Llanberis
Jac Ifan Moore
Treuliodd y cyfarwyddwr Jac Ifan Moore, y dylunydd Rebecca Jane Wood a’r cynhyrchydd Glesni Price-Jones wythnos yn archwilio gofodau perfformio, yn rai naturiol a rhai o waith dyn, yn ardal Llanberis, gan gasglu straeon gan ffynhonellau lleol.
Roedd eu diddordeb yn wreiddiol mewn gweithio tuag at waith perfformio ar raddfa fawr, ond datblygodd y prosiect dros y cyfnod ymchwil, ac mae’r tîm ‘nawr yn datblygu model newydd o wreiddio cwmni theatr preswyl bach yn y tirwedd gwledig, gyda’r teitl dros-dro The Wild Rep.