The Agency
About the project

Troi eich syniad yn realiti
Ymunwch â’r Agency a throwch eich angerdd yn brosiect
Bydd The Agency yn gweithio gyda phobl ifanc 15-25 oed o ardaloedd Butetown, Glanyrafon a Grangetown yng Nghaerdydd â syniadau sy’n rhaid eu gwireddu.
Rydym yn darparu hyfforddiant, cefnogaeth, cyllid a chyngor gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, i ddatblygu angerdd yn brosiect sydd o fudd i gymunedau lleol. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o weithdy bocsio, i ŵyl cerddoriaeth.
Mae The Agency Rapid Response yn fersiwn fyrrach o the Agency, lle rydym yn gweithio gyda 9 o bobl ifanc i ddatblygu prosiect dros gyfnod o 12 wythnos, o’i gychwyn hyd at ei gwblhau.
Mae’r bobl ifanc wedi creu syniad o’r enw The Sunset Show, lle byddant yn comisiynu artistiaid i greu cyfres o berfformiadau ‘pop-up’ ar strydoedd Caerdydd.