Cyfnodau Preswyl ar Leoliad Digidol 2018-19
Alison John, yello brick
Alison John, yello brick
Correspondence (Working Title)
Amrywiol ac ar-lein
Chwefror – Mawrth 2019
Mae Correspondence yn stori ryngweithiol am daith sydd â’r nod o archwilio themâu safbwyntiau a phrofiadau, yn ogystal â’r syniad o ‘wirionedd’. Bydd yello brick yn archwilio’r cysyniad o greu ‘theatr mewn bocs’; pecyn a anfonir at y rhai a fydd yn cymryd rhan dros gyfnod o rai wythnosau – proses a fydd yn dadlennu stori.
Ymhlith rhai o‘r cwestiynau y mae yello brick eisiau eu harchwilio yn ystod y cyfnod trigiannol hwn mae: sut mae ennyn trafodaeth, a chysylltiadau yn y ffordd hon? Fedrech chi gyd-gysylltu pobl na fyddai fel arfer ag unrhyw gyswllt rhyngddynt? A fedrai’r profiad personol hwn yn eu cartrefi ddatblygu i fod yn ddigwyddiad a fyddai yn dwyn pobl ynghyd o fewn gofod corfforol?
Bydd Alison yn cyd-weithio gyda Hoffi (www.hoffi.com), a chadarnheir cydweithwyr eraill cyn hir.
Lisa Heledd Jones
Lisa Heledd Jones
Yours Sincerely
Yn ddigidol a gogledd Cymru
Ionawr – Mawrth 2019
Yn y prosiect hwn, bydd Lisa Heledd Jones yn rhannu, yn ddigidol a chorfforol, lythyron a ysgrifennwyd gan y teulu Pennant at eu cynrychiolwyr yn Jamaica, llythyron sydd wedi bod yn aros yn dawel bach ers cannoedd o flynyddoedd i gael eu clywed.
Yn ystod Yours Sincerely bydd Lisa yn archwilio’r hanes anodd a rennir gan ddwy gymuned; y rhai a oedd yn byw yng nghysgod y teulu Pennant yng Nghymru a’r caethweision ar blanhigfeydd y teulu yn Jamaica.
Bydd Lisa yn cydweithio gyda Dr James Dawkins
Twitter: @lisaheleddjones
Instagram: lisaheleddjones
Jenn Kirby and Simon Kilshaw - Swansea Laptop Orchestra
Jenn Kirby and Simon Kilshaw – Swansea Laptop Orchestra
Untethered
Abertawe
Nawr – Mawrth 2019
Bydd Untethered yn cynnal ymchwil ac yn datblygu opera electronig, trwy ddefnyddio technolegau diwifr sy’n medru dilyn ystumiau a symudiadau’r perfformwyr.
Bydd y wybodaeth a ddarperir o’r tracio hwn yn caniatáu i Swansea Laptop Orchestra greu offerynnau digidol newydd, datblygu’r feddalwedd a’r caledwedd technolegol sydd ganddynt eisoes ac ymestyn yr hyn a wnânt o ran celfyddyd perfformio.
www.swansealaptoporchestra.com
Twitter: @swanlork
Facebook: SwanseaLaptopOrchestra
Instagram: swanlork
Angela Davies
Angela Davies
Reading the Skies
Dinbych
Mae Angela Davies yn artist aml-ddisgyblaeth sydd wedi ei lleoli yn Ninbych, sy’n gweithio lle bo celf, gwyddoniaeth, technoleg a natur yn gor-gyffwrdd. Maen archwilio ffenomena o fewn byd natur a’n profiad o ganfod a dod yn ymwybodol o’r rheini.
Mae’r defnydd o dechnolegau o fewn ei gweithiau celf yn annog ymgysylltiad barddonol rhwng pobl a lle, ac yn caniatáu myfyrio o’r newydd ar y ffyrdd y gellir profi a dychmygu’r amgylchedd.
Mae Reading the Skies yn archwilio’r profiad synhwyrus o awyr. Trwy gyfrwng casglu gwybodaeth a thechnolegau synhwyro dinasyddion, bydd y prosiect hwn yn ystyried dulliau o fapio gwybodaeth wyddonol mewn dull barddonol, fel ffordd o lunio gwaith y gall cynulleidfaoedd eu profi ac ymwneud â nhw.
https://www.angeladaviesartist.co.uk/
NTW’s Digitally Located Residencies are supported by:
www.jerwoodcharitablefoundation.org