Parti Perfformio TEAM NTW, Haverhub, Hwlffordd
Ynglun a'r Noson
Nododd TEAM NTW ddiwedd y flwyddyn gyntaf o’n rhaglen pedair blynedd yn Sir Benfro trwy gynnal Parti Perfformio yn Haverhub, Hwlffordd ar ddiwedd mis Tachwedd 2018.
Mae Partis Perfformio TEAM yn gyfle i aelodau TEAM presennol a newydd ddod ynghyd a mwynhau noson o berfformio, trafod, bwyd, diod a llawer mwy.
Clywsom am yr hyn sy’n bwysig i bobl Sir Benfro a’r hyn rydych CHI ei eisiau gan TEAM a NTW wrth i ni barhau â’n taith tuag at greu sioe gyda’n gilydd.
O ganlyniad i’r noson hon a’n blwyddyn gyntaf o waith, rydym yn falch o gyhoeddi mai’r thema a ddewiswyd ar gyfer y sioe yw Newid yn yr Hinsawdd. Dechreuwch feddwl am y traethau, y môr, y coed a’r sêr, wedyn gyrrwch eich syniadau trwy e-bost i team@nationaltheatrewales.org
*****MAE GENNYM FFOTOGRAFFAU A FFILM O’R DIGWYDDIAD*****