TEAM Sir Benfro

Mae NTW TEAM wedi cychwyn ar ei brosiect mwyaf hyd yma – un a fydd yn cynnwys cymunedau Sir Benfro a Wrecsam mewn rhaglen unigryw o ymrymuso, arweinyddiaeth, gweithredu creadigol ac ymwneud dwys hir-dymor a fydd yn esgor ar gynhyrchiad ar raddfa fawr yn y naill leoliad a’r llall.
Rydym nawr yn falch o gyhoeddi mai’r thema a ddewiswyd yw Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd.
Darllenwch ragor ynghylch y stori hyd yma, yr amserlen o hyn ymlaen a sut y medrwch chi fod yn rhan o’r fenter…
Yr hanes hyd yma?
Dyma rhai o uchafbwyntiau prosiect TEAM Sir Benfro hyd yma (ac isod mae na oriel o luniau a deunydd fideo o’r digwyddiadau rheini).
Ebrill 2018
Parti lawnsio yng Nghaffi Pura, Dinbych y Pysgod
Yn cynnwys perfformiadau gan y beirdd-ddramodwyr Louise Wallwein MBE ac Ali Goolyad, cyflwyniad gan y chwedl leol Molara Awen ac adloniant oddi wrth y cerddorion o Sir Benfro Lucy Jones a Gethin John ynghyd â’r gwych Tomos Lewis.
Mai 2018
Gŵyl y Môr yn Freshwater West
Roedd Gŵyl y Môr Bwyd Traeth Sir Benfro yn Fferm Gupton, gerllaw traeth y gorllewin yn Freshwater West, yn fan perffaith i ledu’r gair ynghylch ein prosiect. Gan weithio gyda disgyblion o Ganolfan Ddysgu Sir Benfro mewn cydweithrediad â’r Surfers Against Sewage, fe wnaethom ni greu cit drymio allan o blastig a gwastraff arall a oedd wedi eu golchi lan ar draethau Sir Benfro. Yn yr ŵyl bu’r rhyfeddol Nii Okai Tagoe yn perfformio ar y cit er mwyn darparu cyfeiliant i’r canwr Molara Awen gynt o’r Zion Train singer a’r cerddor o Sir Benfro Ben Mason.
Gorffennaf 2018
Gweithdy barddoniaeth yn Ysgol Greenhill, Dinbych y Pysgod
Arweiniodd y bardd a’r dramodydd Louise Wallwein MBE, awdur Tide Whisperer weithdy barddoniaeth yn Ysgol Greenhill ac ar Draeth y De. Roedd Louise wedi bod yn wirfoddolwr yng Ngwlad Groeg ar anterth yr argyfwng ffoaduriaid, ac yn cofio’r effaith y cafodd gêm o bel-droed ar y traeth o ran dwyn plant lleol Gwlad Groeg a’r ffoaduriaid o blant ynghyd. Fe wnaeth disgyblion Greenhill fwynhau ail-greu’r atgof hwn ar gyfer Louise gan fynd ymlaen i ail-greu’r olygfa fel rhan o Tide Whisperer.
Awst 2018
Noson meic agored gyda Span Arts yng Ngwesty’r Druidstone, Hwlffordd
Noson o ddathlu’r doniau rhyfeddol sydd i’w cael yn Sir Benfro; o’r gitarydd sy’n syrffio i harmonïau coeth, o ddigrifwyr i glowniau, o feirdd i ddisgleirdeb wrth berfformio.
