“Mae gen i ddiddordeb mewn gweld sut mae’r ddrama’n eistedd yn y byd sydd ohoni”

Mai 15, 2020

Dywedwch wrthym am y ddrama, a beth yw’r pwnc

Bydd Constellation Street yn digwydd dros un noson yng Nghaerdydd, rhwng hanner nos a gwawr. Mae’n dilyn stori pedwar cymeriad – sef perchennog tafarn, gyrrwr tacsi, athro ysgol a merch ifanc – sydd i gyd yn sownd yn eu purdanau personol eu hunain. Mae eu gweithredoedd yn y gorffennol yn pwyso arnyn nhw’n drwm ac maen nhw’n daer am ddod o hyd i ffordd o symud ymlaen. Ar yr un noson arbennig hon, mae eu llwybrau’n digwydd gwrthdaro a rhyngblethu. Mae’r ddrama wedi’i gosod yn ystod y nos oherwydd dyna’r adeg pan mae’r byd yn fwyaf tawel a llonydd ac mae ganddyn nhw’r amser a’r lle i ddadansoddi eu gweithredoedd yn y gorffennol.

A yw’r ddrama wedi newid o ystyried yr amgylchiadau presennol? Sut?

Mae gen i ddiddordeb mewn gweld sut mae’r ddrama’n eistedd yn y byd sydd ohoni. Pan gafodd ei chynhyrchu am y tro cyntaf yn 2016, rwy’n cofio ei fod yn wanwyn hynod o boeth ac roedd optimistiaeth a bywiogrwydd gwirioneddol yn yr awyr yng Nghaerdydd. Roedd y tîm pêl-droed cenedlaethol ar fin cychwyn ymgyrch lwyddiannus iawn yn yr Euros, roedd David Cameron (cofio ef?) yn dal yn Brif Weinidog ac roeddem yn dal i fyw mewn byd lle’r oedd Brexit a’r holl anhrefn sydd wedi dilyn heb ddigwydd eto, ac roedd Barack Obama yn arweinydd y byd rhydd. Roedd yn teimlo’n rhyfedd ein bod yn llwyfannu drama dywyll a meddylgar mewn cyfnod mor gymharol gadarnhaol ond roedd pobl i’w gweld yn ei mwynhau.

Ailddarllenais draethawd gan yr ymarferwr theatr Americanaidd Anne Bogart yn ddiweddar am ‘Gyd-destun’. Mae’n draethawd sydd wir wedi aros gyda mi dros y blynyddoedd. Mae’n sôn am gynhyrchiad o’r enw ‘Radio Play’ a oedd yn fersiwn lwyfan o ‘War of the Worlds’ gan Orson Welles a gynhyrchwyd gan ei chwmni theatr ar ddechrau’r 2000au. Roedd y cynhyrchiad yn teithio ac yn derbyn cynulleidfaoedd iach. Yna digwyddodd 9/11. Yn sydyn roedd cynulleidfaoedd yn gwylio’r ddrama drwy lens hollol wahanol oherwydd y drasiedi hon a ddigwyddodd ar eu tir hwy. Roedd y delweddau yn stori Welles – delweddau o strydoedd llawn mwg, o ddinasyddion yn rhedeg am eu bywydau, o banig torfol, o elyn ar diroedd domestig – yn eu taro mewn ffordd gwbl wahanol. Parhaodd y sioe ar ei thaith ar ôl 9/11 er bod llawer o theatrau eisiau ei thynnu rhag ofn y byddai ei chynnwys yn rhy gignoeth. Mewn gwirionedd, roedd cynulleidfaoedd yn heidio i’w gweld. Roedden nhw am gasglu ynghyd a galaru, roedden nhw eisiau trafod a deall, roedden nhw eisiau cymuned ac roedden nhw eisiau catharsis.

