Bloom
Tina Pasotra
Bloom
Coloneiddio, mudo, tyfu, ffynnu; themâu sy’n codi’n aml yng ngwaith yr artist aml-gyfrwng, Tina Pasotra. Pwy sydd â’r hawl i ffynnu a thyfu heddiw, mewn amgylchedd anghyfeillgar lle mae systemau o orthrwm yn cael eu hamddiffyn yn ddiflino?
Wrth ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, bydd hi’n archwilio’i syniadau ynghlwm â thyfiant ac arbrofi yng nghyd-destun ymarferion botanegol. Yn ymuno â Tina bydd Katie Smyth, un o sylfaenwyr stiwdio gynllunio Worm, sy’n aml yn defnyddio blodau a phlanhigion mewn prosiectau cysyniadol. Bydd hi hefyd yn ymgynghori â haneswyr sydd ag arbenigedd ar India a’r Raj Prydeinig, gan ddarparu cyd-destun ar gyfer hanesion gwladychol, ddoe a heddiw.
Bydd pen-llanw’r prosiect ar ffurf gosodweithiau o blanhigion bydd Tina’n eu creu gyda Worm, wedi’u hysbrydoli gan broses y lab datblygu.