Network: Comisiynau Digidol Newydd

Mae National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru yn agor galwad am gomisiynau newydd i wneud theatr fyw mewn mannau digidol yn ystod y cyfnod o gyfyngiad ar symudiad sy’n mynd rhagddo.
Amdano'r Prosiect

National Theatre Wales & Theatr Genedlaethol Cymru
gyda BBC Cymru Wales & BBC Arts
Sut mae gwneud theatr mewn cyfnod o gyfyngiad ar symudiad?
Yn union fel y gwnaethoch yn y gorffennol, ond ei fod yn wahanol ym mhob ffordd bosibl.
Agorodd National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru galwad am gomisiynau newydd i wneud theatr fyw mewn mannau digidol yn ystod y cyfnod o gyfyngiad ar symudiad sy’n mynd rhagddo.
Croesewir ceisiadau am brosiectau Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog, neu BSL, yn ogystal â’r rhai nad oedd yn cynnwys unrhyw iaith lafar o gwbl.
Gwahoddwyd artistiaid theatr Cymru i ddod o hyd i ymatebion arloesol, cyffrous a dynol i’r her hon ac i helpu cynulleidfaoedd, cymunedau a’u gwneuthurwyr theatr i ddod at ei gilydd tra byddwn i gyd yn cael ein cadw ar wahân.
Dream a Little Dream for Me
Dream a Little Dream for Me
Cysyniad gwreiddiol a pherfformiad gan Emily Laurens
Cyfeiliant sain byw byrfyfyr gan Henry Sears
O fewn bwth pyped bach tu hwnt, gwyliwch wrth i freuddwydion a gasglwyd oddi wrthych chi, y gynulleidfa, ddod yn fyw. Dyma’r foment i ddathlu’r isganfyddol a phlymio i’n breuddwydion, a’r holl ryfeddod sy’n dod gyda hwy.
Darganfyddwch mwy o wybodaeth am Dream a Little Dream for Me
Fy Ynys Las
Fy Ynys Las
Crëwyd gan Eddie Ladd
Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, mae Eddie Ladd, yr artist a’r berfformwraig arobryn, wedi symud gartref i fyw gyda’i mam ar y fferm lle cafodd ei magu – Maesglas. Ym mhob twll a chornel o’r llecyn rhyfeddol hwn – y ffermdy, y beudy, y clôs a’r tŷ tato – mae Eddie yn ail-ymweld â hanes y teulu, straeon y gymuned leol, ac atgofion am ei gyrfa hir ac amrywiol ei hun.
LIFE COACH
LIFE COACH
Cysyniad gwreiddiol gan Justin Teddy Cliffe
Profiad theatr digidol ymdrochol newydd yw LIFE COACH, sy’n cynnal archwiliad coeglyd o ddiwylliant pop modern y gurus hunan-gymorth ar-lein.
Room to Escape
Room for Escape
Crëwyd gan Anna Poole a Kelly Jones
Mae bocsys llawn dirgelwch yn cyrraedd blychau postio pedwar teulu ledled Cymru. Yn y bocs, byddant yn darganfod y cynhwysion i drawsnewid eu cartrefi yn wagle theatraidd hudol. Ymunwch â ni er mwyn darganfod beth sy’n digwydd nesaf.
Er Cofid
Er Cofid
Crëwyd gan Er Cof.
4 Ffrind. 6 Awr. Cannoedd o Eiriau. Dyma Er Cofid 19. Yn y perfformiad digidol cyntaf o’i fath drwy gyfrwng y Gymraeg, ymunwch â phedwar ffrind dan glo, wrth iddynt ladd amser, pryfocio a rhoi’r byd yn ei le.
Humans Move
Humans Move
Crëwyd gan Jessie Brett
Yn uno cwmni integredig o ddawnswyr ag anableddau a dawnswyr heb anableddauo Gymru, Ethiopia,Lloegr a Sbaen, bydd ‘Humans Move’ yn archwilio sut rydym yn glynu at ein hunaniaeth, pan fydd y byd o’n cwmpas mor ansicr ac yn newid…
Pull Up A Pew
Pull Up A Pew
Crëwyd gan Rhys Slade-Jones
Yn Pull Up A Pew, bydd Rhys Slade-Jones yn treulio pum niwrnod yn cerdded rhan o Glawdd Offa, yn cario gyda nhw ddwy gadair wedi’u haddurno â gorchuddion wedi’u crosio â llaw. Bydd y cadeiriau yn orseddau. Totemau i’w cynnig i’r rhai y gwrthodwyd gwasanaeth angladd iddynt yn ystod pandemig COVID-19.
O Ben’groes at Droed Amser
O Ben’groes at Droed Amser
Crëwyd gan Karen Owen gyda Maggie Ogunbanwo
Dau ffrind, hanner awr o daith, llu o atgofion – a’r cyfan y tu ôl i fasgiau mewn cyfnod o bandemig byd-eang.
Ymunwch â’r awdur a’r bardd Karen Owen wrth iddi gamu ar fws a chychwyn ar daith o’i chartref, a’r stryd lle y’i magwyd, at y cloc yn sgwâr Bangor. Yn cadw cwmni i Karen ar ei phererindod bersonol, mae Maggie Ogunbanwo. Yn wreiddiol o Lagos, Nigeria, mae Maggie yn rhedeg ei busnes bwyd llwyddiannus o dafarn Y Red Lion ym Mhenygroes.