Radical Creatures

Bydd National Theatre Wales yn llwyfannu cynhyrchiad newydd sbon gan y gwneuthurwr theatr, cyfarwyddwr, actor a cherddor Hannah McPake yn 2020.
Ynglun a'r Prosiect

Bydd National Theatre Wales yn llwyfannu cynhyrchiad newydd sbon gan y gwneuthurwr theatr, cyfarwyddwr, actor a cherddor Hannah McPake yn 2020.
Y sioe, o’r enw Balloon Girl, yw’r cais llwyddiannus ar gyfer comisiwn Radical Creatures y cwmni – syniad a lansiwyd ym mis Tachwedd yn gwahodd artistiaid benywaidd Cymreig i gyflwyno syniadau rhyfeddol, gwreiddiol sy’n archwilio yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn fenyw yng Nghymru heddiw.
“Cawsom ymateb eithriadol i’r galwad Radical Creatures – gwnaed argraff enfawr ar y panel gan ystod ac amrywiaeth y syniadau a dyheadau’r artistiaid. Gyda rhestr fer mor eithriadol o gryf, roedd bob amser yn mynd i fod yn anodd dewis un syniad, ond cipiodd Balloon Girl ddychymyg pawb. Mae’n adrodd stori sydd dros 100 mlwydd oed, y mae ychydig iawn o bobl yn gwybod amdani, ond sy’n adlewyrchu mor huawdl ein breuddwydion a’n dymuniadau fel menywod.”
Kully Thiarai, Cyfarwyddwr Artistig, National Theatre Wales
Bydd Balloon Girl yn gynhyrchiad ar raddfa fawr, aml-lwyfan a ysbrydolir gan Arddangosfa Celfyddyd Gain, Diwydiannol a Morol Caerdydd yn 1896 – digwyddiad ysblennydd enfawr a ddenodd dros filiwn o ymwelwyr i’r ddinas – ac yn arbennig y stori wir anhygoel o daith mewn balŵn aer poeth a ddaeth i ben mewn trasiedi.
Gan adlewyrchu cryfder y cynigion ar y rhestr fer, gwnaeth tri syniad arall – gan y bardd adramodyddMenna Elfyn a’r gwneuthurwyr theatr Angharad Lee a Tina Pasotra – argraff arbennig ar banel beirniadu Radical Creatures, ac mae National Theatre Wales yn bwriadu datblygu’r tri syniad hyn ymhellach hefyd.
Caiff manylion llawn Balloon Girl eu cyhoeddi fel rhan o gyhoeddiad tymor 2020 National Theatre Wales, yn ddiweddarach eleni.
Balloon Girl
“Mae Balloon Girl yn stori am anelu’n uchel. Heriodd galwad Radical Creatures fi i freuddwydio y tu hwnt i’r hyn yr oeddwn wedi’i ddychmygu’n bosibl fel artist unigol. Yr wyf wrth fy modd yn gweithio gyda National Theatre Wales, i ddod â stori ryfeddol Gymreigyn fyw unwaith eto, tra’n dathlu straeon y bobl sy’n byw yma heddiw.
Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol a beiddgar ac ni fyddai’n bosibl heb gymorth ac arbenigedd National Theatre Wales.”
Hannah McPake
Mae Hannah yn berfformiwr, gwneuthurwr theatr a chyfarwyddwr. Mae hi’n gyd-sylfaenydd y cwmni theatr-gig arobryn Gagglebabble, a Shakedown Cardiff.
Fel perfformiwr, mae credydau theatr helaeth Hannah yn cynnwys gwaith gyda; Sherman Cymru, Told by an Idiot, Improbable, Spymonkey, Shakespeare’s Globe, National Theatre of Scotland, National Theatre Wales a China Plate.
Mae ei chredydau cyfarwyddo yn cynnwys gwaith gyda Likely Story/Canolfan Mileniwm Cymru, Mess up the Mess and Yellobrick, yn ogystal â chreu gwaith gyda Gagglebabble.