Ymateb National Theatre Wales i’r alwad i weithredu i gwmnïau theatr a lleoliadau yn y DU.
2019-20
Gweithlu craidd (amser llawn a rhan-amser)
Roedd 23 o staff. Roedd ein tîm yn:
- 4% B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
- 4% treftadaeth ddeuol: Du Caribïaidd a Gwyn
- 4% treftadaeth ddeuol: Asaidd a Gwyn
- 4% treftadaeth ddeuol neu luosog arall
- 4% o gefndir Asiaidd
- 78% Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
4% o gefndir Gwyn arall
Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Roedd 11 ymddiriedolwr yn gwasanaethu ar ein Bwrdd. Roedd ein Bwrdd yn:
- 9% treftadaeth ddeuol: Du Caribïaidd a Gwyn
- 91% Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
- Nid yw yr un o’n hymddiriedolwyr yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Panel TEAM
Roedd 13 aelod yn gwasanaethu ar Banel TEAM.
- Mae 31% yn bobl groenliw
- Mae 46% yn fenywod
- Nid yw yr un ohonynt yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Datblygiad Creadigol
O’r artistiaid a ymgysylltwyd drwy ein Rhaglen Datblygiad Creadigol gyfan
- Roedd 54% o’r Prif Artistiaid yn fenywod
- Roedd 29% o’r Prif Artistiaid yn bobl groenliw
- Nododd 4% o’r Prif Artistiaid fod ganddynt anabledd neu anghenion ychwanegol
- a nododd 28% o’r Prif Artistiaid eu bod yn LGBTQ+
O’r artistiaid a ymgysylltwyd drwy ddau brif faes y Rhaglen Datblygiad Creadigol (Cyfnodau Preswyl ar Leoliad a Labordai Datblygiad Proffesiynol), a ddewiswyd i ddatblygu prosiectau newydd o alwadau agored:
- Roedd 92% o’r Prif Artistiaid yn fenywod
- Roedd 33% o’r Prif Artistiaid yn bobl groenliw
- Roedd 35% o’r holl artistiaid (gan gynnwys cydweithwyr) yn bobl groenliw
Actorion
O’r perfformwyr a gastiwyd yn ein cynyrchiadau
- Roedd 19% yn bobl groenliw
- Roedd 47% yn fenywod
- Roedd 22% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Prif Artistiaid
O’r artistiaid sy’n cychwyn a/neu’n arwain ein cynyrchiadau
- Roedd 19% yn bobl groenliw
- Roedd 38% yn fenywod
- Nid oedd yr un yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Cyfranogwyr
O’r bobl a ymgysylltwyd drwy ein Rhaglen Cydweithredu gyfan
- Roedd 30% yn bobl groenliw
- Roedd 55% yn fenywod
- Roedd 20% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
2018-19
Gweithlu craidd (amser llawn a rhan-amser)
Roedd 23 o staff. Roedd ein tîm yn:
- 4% B/byddar, anabl neu niwroddargyfeiriol
- 4% o gefndir Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd, gan gynnwys ein Cyfarwyddwr Artistig a’r Prif Swyddog Gweithredol
- 4% o gefndir Asiaidd
- 4% treftadaeth ddeuol neu luosog arall
- 78% Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Roedd 8 ymddiriedolwr yn gwasanaethu ar ein Bwrdd. Roedd ein Bwrdd yn:
- 13% B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
- 13% treftadaeth ddeuol: Gwyn ac Asiaidd
- 91% Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
Panel TEAM
Roedd 15 aelod yn gwasanaethu ar Banel TEAM.