Medi 2018
Côr TEAM Tide Whisperer
Fel rhan o Tide Whisperer NTW, a lwyfannwyd ar strydoedd a glan môr Dinbych y Pysgod, roedd galw am gôr cymunedol. Llwyddodd Cydymaith TEAM Sir Benfro y llynedd, ddwyn ynghyd gyfranwyr o bob rhan o’r sir er mwyn llunio côr persain a fu’n rhan creiddiol o’r sioe. Mae’r côr yn parhau i fynd o nerth i nerth…
Medi 2018
Sesiwn gymdeithasol Tide Whisperer TEAM
Daeth dros 200 o bobl o bob cwr o Sir Benfro draw i Ddinbych y Pysgod er mwyn cael gweld Tide Whisperer am y tro cyntaf. Ar ôl y sioe, gwahoddwyd y cynulleidfa i wrando ar gerddoriaeth fyw yn y Sand Bar yn Ninbych y Pysgod gan fwynhau gweld arddangosfa ffotograffig, trwy garedigrwydd Amnesty International, o’r enw I Welcome.
Tachwedd 2018
Parti Perfformio, Haverhub, Hwlffordd
Noson o berfformio, trafod, bwyd, diod a llawer llawer mwy, er mwyn nodi diwedd blwyddyn gyntaf ein rhaglen bedair blynedd o hyd yn Sir Benfro. Yn y digwyddiad hwn y penderfynodd y trigolion lleol ar thema Newid Hinsawdd ar gyfer y cynhyrchiad terfynol.
Ebrill 2019
Gweithdy Point, Abergwaun
Nod prosiect Point oedd gweithio gyda phobl ifanc Canolfan Ieuenctid Point yn Abergwaun. Gan weithio gyda’r artist lleol, Pip Lewis, creodd y plant fygydau pen pysgod a’u gwisgo drwy Abergwaun i ardal a adwaenir fel y Cannons, yn edrych dros y Dref Isaf (lle y ffilmiwyd Under Milk Wood yn wreiddiol), er mwyn cael tynnu’u lluniau. Drwy gydol y broses, llwyddwyd i greu sgyrsiau am eu hamgylchedd a’r unigedd cymdeithasol y maent yn ei wynebu yn byw mewn tref wledig.
Mai 2019
Gŵyl y Môr yn Freshwater West
Cawsom ein gwahodd i berfformio yng Ngŵyl y Môr, gŵyl y parciau cenedlaethol sy’n dathlu’r môr. Yr oedd yn teimlo’n addas y dylem berfformio stori Cantre’r Gwaelod. Gan ddefnyddio cymysgedd o slapstic, clownio, adrodd straeon a cherddoriaeth, creon ni ddarn yn gweithio gyda pherfformwyr lleol i’w berfformio i gynulleidfaoedd o bob oed. Drwy gydol y perfformiad roeddem yn gallu ymgysylltu â’r gynulleidfa a dod â’r plant i fyny ar y llwyfan i fod yn rhan ohono fel y môr byrlymus.
Gorffennaf 2019
Noson meic agored gyda Span Arts yng Ngwesty’r Druidstone, Hwlffordd
Cawsom noson wych yng Ngwesty’r Druidstone ar 4 Gorffennaf ar gyfer noson Mic Agored NTW TEAM gyda Span Arts. Amrywiaeth mor eang o berfformwyr dawnus, i gyd yn dathlu’r amgylchedd a machlud perffaith ar ben y cyfan hefyd! Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran a ddiolch enfawr i Jack Abbott am y fideo gwych hefyd.
Medi 2019
Sesiynau Medi: Straeon a Sêr
I ddathlu statws Skrinkle fel un o’r safleoedd syllu gorau yng Nghymru, am brynhawn o adrodd straeon gyda Phil Okwedy ac arddangosfa o Astroffotograffiaeth Wayne Boucher.
Roedd noson gomedi NTW TEAM yn The Meadow yn Nhyddewi ei guradu gan aelod TEAM Panel Angharad Tudor-Price. Noson anhygoel oedd hyn o gomedi gan ddigrifwyr lleol, Angharad Scourfield, Fire Donkey Productions, Owain Roach a Clare Ferguson-Walker yn cefnogi Maint Cymru!
