Fel un o lofnodwyr y llythyr agored hwn i wneuthurwyr theatr a pherfformio, mae National Theatre Wales yn cefnogi Angharad Lee i ymuno â Thasglu Theatr Llawrydd y DU.
Cafodd Angharad ei geni a’i magu yn y Porth, yng Nghwm Rhondda. Mae’n gyfarwyddwr dwyieithog arobryn y dechreuodd ei gyrfa fel actores a chantores.
Rydym yn gwybod y bydd Angharad yn eiriolwr parod a phwerus.
Mae Angharad yn un o saith o wneuthurwyr theatr llawrydd a gefnogir gan sefydliadau Cymreig i ymuno â’r Tasglu hwn. Y lleill yw Greg Cullen, Zosia Jo, Deborah Light, Mathilde Lopez, Krystal Lowe ac Anthony Matsena, a gefnogir gan Fio, Rubicon, Groundwork Pro a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Dyma lythyr at wneuthurwyr theatr a pherfformio hunangyflogedig a llawrydd yn y DU. I’r actorion, y dramodwyr, y cyfarwyddwyr, y coreograffwyr, y rheolwyr llwyfan, y dylunwyr, y criwiau llwyfan a’r adeiladwyr setiau, i enwi dim ond rhai.
Rydym yn wir yn gweld eisiau bod gyda chi yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud. Mae gwneud theatr a pherfformio yn ymdrech gydweithredol, felly mae’n effeithio’n arbennig arnom ar hyn o bryd o ran gorfod bod ar wahân i’n gilydd. Ni allwn ddod at ein gilydd, yn yr un lle, i rannu’r profiad o berfformiad byw. Ni allwn ymarfer a mwynhau ein ffurf gelfyddyd ar ei ffurf fwyaf sylfaenol.
Erbyn hyn, mae’n edrych yn fwyfwy tebygol na fydd hyn yn bosibl am fisoedd i ddod, ac rydym yn cydnabod bod llawer o weithwyr llawrydd yn wynebu ansicrwydd gwirioneddol ynghylch os a sut y byddant yn gallu parhau i weithio yn y theatr. Mae 70% o’r bobl sy’n gweithio ym maes theatr a pherfformio yn y DU yn llawrydd neu’n hunangyflogedig, ac i’r gweithlu hwn, yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod, y mae effaith y sefyllfa bresennol ar ei mwyaf difrifol.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn rydym wedi sgwrsio â llawer ohonoch i ddeall eich anghenion a’r ffyrdd yr effeithiwyd arnoch. Rydym yn ysgrifennu i fynegi ein cefnogaeth i chi, ac i nodi rhai camau ymarferol yr ydym yn eu cymryd i wella’r sefyllfa yn seiliedig ar y sgyrsiau hyn.
Yn ogystal ag archwilio ffyrdd o gynhyrchu gwaith gyda gweithwyr llawrydd yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud, a defnyddio’r amser hwn i ddatblygu prosiectau newydd gyda gweithwyr llawrydd ar gyfer y dyfodol, rydym hefyd yn cydweithio i gydlynu ein hymateb i’r llywodraeth, er mwyn nodi’n glir yr hyn y gallwn ei gynnig a’r hyn sydd ei angen arnom.
Ar fyrder, yr ydym yn galw am ymestyn y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth yn unol â ffyrlo, ar gyfer pob gweithiwr hunangyflogedig, ac yn achos penodol gweithwyr theatr a pherfformio, nes bydd theatrau’n gallu ailagor yn ddiogel. Rydym hefyd am weld meini prawf wedi’u tynnu o’r cynllun sy’n rhwystro hawliadau dilys a mawr eu hangen.
Mae rhai ohonoch eisoes yn rhan o’r sgyrsiau hyn. Rydym yn croesawu eich lleisiau ac mae angen i ni glywed gan fwy ohonoch yn y sgyrsiau sydd i ddod. Mae eich rhwydweithiau, setiau sgiliau, safbwyntiau a syniadau unigryw yn hanfodol i’r sector cyfan, ac mae angen inni weithio gyda chi wrth ymateb i’r argyfwng hwn.
Mae pob un o’r sefydliadau sydd wedi llofnodi’r llythyr hwn wedi ymrwymo i estyn allan i’w deulu o wneuthurwyr theatr hunangyflogedig a llawrydd; gan wrando ar sut mae hyn yn effeithio ar eich gwaith a’ch bywydau, ac ar eich anghenion a’ch syniadau ar gyfer y dyfodol.
Yn fwy na hynny, rydym am hwyluso’r gwaith o sefydlu tasglu cenedlaethol o wneuthurwyr theatr a pherfformio hunangyflogedig. Pwrpas y tasglu yw cryfhau dylanwad y gymuned theatr a pherfformio hunangyflogedig. Byddai’n creu pwyntiau cyswllt parhaus rhwng gweithwyr llawrydd a sefydliadau, ac yn chwyddo llais yr hunangyflogedig yn y sgyrsiau i ddod. I helpu i sefydlu’r tasglu, bydd pob un o’r sefydliadau sy’n llofnodi’r llythyr hwn yn cefnogi gweithiwr llawrydd i ymuno â’r grŵp, gan sicrhau eu bod yn cael eu talu am eu hamser.
Rydym am gynnig neges o obaith ac undod. Bydd ein gallu sefydledig i gydweithio, i ffurfio cysylltiadau, ac adeiladu perthnasoedd yn ein helpu drwy hyn. Un diwrnod, cyn bo hir gobeithio, bydd modd i bob un ohonom gyfarfod â’n gilydd, fel y mae pobl wedi’i wneud ers canrifoedd, mewn gofod a rennir, am brofiad a rennir. Yn y cyfamser, rydym yn parhau’n ymrwymedig i weithio drosoch chi a gyda chi tuag at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer theatr a pherfformio.
Llofnodwyd gan,
Access All Areas
Action for Children’s Arts
The Almeida Theatre
ArtsAdmin
The Actors Touring Company
Battersea Arts Centre
Birmingham Repertory Theatre
Boundless Theatre
Brighton Festival
Bristol Old Vic
Brixton House
The Bush Theatre
Chichester Festival Theatre
China Plate
Contact
Dance Umbrella
Derby Theatre
Eden Court Highlands
English Touring Theatre
Fio
Fuel
Gate Theatre
Graeae
HOME
Improbable
Kiln Theatre
Leeds Playhouse
Leicester Curve
The National Theatre
National Theatre of Scotland
National Theatre Wales
National Youth Theatre of Great Britain
The New Wolsey Theatre
Northern Stage
Nottingham Playhouse
One Dance UK
Paines Plough
Rose Theatre Kingston
Royal & Derngate
The Royal Court Theatre
The Royal Shakespeare Company
Sadler’s Wells
Sheffield Theatres
Spare Tyre
Talawa
Tangled Feet
The Yard
Theatre Peckham
Theatre Royal Plymouth
Tiata Fahodzi
Yellow Earth
1927