Gweithdai Celf “Ein Lleisiau”
About the project
O ddechrau mis Tachwedd, cynhaliodd artistiaid Wrecsam Adrian Medcalf a Sophia Leadill gyfres o weithdai gyda chyfranogwyr digartref lleol yn CAIS, elusen sy’n helpu pobl â dibyniaeth, iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth. Bu Adrian yn dysgu paentio portread, ochr yn ochr â Sophia a gynigiodd wersi mewn ffurfiau celf eraill.
Cafodd arddangosfa o’r gwaith a grëwyd gan y cyfranogwyr ei harddangos am fis yn Llyfrgell Wrecsam, gan ennill llawer o ganmoliaeth a chefnogaeth gan y cyhoedd.