- Roedd 20% yn bobl groenliw
- Roedd 46% yn fenywod
- Roedd 7% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Datblygiad Creadigol
O’r artistiaid a ymgysylltwyd drwy ein Rhaglen Datblygiad Creadigol gyfan
- Roedd 59% o’r Prif Artistiaid yn fenywod
- Roedd 12% o’r Prif Artistiaid yn bobl groenliw
- Nododd 19% o’r Prif Artistiaid fod ganddynt anabledd neu anghenion ychwanegol
- a nododd 25% o’r Prif Artistiaid eu bod yn LGBTQ+
Actorion
O’r perfformwyr a gastiwyd yn ein cynyrchiadau
- Roedd 41% yn bobl groenliw
- Roedd 56% yn fenywod
- Roedd 3% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Prif Artistiaid
O’r artistiaid sy’n cychwyn a/neu’n arwain ein cynyrchiadau
- Roedd 29% yn bobl groenliw
- Roedd 58% yn fenywod
- Nid oedd yr un yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Cyfranogwyr
O’r bobl a ymgysylltwyd drwy ein Rhaglen Cydweithredu gyfan
- Roedd 19% yn bobl groenliw
- Roedd 54% yn fenywod
- Roedd 5% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Wrth gasglu’r data hyn nid ydym yn gyson wedi rhoi cyfle i unigolion ddweud wrthym yn ddigon penodol sut maent yn uniaethu (er enghraifft, rydym wedi defnyddio ‘Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig’). Byddwn yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn gofyn am y wybodaeth hon, ei chasglu a’i defnyddio fel y gallwn ni a chithau, a hynny ar draws holl weithgarwch NTW, weld yn glir pwy sy’n elwa o gyfleoedd datblygiad, pwy sy’n cael eu cyflogi, pwy sy’n arwain ein cynyrchiadau a phwy sydd yn ein cynulleidfa.
Ar hyn o bryd rydym yn ymwneud â phrosesau i fynd i’r afael â diffyg amrywiaeth ein bwrdd a’n tîm staff. Credwn y dylai ein cwmni a’n gwaith adlewyrchu’r ddinas fywiog yr ydym wedi’n lleoli ynddi, a’r Gymru yr ydym yn gweithio iddi a chyda hi.
Ein huchelgeisiau ar gyfer tymhorau gwaith yn y dyfodol yw
Prif Artistiaid – yr artistiaid sy’n cychwyn a/neu’n arwain ein cynyrchiadau, sef awdur a chyfarwyddwr fel arfer.
- Bydd 50% o’r Prif Artistiaid ar gyfer ein rhaglen artistig yn uniaethu fel menywod
- Bydd 20% yn bobl groenliw
- Bydd 10% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Perfformwyr
- Bydd 50% o’r Perfformwyr ar gyfer ein rhaglen artistig yn uniaethu fel menywod
- Bydd 20% yn bobl groenliw
- Bydd 10% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Gweithwyr llawrydd – artistiaid a gwneuthurwyr theatr gan gynnwys dylunwyr, cyfarwyddwyr cerdd, technegwyr, rheolwyr llwyfan a rhagor.
- Bydd 15% o’r gweithwyr llawrydd ar gyfer ein rhaglen artistig yn bobl groenliw
- Bydd 5% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Cyfranogwyr – pobl sy’n ymgysylltu â’n rhaglen Cydweithredu, gan gynnwys artistiaid, cyfranogwyr cymunedol, staff cefn llwyfan a thechnegol, y rhai sydd wedi cynnal neu fynychu gweithdai a hyfforddiant, perfformio mewn digwyddiadau cymdeithasol a chymryd rhan yn The Agency.
- Bydd 50% o’r Cyfranogwyr a ymgysylltir drwy ein Rhaglen Cydweithredu yn uniaethu fel menywod
- Bydd 20% yn bobl groenliw
- Bydd 10% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Artistiaid a gefnogir drwy fentrau Datblygiad Creadigol, gan gynnwys awduron a gomisiynir, Cyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr sy’n dod i’r amlwg a chyfnodau preswyl ar leoliad i artistiaid
- Bydd 50% o’r Artistiaid a ymgysylltir drwy ein Rhaglen Datblygiad Creadigol yn uniaethu fel menywod
- Bydd 20% yn bobl groenliw
- Bydd 10% yn B/byddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol
Mae ein hymddiriedolwyr yn gwasanaethu tymor o 3 blynedd ac mae proses recriwtio ar gyfer 4 lle ar ein bwrdd ar fin dechrau. Mae’r bwrdd bellach yn gweithio i sefydlu ei ymrwymiad pendant i amrywiaeth o fewn y cylch recriwtio hwn.
Fel tîm rydym ar hyn o bryd yn edrych yn fanwl ar bob un o’n systemau a’n polisïau, gan eu halinio â’n gwerthoedd a’n cyfrifoldeb i wneud National Theatre Wales yn lle diogel a grymusol ar gyfer artistiaid, gwneuthurwyr theatr a gweithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau sy’n ddu, pobl ag anableddau a phob person groenliw.
Byddwn yn gwneud datganiad cyhoeddus yn yr hydref yn amlinellu ein gweithredoedd a’n hymrwymiadau sy’n deillio o’r broses hon.