Far Apart, But Close at Heart
About the project
Tŷ Pawb, Market St, Wrecsam, LL13 8BB | 12 Mai | 12-3yp
Ymunwch â National Theatre Wales yn Nhŷ Pawb am gyflwyniad o’r effaith gadarnhaol y mae ymgysylltu creadigol wedi’i chael ar bobl ifanc lleol drwy gydol cyfnod clo Covid-19.
Mae’n hysbys yn gyffredinol bod cyfranogiad pobl ifanc yn y celfyddydau yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Gorfododd Covid-19 sefydliadau celfyddydol i symud eu gweithgareddau ar-lein, gan newid yn sylweddol y ffyrdd y maent yn cefnogi pobl ifanc.
Mae’r rhaglen yn cael ei chreu ar y cyd â Phobl Ifanc o Wrecsam a bydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad i’r prosiect a’r ymchwil
- Cyflwyniad i NTW a phrosiect TEAM Wrecsam NTW
- Perfformiad gan bobl ifanc o’u safbwynt nhw o Gyfnod Clo Covid-19
- Trafodaeth ryngweithiol am Covid-19 a phrofiad y cyfnod clo
- Cyfle i sefydliadau sy’n canolbwyntio ar y Celfyddydau a Phobl Ifanc rwydweithio
- …darperir cinio!
Gwnaeth yr ymchwil Y tu hwnt i’r Cyfnod Clo: Sut Gall Sefydliadau Celfyddydol y DU Barhau i Gefnogi Llesiant Pobl Ifanc yn ystod COVID-19 (Far Apart, Close at Heart UK) archwilio effaith newid i’r digidol ar weithwyr celfyddydol a phobl ifanc. Bydd copi digidol o’r ymchwil ar gael i fynychwyr.
E-bostiwch team@nationaltheatrewales.org os hoffech ymuno â’r rhannu.
Partneriaid a'r cyllidwyr
Mae Far Apart but Close at Heart UK wedi’i gynnal gan People’s Palace Projects a’r Uned Seiciatreg Gymdeithasol a Chymunedol, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain, a’i datblygu ar y cyd â’r pum sefydliad celfyddydau cymunedol a ganlyn, sydd wedi’u lleoli ar draws y DU: Contact, Canolfan Celfyddydau Battersea, Dirty Protest, National Theatre Wales a Theatre Royal Stratford East.
Wedi’i hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC, cyfeirnod prosiect: AH/V015613/1) a chyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.