Yn Constellation Street, mae’r cymeriadau i gyd mewn limbo, maen nhw mewn ‘cyfyngiad’ meddyliol, mae eu byd yn dawel ac yn llonydd ac mae hynny’n rhoi amser iddyn nhw fyfyrio ar y gorffennol a gobeithio am y dyfodol. Gobeithio bod rhai o’r pethau hynny’n atseinio mewn ffordd ychydig yn wahanol i gynulleidfaoedd y tro hwn. Wedi dweud hynny, rwyf wedi bod yn ysgrifennu’n ddigon hir i wybod na ddylwn byth geisio dyfalu beth fydd barn cynulleidfa am rywbeth!

Sut aethoch chi ati i ail-lwyfannu’r ddrama, yn ein hamgylchiadau newydd? Beth oedd yn heriol/yn hawdd am hyn?

Dydw i ddim wedi cymryd rhan mewn ymarferion o gwbl y tro hwn. Fe wnes i alw heibio seiswn cwrdd a chyfarch yr wythnos hon i ddweud helo wrth y cast a’r tîm creadigol ac yna eu gadael i fwrw ymlaen. Rwyf wrth fy modd gyda’r tîm sydd wedi cael ei gynnull i weithio ar y darlleniad. Rwy’n ffan enfawr o bob un o’r pedwar aelod o’r cast, mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r cyfarwyddwr Dan Jones eto a phan glywais fod Tic Ashfield yn mynd i greu byd sonig ar gyfer y darlleniad roedd hynny’n goron ar y cyfan. Rwy’n siŵr bod dod o hyd i ffordd o’i ail-lwyfannu yn yr amseroedd presennol hyn wedi bod yn heriol ond rwyf wedi gadael hynny i Dan! Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd sawl gwaith erbyn hyn ac mae’n cyfarwyddo â gwir eglurder, sensitifrwydd a gosgeiddrwydd. Rwy’n hyderus ei fod wedi gwneud rhai dewisiadau craff. Rwyf yn fwriadol wedi peidio ag ailddarllen y ddrama dros yr wythnosau diwethaf, yn wir, dydw i ddim wedi’i darllen yn ei chyfanrwydd ers i ni ei hymarfer yn 2016, felly rwy’n edrych ymlaen at eistedd i lawr nos Sadwrn a gwneud y peth hwnnw yr ydym i gyd wedi bod yn ei wneud ers milenia – casglu o gwmpas y tân gwersylla (ar gyfer ‘campfire’ gweler ‘screen’) a gwrando ar straeon.

 

Matthew Bulgo

Awdur (Constellation Street)

Blogiau

  • Awst 3, 2020
    National Theatre Wales Pull Up : Shut Up
  • Gorffennaf 30, 2020
    Mae fy mhrofiad gyda National Theatre Wales wedi bod yn ysbrydoledig.
  • Gorffennaf 24, 2020
    “Peidiwch â phoeni, os aethoch chi ar goll neu os wnaethoch golli pethau – fe maen nhw’n dweud does dim ffyrdd yn yr awyr.”
  • Gorffennaf 21, 2020
    “Des i ar draws stori Balloon Girl bron i 10 mlynedd yn ôl, wedi’i chuddio mewn pamffled, mewn ffolder llychlyd, ar lawr uchaf Llyfrgell Ganolog Caerdydd.”
  • Gorffennaf 10, 2020
    Mycelium
  • Gorffennaf 8, 2020
    Carys Eleri’n rhyddhau Go Tell the Bees – Dod Nôl at fy Nghoed i godi arian ar gyfer Maint Cymru
  • Mehefin 19, 2020
    Gorymdaith Rithwir Go Tell The Bees – Cwestiynau a Holir yn Aml
  • Mehefin 10, 2020
    Weithiau rydym yn edrych i fyny ac yn ei chael yn anodd credu ein bod yn byw drwy’r foment hon …
  • Mai 29, 2020
    “Rwyf wedi bod yn byw gyda breuddwydion ers 3 wythnos bellach.” Emily Laurens
  • Mai 29, 2020
    Chwe pheth a ddysgais yn ystod fy mhreswyliad chwe mis gyda’r BBC…
Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast