It Takes a Town: The Princes
Becky Davies
Mae’r Cyfnod Preswyl ar Leoliad hwn, gan y dylunydd a’r gwneuthurwr theatr, Becky Davies, wedi’i ysbrydoli gan ysbryd cymunedol Pontypridd yn wyneb prosiectau adfywio a dinistr llifogydd.
Wedi’i greu ar y cyd â’r cyfarwyddwr Elise Davison, y bardd-gerddor Rufus Mufasa, a’r artist sain Tic Ashfield, mae It Takes a Town yn daith chwareus, amlsynhwyraidd lle mae’r gymuned gyfan yn cael ei hannog i chwarae rôl greadigol. Penllanw’r cyfnod hwn o ymchwil artistig fydd cynhyrchu prototeip o lyfr rhyngweithiol wedi’i lenwi â gweithgareddau yn y cartref a ddyluniwyd gan Becky. Bydd caffi prysur Princes yn y dref, a’i botensial synhwyraidd, yn gweithredu fel sbardun ar gyfer y nifer o hanesion a chysylltiadau y gallai trigolion Pontypridd ddod i’r gwaith.
Bydd hygyrchedd i bawb yn chwarae rhan sylfaenol yn natblygiad y prosiect, a fydd yn gofyn: Sut ydych chi’n canfod naratif lle ar ffurf dorfol? Ar adeg o ynysu, sut y gallwn ddod â phobl ynghyd drwy chwarae a chreadigrwydd?
Tudalen NTW Community Becky / beckydavies-theatredesigner-artist.com
Cyfnodau Preswyl ar Leoliad 2020
Mae Cyfnodau Preswyl ar Leoliad yn brosiectau Datblygu Creadigol sy’n rhoi cyfle i artistiaid cyffrous i arwain ar ddatblygiad cynnar syniad newydd ar gyfer theatr, sydd wedi ei leoli’n benodol mewn safle yng Nghymru. Darllenwch am Gyfnodau Preswyl eraill 2020 yma.