Mae fy angerdd fel cyfarwyddwr wedi ei wreiddio yn y gwaith a wnaf gydag awduron ac actorion.

Mehefin 7, 2019

Yn ôl yn 2009, roeddwn yn un o nifer oedd yn aros yn eiddgar am lansiad fy Theatr Genedlaethol. Fel darlithydd mewn Addysg Bellach, roeddwn yn arfer addysgu modiwl a oedd yn gofyn i fyfyrwyr ddisgrifio sut ffurf fyddai ar Theatr Genedlaethol i Gymru. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ymateb. Roedd yn aml yn rhanedig, yn wrthdrawiadol ar brydiau, ond bob amser yn angerddol. Felly, ar y diwrnod hwnnw, doeddwn i ddim yn gallu aros i weld ei ffurf a sut y byddai’n dod yn rhan o’n bywydau.

Doeddwn i ddim yn gwybod bryd hynny y fath effaith ddofn y byddai NTW yn ei chael ar fy natblygiad fel cyfarwyddwr, o’r cyfleoedd fel Cyfarwyddwr sy’n dod i’r Amlwg i gyfnod preswyl yn stiwdio’r NT yn Llundain. Teimlaf fod y llwybr i’r lle yr wyf yn awr o ran fy hyder a’m hymdeimlad o geisio mynd y tu hwnt i’r disgwyliedig wedi’i oleuo ar hyd y ffordd gan arwydd bocs golau NTW yn dweud ‘dyma’r ffordd,  dewch ymlaen, gallwch wneud mwy na hynny’.

Felly, mae’n debyg y gallwch ddyfalu bod fy rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Cyswllt gyda’r cwmni, yn rhoi hwb i mi ac ymdeimlad anhygoel o bwrpas sy’n fy ngwneud yn hapus iawn. Mae’r rhai sy’n fy adnabod, neu sydd erioed wedi gofyn am gyngor ar gyfer cyfweliad, neu i baratoi ar gyfer araith ac ati yn gwybod fy mod wrth fy modd yn defnyddio’r dyfyniad “I want to be thoroughly used up when I die” gan George Bernard Shaw. Dyna fy mantra sy’n ymddangos yn addas ar gyfer unrhyw foment lle mae angen diben. Yr wyf yn gwybod yn rhy dda o lawer pa mor hawdd yw colli fy ffordd, i grwydro o gwmpas diben gan ofni methiant neu feirniadaeth. Ond rwy’n gwybod hefyd, fel merch i weithiwr dur a ddaeth adref wedi ymlâdd, fel petai wedi gwneud shifft, fod gwneud theatr yn fraint ac yn un y mae’n rhaid ei chroesawu gyda phwrpas beth bynnag.

Gyda’m llaw ar fy nghalon, mae’r ymdeimlad hwn o fod wedi ymlâdd yn llwyr (mewn ffordd dda) yn bendant yn un sydd wedi llunio fy rôl gyda’r cwmni hyd yn hyn. Mae pob diwrnod yn amrywiol ac yn cynnig her neu ffocws newydd. Yr wyf yn alluogwr, yn gyfrwng, yn gefnogaeth, yn seinfwrdd creadigol. Rwy’n gwrando ac yn ymateb, yn ymchwilio ac yn cyfrannu, yn llywio ac yn gyrru. Rwy’n hoff iawn o fod yn rhan o dîm sy’n malio go iawn, lle mae gan bob un ohonom set sgiliau a phersbectif gwahanol ond yn dod at ein gilydd i wneud rhywbeth i eraill ei dderbyn.

 

Mae’r ochr gynhyrchu o bethau, hyd yn hyn, wedi golygu cefnogi Mike Brookes ar Storm 3 a chyfarwyddo Cotton Fingers ar gyfer teithio, yn ogystal ag ymateb i brosiectau sy’n cael eu datblygu ar gyfer 2020 a thu hwnt. Rhan arall o’r rôl hon yw datblygiad proffesiynol parhaus gwneuthurwyr theatr yng Nghymru drwy Lleisiau Cymreig y BBC,  Cyfarwyddwyr sy’n Dod i’r Amlwg, Cyfnodau Preswyl ar Leoliad ac Ymchwil a Datblygiad. Dwi wedi mwynhau darllen ac ymateb i’r dramâu y mae’r grŵp Lleisiau Cymreig yn eu gwneud, gan gael ymdeimlad go iawn o’u lleisiau unigryw a chael amser i holi am hyn. Mae’r sesiynau a gefais gyda’n Cyfarwyddwyr sy’n Dod i’r Amlwg wedi bod mor ysbrydoledig. Llwyfan i ystyried sut y disgrifiwn ein gwaith i’r rhai nad ydynt wedi ei brofi eto. Cwestiynu’n wirioneddol yr hyn sydd ei angen arnom er mwyn parhau i symud ymlaen a sut rydym yn goresgyn y rhwystrau sy’n ein hatal. Mae’r rhwydwaith cefnogol a beirniadol hwn yn teimlo’n hanfodol. Yn y Sgwrs Greadigol ddiweddar, roedd yr angen am fentora a chysylltiadau gyda gwneuthurwyr theatr eraill yn amlwg ac yn rhywbeth rwy’n gobeithio y gall dyfu yn ystod y misoedd nesaf.