A Restless Art: Sgwrs gan François Matarasso yn Peppers, Abergwaun

Roeddem yn falch iawn o allu cynnal sgwrs ar gelfyddyd gyfranogol yn Peppers, Abergwaun, gyda’r artist, awdur ac ymgynghorydd cymunedol enwog, François Matarasso.
Tachwedd 2019
Sesiwn rhannu syniadau yn The Hope Inn ym Mhenfro
Sesiwn rhannu syniadau roedd hwn yn gyfle i’r gymuned leol rannu’r hyn maen nhw ei eisiau gan TEAM a darganfod sut i gymryd rhan. Y prynhawn yn cynnwys ffilmiau amgylcheddol ac adloniant o beirdd, cerddorion ac artistiaid lleol.
TEAM Exchange yn Y Gegin, Doc Penfro
Roedd TEAM Exchange yn Y Gegin yn noson i’w chofio! I gyd-fynd â lansiad Go Tell the Bees, cynhaliom barti ar gyfer pobl greadigol, ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector amgylcheddol ac ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgaredd TEAM.
Chwefror 2020
Rhoddodd 25 mlwyddiant gollyngiad olew y Sea Empress gyfle inni fyfyrio ar gyfnod o drychineb amgylcheddol a’r gymuned yn dod at ei gilydd yn ei galar – stori go iawn yn Sir Benfro sy’n crisialu’r themâu rydyn ni wedi bod yn eu harchwilio drwyddi draw.
Fe wnaethon ni gynnal cyfweliadau â chapteiniaid môr, perchnogion gwestai, syrffwyr, aelodau o’r gymuned, gwirfoddolwyr a staff glanhau, ffilm newyddion hanesyddol a ffotograffau wedi’u cyfuno i greu Sea Empress 25.
…Roeddem yn awyddus i adael i bobl wybod bod Go Tell the Bees yn sicr yn fyw, ac roeddem wir eisiau dod o hyd i ffyrdd i bobl gyfrannu’n greadigol at ei ddatblygiad, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd mewn undod, er gwaethaf cael eu cadw ar wahân.
Penderfynon ni wneud ffilm!
Ar ôl cymryd amser i ail-grwpio ac ail-ddychmygu sut y byddai Go Tell the Bees yn cael ei rannu gyda phobl Sir Benfro. Ar ôl sicrhau cyllid am flwyddyn ychwanegol roedd yn bryd cael Cynllun B radical: fe wnaethom benderfynu gyda’r gymuned y byddai’r gwaith hwn yn digwydd ar ffurf ffilm, a dechreuwyd ar y ffilmio gydag actorion yn y cymunedau. Penderfynwyd mai creu ffilm fyddai’r ffordd orau i rannu’r gwaith yn y ffordd fwyaf diogel, gan barhau i gyflawni’r uchelgais o gynnwys cynifer o bobl a lleoedd ag y gobeithiwyd i ddechrau.
Gan gymryd pen-blwydd Trychineb y Sea Empress fel ei ysbrydoliaeth, mae Go Tell the Bees yn stori bachgen ifanc, Dryw, sy’n cael ei dynnu i ddod â’r gymuned yn ôl at ei gilydd eto i helpu i rannu eu straeon gyda’r gwenyn er mwyn cadw ein planed yn fyw.
Ystorfa Addysg
Crëwyd ystorfa o wybodaeth, gweithgarwch ac ysbrydoliaeth i bobl ifanc ei defnyddio fel sbardun ar gyfer dysgu.Ystorfa Addysg
Gweithdai mewn ysgolion
Fe wnaethom gynnal cyfres o weithdai ar-lein ac yn bersonol gydag ysgolion cynradd i greu gwaith celf ar gyfer yr arddangosfa, gan ddefnyddio’r pecyn Ystorfa Ddysgu fel sylfaen ar gyfer ysbrydoliaeth.
Haf 2021: Y Cenadaethau
Gyda phawb wedi’u cyfyngu i’w cartrefi, roeddem am ddarparu cyfle ar gyfer creu a gobaith, yn seiliedig ar themâu’r sioe, felly fe wnaethon ni greu pedair cenhadaeth.
