Decolonising Faith: Rituals For an Emancipated Futures
Gentle/Radical
Decolonising Faith: Rituals For an Emancipated Futures
“Without inner change there can be no outer change. Without collective change, no change matters.” – Angel Kyodo Williams.
Mae’r prosiect hwn yn ceisio ail-fframio’r hyn y gallai ein traddodiadau ysbrydol amrywiol ei ddweud wrthym am sut i fynd i’r afael â gwreiddiau ein sefyllfa argyfyngus bresennol. Os yw crefydd sefydliadol wedi gwasanaethu i raddau helaeth i ddyfnhau fframiau trefedigaethol a phatriarchaidd o reolaeth, beth mae’n ei olygu i ‘ddat-drefedigaethu’ ffydd? Beth yw perthynas hyn â diwylliant a’r dychymyg radical? Beth allai ddatblygu os ydym yn mynd ati’n radical i ymdrin â’r storïau, trosiadau, damhegion, alegorïau, a defodau ein testunau crefyddol ac ysbrydol – fel artistiaid a pherfformwyr?
Cyfnodau Preswyl ar Leoliad 2020
Mae Cyfnodau Preswyl ar Leoliad yn brosiectau Datblygu Creadigol sy’n rhoi cyfle i artistiaid cyffrous i arwain ar ddatblygiad cynnar syniad newydd ar gyfer theatr, sydd wedi ei leoli’n benodol mewn safle yng Nghymru. Darllenwch am Gyfnodau Preswyl eraill 2020 yma.