No Profit in Pain
Ynglŷn â’r Prosiect

National Theatre Wales & Gruff Rhys
NO PROFIT IN PAIN
Ar gael i’w lawrlwytho NAWR
From Cradle to grave
From the moment I was born you patched me up to stay strong
Mae National Theatre Wales (NTW) a Gruff Rhys yn annog pawb i gefnogi’r GIG yn gadarn, gan ddod ynghyd i wthio cân Gruff o 2018 No Profit in Pain yn ôl i’r amlwg i godi arian i elusennau’r GIG sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Wedi’i hysgrifennu a’i rhyddhau yn 2018, mae NTW a Gruff Rhys yn defnyddio’r trac i sicrhau bod neges angerddol am rôl amhrisiadwy’r GIG a’i staff yn parhau’n amlwg, wrth i effaith ddinistriol pandemig COVID-19 barhau.
Wedi’i chomisiynu’n wreiddiol gan NTW fel rhan o ŵyl NHS70 y cwmni, rhyddhawyd No Profit in Pain yn 2018; baled synth pop yn nodi 70 mlynedd o sefydliad gwerthfawr y mae ei wreiddiau wedi eu plannu’n gadarn yng Nghymru. Roedd NTW a Gruff Rhys yn awyddus i ailedrych ar y trac fel arwydd cyhoeddus o falchder, cefnogaeth a gwerthfawrogiad cenedlaethol i’r GIG a’i staff ac i anfon neges am yr angen i warchod a chefnogi’r sefydliad yn barhaus, gan gyfeirio’r holl elw o’r lawrlwytho i elusennau sy’n cefnogi gweithwyr y GIG yn ystod y pandemig.
Mae No Profit in Pain bellach ar gael i’w lawrlwytho. Bydd yr holl elw o werthiannau lawrlwytho yn mynd i elusennau sy’n cefnogi gweithwyr y GIG yn ystod y pandemig. Lawrlwythwch y trac yma
Mae No Profit in Pain yn cynnwys iaith gref.