Common Ground
Kama Roberts
Common Ground
Mae Kama yn storïwr, gwneuthurwr theatr a rheolwraig gelfyddydol sy’n byw yng nghanolbarth Cymru ac sy’n creu ystod o brosiectau i gymunedau gwledig, a gyda hwy. Ar gyfer y lab hwn, bydd hi’n gweithio gydag Andrew Sterry, gwneuthurwr theatr o’r canolbarth sy’n arddangos gwaith mewn gofodau mor amrywiol â chartrefi gofal, canolfannau dydd a theatrau traddodiadol.
Bydd Common Ground yn archwilio diddordeb y ddau artist mewn creu gwaith mewn tirweddau gwledig gyda’r cymunedau sy’n byw ynddynt – yn fanylach, y gofodau ry’n ni’n eu galw’n “gomin.” Tir comin. Beth mae’n olygu i deimlo’n rhan o’r gofodau hyn?
Trwy’r prosiect hwn, bydd yr artist yn gweld gwaith, mynychu symposia a gweithdai, a phrofi mentora gydag artistiaid all gefnogi ei thaith. Wrth feddwl am y logisteg sy’n mynd mewn i waith awyr agored, cwrdd â phobl sy’n creu theatr dirweddol yn broffesiynol a chydweithio ag amryw o fudiadau, maent yn gobeithio adeiladu sail ar gyfer “strategaethau” creadigol a chael eu hysbrydoli gan brosiectau, pobl a syniadau arbennig.