Côr Tide Whisperer TEAM
Ynglŷn â’r prosiect
Bu i Tide Whisperer NTW, a berfformir ar strydoedd a glannau Dinbych-y-pysgod, alw am gôr cymunedol. Daeth Swyddog Cyswllt TEAM Sir Benfro, Robbie, â chôr o gyfranogwyr ynghyd o bob cwr o’r sir i weithio gyda’r cast a’r tîm creadigol i ddarparu cyfraniad cerddorol prydferth at y sioe. Er i’r sioe ddod i ben ar ddiwedd yr haf, mae’r côr yn dal wrthi ac roeddem wrth ein boddau â’u cael i berfformio eto yn ein Parti Perfformiad TEAM diwedd blwyddyn yn Hwlffordd.