Ynglŷn â'r prosiect
Mae Cyfnodau Preswyl ar Leoliad yn gyfleoedd unigryw i dreulio amser ymchwil a datblygu yn edrych ar syniadau newydd ar gyfer perfformio, sydd wedi’u gwreiddio mewn lleoliad neu gymuned.
The (Future) Wales Coast Path
Alison Neighbour
Mae The (Future) Wales Coast Path yn archwiliad o godi lefel y môr a’i effeithiau ar gymunedau sy’n byw ger yr arfordir. Wedi’i ddyfeisio gan yr artist a’r senograffydd Alison Neighbour, mae’n brosiect amlweddog sy’n gwahodd sgwrs am addasu a chyfrifoldeb, a’i nod yw cynnwys lleisiau’r tir a’r llanw fel rhan o’r sgwrs honno.
Women (Of Colour) And Nature
Durre Shahwar
Mae Women (of Colour) and Nature yn archwilio’r ffyrdd rydym yn diffinio a chreu ein hunaniaeth o fewn natur, a’r gofodau sâff rydym yn awchu amdanynt mewn byd sy’n teimlo’n llai a llai sâff. Nod y prosiect yw amlygu safbwyntiau angenrheidiol menywod nad ydynt yn wyn o fewn yn y pwnc cyfarwydd hwn.
Datod/Unravel
Emily Laurens
Yn ystod y cyfnod hwn o ymchwil greadigol bydd Emily yn ymweld â melinau Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin, ac yn ymateb iddynt, fel rhan o brosiect mwy hirdymor sy’n archwilio cynhyrchu tecstilau yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Decolonising Faith: Rituals for an Emancipated Futures
Rabab Ghazoul
“Without inner change there can be no outer change. Without collective change, no change matters.” – Angel Kyodo Williams.
Mae’r prosiect hwn yn ceisio ail-fframio’r hyn y gallai ein traddodiadau ysbrydol amrywiol ei ddweud wrthym am sut i fynd i’r afael â gwreiddiau ein sefyllfa argyfyngus bresennol.
Of the Earth
Natasha Borton
Mae Of the Earth yn cwestiynu sut y gallem ddiogelu ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig gadarnhaol wrth i ni symud ymlaen at ffyrdd o fyw sy’n fwy cynaliadwy yn ecolegol.
Back to the Land
Phil Jones
Mae Back to the Land yn archwilio ffermio cymunedol yn Sir Benfro, gan greu map dwfn o berthynas pobl â’r dirwedd trwy ysgrifennu creadigol.
What Happens When Memory Dies
Yasmin Begum
Mae Laolu Alatise a Yasmin Begum, gyda mentoriaeth gan Saqib Deshmukh, yn gweithio gyda’i gilydd ar Gyfnod Preswyl ar Leoliad sy’n rhychwantu Llundain a Chaerdydd. Wrth gynnal gwaith ymchwil, datblygu a chyfarfodydd rheolaidd ar-lein, maen nhw’n archwilio gweithiau drama Du ac Asiaidd gyfoes ac yn datblygu ysgrifennu cydweithredol mewn ymateb iddynt.
Dinner With My Neighbours
Rebecca Smith Williams
Mae bwyd yn rhan hanfodol o’n bodolaeth. Mae’n teithio hyd a lled ein cyrff; bwyta yw byw. Mae hefyd yn gyfrifol, yn y ffordd mae’n cael ei gynhyrchu heddiw, am ddinistr planedol anferth.