Cenhadaeth 1: Blodau’r haul
Cenhadaeth 2: Phil Okwedy – Tasgau adrodd straeon
Cenhadaeth 3: Beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth y gwenyn?
Cenhadaeth 4: Gweithredoedd Syml
Gorymdaith Ddigidol
Er mwyn darparu eiliadau o gyfranogiad torfol, fe wnaethom ddatblygu gorymdaith ddigidol i efelychu’r orymdaith gorfforol yr oeddem wedi gobeithio y byddai wedi bod yn rhan o’r sioe go iawn. Fe ddangoson ni berfformiad byw o’r orymdaith, ac anogwyd y gynulleidfa Zoom i chwifio’r blodau haul a wnaed yn ystod Cenhadaeth 1 ar bwyntiau allweddol yn y sioe
May 2021
Ein dangosiad cyntaf!
Dangoswyd Go Tell the Bees ar sgrin fawr ar dir Castell Maenorbŷr am y tro cyntaf! Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, caniatawyd uchafswm o 30 aelod o’r gynulleidfa ym mhob un o’r 6 dangosiad.
Roedd y gosodwaith a grëwyd gan dros 500 o blant ysgol a 35 o artistiaid yn cyd-fynd â’r ffilm a gallai aelodau’r gynulleidfa archwilio’r arddangosfa cyn y dangosiadau. Cynhaliwyd gweithdai celf a chrefft trwy gydol y penwythnos lle gallai ymwelwyr â’r castell greu baneri i ychwanegu at yr arddangosfa
Cystadleuaeth Hwdi i Get The Boys a lift
Trwy gydol ein hamser yn Sir Benfro buom yn gweithio gyda’r bobl ragorol yn Get the Boys a Lift, a leolir yn Hwlffordd, sy’n gweithio’n galed iawn i wella iechyd meddwl yn eu cymunedau eu hunain. Fe daflon nhw eu hunain i mewn i Go Tell The Bees, gan arwain at rai ohonyn nhw’n ymddangos yn y ffilm, ac roedden ni am roi rhywbeth yn ôl, felly cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio nifer gyfyngedig o hwdis i’w gwerthu, gyda’r holl elw yn mynd i Get The Boys a lift.
Medi 2021
Go Tell the Bees
Gwnaethom groesawu dros 600 o bobl i’n dangosiadau yng Nghastell Penfro, Fferm Pencarnan a Fferm Bubbleton. Dechreuodd pob un o’n digwyddiadau sgrinio gyda pherfformiad byw, cyfle i archwilio’r arddangosfa gysylltiedig a chyflwyniad gan y storïwr a’r gwneuthurwr chwedlau, Phil Okwedy, a gyflwynodd pob un o’r tri dangosiad.
Gallwch ddarllen araith Phil yn llawn i gael gwybod rhagor am daith TEAM yn Sir Benfro.
Hydref 2021
Go Tell the Bees ffilm
Rydyn ni’n gwybod na fydd llawer ohonoch chi wedi gallu teithio i Sir Benfro, felly rydyn ni wrth ein bodd yn gallu rhannu’r prosiect hwn i chi ei wylio yng nghysur eich cartref drwy gydol mis Hydref 2021.
17 Chwefror 2022
TEAM Exchange, Hwb Narberth
Diolch i bawb wnaeth berfformio, sgwrsio, chwerthin, crefftio, peintio, clapio a dawnsio gyda ni!
Daethom i wybod mwy am y pethau sy’n bwysig i chi, yr hyn yr hoffech ei weld gennym ni, a’r hyn yr ydych angen mwy ohono yn Sir Benfro.