Mae fy angerdd fel cyfarwyddwr wedi ei wreiddio yn y gwaith a wnaf gydag awduron ac actorion. Sut rydyn ni’n adrodd y stori, a beth mae’n ei olygu i ni nawr. Rwy’n hoff iawn o’r cyfarfodydd yr wyf wedi’u cael gydag awduron gwych, yr haelioni sydd ganddynt i gymryd risg a gwrando ar fy syniadau ar eu gwaith. Mae patrwm yn dod i’r amlwg, unwaith eto, gyda’r angen am adborth adeiladol, llwyfannau i arbrofi a phrofi ysgrifennu yn thema fynych yn ein trafodaethau.

Yr wyf wedi ymuno â’r cwmni ar adeg arbennig o gyffrous, gan fod cynllun strategol newydd yn cael ei ffurfio. Mae gwir ymdeimlad nad yw unrhyw benderfyniad a wneir nac unrhyw syniad a archwilir yn ymwneud â’r tymor byr. Mae edrych i’r dyfodol yn gofyn am feddwl cadarn ac fel llais arall yn y trafodaethau hyn rwyf wedi mwynhau cael eraill yn herio ac yn archwilio fy marn a’m syniadau yn fanwl. Sut mae sicrhau bod theatr yn ffynnu yng Nghymru? Sut y gall theatr olygu rhywbeth i genedl gyfan? Sut ydyn ni’n meithrin ac yn cefnogi ein talent greadigol eithriadol sydd â chysylltiad â Chymru neu’r Gymreig (beth bynnag mae hynny’n ei olygu i bob un ohonom).

Mae meddwl yn ymarferol trwy hyn wedi bod yn un o uchafbwyntiau’r rôl hon hyd yn hyn, rwy’n berson sy’n datrys ac yn gwneud yn naturiol ac rwyf wedi dysgu fy mod i’n aml eisiau rhuthro ymlaen gyda datrysiadau tymor byr cyn meddwl mewn gwirionedd am yr effaith tymor hir. Mae cael y cyfle i ystyried sut y gall theatr wasanaethu yn rhywbeth sy’n ddiddorol iawn i mi ac rwy’n ddiolchgar i’w ystyried yn ddyfnach ac eto gyda diben.

Ddwy flynedd yn ôl, gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, cynrychiolais Gymru yn y Lincoln Center Theater Directors Lab. Gofynnwyd i mi gyflwyno sesiwn ar NTW, i ddisgrifio’r model wrth i ni gyd rannu syniadau ynglŷn â sut i wneud theatr mewn cyfnod o newid. Synnais at chwilfrydedd y cyfarwyddwyr o bob rhan o’r byd yn fy Theatr Genedlaethol. Mae’r syniad bod gan theatr wreiddiau mewn cymuned, ac eto bod ganddi hunaniaeth genedlaethol wir wedi agor dadl wych.

Unwaith eto, trois at y dyfyniad gan George Bernard Shaw, a’r darn sy’n cyffroi fy nghalon, ‘I am of the opinion that my life belongs to the community, and as long as I live, it is my privilege to do for it whatever I can.’ Teimlaf fod y cyfnod hwn fel Cyfarwyddwr Cyswllt wedi’i grisialu yn y syniad hwnnw. Yn y pen draw, pan fydd y rôl hon yn gorffen ac rwy’n myfyrio arni, rwy’n gobeithio y gallaf ddweud fy mod wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod fy theatr genedlaethol yn ffynnu, ac wrth wneud hynny, cydnabod bod y theatr hon yn eiddo i ni i gyd. Mae’n rhaid iddi fod yn theatr i chi llawn cymaint ag y mae’n theatr i mi, a phan fydd pob un ohonom yn dechrau ei alw’n Theatr Genedlaethol i ni, byddwn yn gwybod ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn.

Blogiau

  • Mehefin 24, 2019
    Dewch i gymryd rhan yn ein arolwg cynulleidfa
  • Chwefror 16, 2019
    Castio STORM.3
  • Chwefror 15, 2019
    Gadael Oily Cart – Francesca Pickard
  • Chwefror 11, 2019
    The Agency – Cylch 2 – Gavin Porter
  • Rhagfyr 5, 2018
    The Agency – Y Diweddaraf – Gavin Porter
  • Tachwedd 14, 2018
    Year One in Pembrokeshire – Robbie Price
  • Tachwedd 14, 2018
    Year One in Wrexham – Lizzie Glazier
  • Tachwedd 12, 2018
    Neges gan gadeirydd bwrdd National Theatre Wales, Clive Jones
  • Tachwedd 9, 2018
    TEAM ledled Cymru a Cip olwg yn ôl dros Gwyl NHS70
  • Hydref 19, 2018
    Ychydig o feddyliau a myfyrdodau
Font Resize
Contrast