Digwyddiad diwrnod Dylan Thomas
Ynglŷn â'r digwyddiad
Harbwr Solfach | 14 Mai | 5-8yp
Ymunwch â MamGu Welshcakes a TEAM NTW am brynhawn o gelf a pherfformiad yn dathlu bywyd a gwaith Dylan Thomas gyda pherfformiadau barddoniaeth ac adrodd straeon gan Phil Okwedy, Claire Ferguson-Walker, Angharad Tudor, a mwy.
Mae Diwrnod Dylan Thomas yn ddiwrnod rhyngwladol i ddathlu bywyd a gwaith y bardd o Gymru, Dylan Thomas, a gynhelir bob blwyddyn ar 14 Mai, sef pen-blwydd y dyddiad y darllenwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf ar lwyfan The Poetry Centre, Efrog Newydd ym 1953.
Cystadleuaeth barddoniaeth
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Dylan Thomas Solfach ar 14 Mai, mae MamGu’s a TEAM NTW yn cynnal cystadleuaeth barddoniaeth wedi’i hysbrydoli gan y thema dŵr.
Gan fod ‘Dylan’ yn golygu ‘mab y môr’, a bod y bardd wedi’i eni yn nhref glan môr Abertawe, ac wedi byw yn ddiweddarach ar yr aber yn Nhalacharn, rydyn ni’n chwilio am gerddi sy’n dathlu ein moroedd, ein hafonydd, ein llynnoedd, a’n pyllau, er bod croeso i gerddi am ddŵr ym mhob ffurf, o raeadrau i ffynhonnau, baddonau i ddŵr yfed.
Wedi’i beirniadu gan banel o TEAM a Connor Allen (Bardd Plant Cymru), mae gwobrau i’w hennill…
Ar gyfer 11-16 oed, bydd y gerdd a’r bardd a ddewisir yn ennill gwobrau gan NTW a Mamgu’s Welshcakes, a chael tystysgrif swyddogol.
Ar gyfer 16+ oed, bydd y gerdd a’r bardd a ddewisir yn cael eu tystysgrif swyddogol a 2 docyn i Ŵyl Edge Solfach!
Anfonwch eich ceisiadau at team@nationaltheatrewales.org erbyn 20 Mai, 12pm.
Ni allwn aros i ddarllen eich cerddi. Pob lwc!