Gweithio gyda phobl ifanc yn Uned Cyfeirio Disgyblion Canolfan Ddysgu Sir Benfro
Mae TEAM wedi gweithio ar brosiectau gydag Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghaerdydd a Sir Benfro ac rydym bob amser wedi ein rhyfeddu gan effaith gadarnhaol y gwaith hwn. Nid yn unig ar gyfer disgyblion a staff, ond ar gyfer cymuned ehangach yr ysgol hefyd. Yn ystod gwanwyn 2022, gwnaethom lunio partneriaeth gyda’r Hyfforddwr Bocsio lleol, Mark Davies o Tenby Sharks, a’r gwneuthurwr ffilmiau Wayne Boucher i gydweithio â phobl ifanc yn Uned Cyfeirio Disgyblion Canolfan Ddysgu Sir Benfro yn Noc Penfro.
Fel rhan o’r prosiect hwn, gwnaeth y myfyrwyr raglen ddogfen. Gan gymryd rhan ym mhob elfen o’i greadigaeth – o fwrdd stori a chyfweld i ffilmio a golygu – bu modd iddynt ddysgu sgiliau newydd a magu hyder mewn ffordd sy’n gweithio iddynt. Gallwch weld canlyniadau eu gwaith caled a gwylio eu rhaglen ddogfen yma.
Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Nodau Byd-eang
Rydym wedi ymrwymo i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dyma’r ffyrdd y byddwn yn ymdrechu i gyflawni’r Saith Nod Llesiant trwy ein gwaith yn Sir Benfro: Cymru Lewyrchus, Cymru Gydnerth, Cymru Iachach, Cymru Fwy Cyfartal, Cymru o Gymunedau Cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog a’r Gymraeg yn ffynnu ac Cymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang. Dysgwch ragor am sut rydyn ni’n gwneud hyn.
Drwy’r gweithgarwch TEAM yn Sir Benfro, gallwn ymrwymo’n hyderus i gyfrannu tuag at bron pob un o’r Nodau Byd-eang.
Cysylltwch â ni
Dewch i gymryd rhan
Os oes gennych chi syniadau creadigol ynghylch TEAM Sir Benfro, yn arbennig o ran thema Newid Hinsawdd, byddem wrth ein boddau cael eu clywed. Dechreuwch feddwl ynghylch eich traethau, y môr, coed, y sêr, ac yna cysylltwch â ni trwy e-bostio team@nationaltheatrewales.org, ac wrth gwrs, pe hoffech chi fod yn rhan o’r fenter byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs â chi.
Cadwch eich llygaid ar agor am gyhoeddiadau pellach…
- Ar y tudalennau gwe yma
- Ar Twitter (#ntwTEAM, ac oddi wrth ein Swyddog Cyswllt TEAM Sir Benfro @RachelJ_NTW)
- A Tudalen TEAM
Cefndir
Ym mis Chwefror 2018, derbyniodd TEAM National Theatre Wales grant o £400,000 gan y Paul Hamlyn Foundation (PHF), un o arianwyr annibynnol mwyaf y DU, er mwyn cefnogi dau brosiect pedair blynedd o hyd; y naill yn Sir Benfro a’r llall yn Wrecsam.
Bydd y naill brosiect a’r llall yn dod i ben gyda sioe NTW – yn Sir Benfro yn 2021 ac yn Wrecsam yn 2022 – a byddant wedi eu creu mewn cydweithrediad clós â’r gymuned.
Paul Hamlyn Foundation
Sefydlwyd Paul Hamlyn Foundation gan Paul Hamlyn ym 1987. Adeg ei farwolaeth yn 2001, gadawodd y rhan fwyaf o’i ystâd i’r Sefydliad, gan greu un o’r sefydliadau rhoi grantiau annibynnol mwyaf yn y DU. Nod y sefydliad yw cynorthwyo pobl i oresgyn anfantais a diffyg cyfleoedd, fel bod modd iddynt gyflawni eu potensial a mwynhau bywydau creadigol a llawn. Mae gan PHF ddiddordeb arbennig mewn cefnogi pobl ifanc ac â chred gref ym mhwysigrwydd y celfyddydau.