  • Mai 29, 2020
    Chwe pheth a ddysgais yn ystod fy mhreswyliad chwe mis gyda’r BBC…
  • Mai 22, 2020
    Llythyr agored i wneuthurwyr theatr a pherfformio
Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast